To read this information in Welsh, click here
I ddarllen y wybodaeth hon yn Gymraeg cliciwch yma
On the day contact
The Ceremonies Centre will be closed on the day of the ceremony, so to reach us / get a message passed to us please telephone +44 (0) 29 21 674 545.
Accessibility
The International Convention Centre is fully accessible. For full details, please visit www.iccwales.com/venue/accessibility/.
If, when making your ceremony booking, you indicated that you or any of your guests, have additional requirements you will be contacted by a member of our Wales graduation team in the weeks before your ceremony.
If you did not indicate additional requirements when booking, and need to, please contact the Wales graduation team on 029 21 674 545 or via wales-graduation@open.ac.uk, no later than 4 weeks before your ceremony.
Travel and Accommodation
There are plenty of ways to get to your ceremony, find out how to get to the venue by visiting www.iccwales.com/getting-here/. If you are driving, there is a 700-space paid car park underneath the venue (costs apply), and a further 1,300 visitor car park spaces across the Celtic Manor Resort, where the venue is located.
If you chose to stay at the resort or nearby before the ceremony you may find you can even walk to the venue. The ICC Wales is on the site of the Celtic Manor Resort and Hotel and located within a 10-minute walk of neighbouring hotels including the Holiday Inn, Premier Inn and Coldra Court Hotel by Celtic Manor. The Celtic Manor Resort hosts various hotels on site, you can find out more by visiting www.iccwales.com/organisers/accommodation/.
Refreshments
The venue has two coffee shops located within the grounds where you will be able to purchase refreshments and light snacks. The venue also has water re-fill stations throughout. The venue’s Aspect Bar will be closed on the day of your ceremony but there are several bars in the Celtic Manor Resort which you can find out more about by visiting www.celtic-manor.com/dining/bars.
The Celtic Manor Resort has several options available for dining, drinks or afternoon tea, please visit www.iccwales.com/visitors/wine-dine/ for further information.
We would encourage you to make your reservations in advance of your ceremony day.
Cloakroom
The cloakroom is located on Floor -1. If you are using the venue’s car park, you will see the cloakroom as you make your way up to registration. Otherwise, you can take the escalators or lifts from the Atrium to Floor -1 to use the cloakroom.
Please note that large bags, pushchairs, buggies, etc. will not be permitted within the auditorium during the ceremony due to health and safety.
First Aid
If first aid assistance is required whilst at the venue, please report to a member of venue staff.
Security & emergencies
Please note it is the venue’s discretion to enforce any security measures, such as bag searches.
Should the need to evacuate arise, an announcement will be made, and venue staff will provide further instruction.
Gwybodaeth am y lleoliad
Cyswllt ar y diwrnod
Bydd y Ganolfan Seremonïau ar gau ar ddiwrnod y seremoni, felly os byddwch am gysylltu â ni / anfon neges atom, ffoniwch +44 (0) 29 21 674 545.
Hygyrchedd
Mae'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn gwbl hygyrch. I gael manylion llawn, ewch i www.iccwales.com/venue/accessibility/.
Wrth gadw lle yn eich seremoni, os byddwch wedi nodi bod gennych chi neu unrhyw rai o’ch gwesteion ofynion ychwanegol bydd aelod o’r tîm graddio yng Nghymru yn cysylltu â chi yn yr wythnosau cyn y seremoni.
Os na wnaethoch nodi unrhyw ofynion ychwanegol wrth gadw lle, ac os oes angen i chi wneud hynny, cysylltwch â’r tîm graddio yng Nghymru ar 029 21 674 545 neu drwy e-bostio graddio-cymru@open.ac.uk, o leiaf bedair wythnos cyn eich seremoni.
Teithio a Llety
Mae sawl ffordd o gyrraedd eich seremoni. Mae gwybodaeth am sut i gyrraedd y lleoliad ar gael yn www.iccwales.com/getting-here/. Os byddwch yn gyrru, mae maes parcio o dan y lleoliad (codir tâl i barcio), yn ogystal â 1,300 o leoedd parcio ychwanegol i ymwelwyr ar dir Gwesty Hamdden y Celtic Manor, lle mae'r lleoliad.
Os byddwch yn aros yn y gwesty neu yn yr ardal gyfagos cyn y seremoni, mae'n bosibl y byddwch am gerdded i'r lleoliad. Lleolir Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar safle Gwesty Hamdden y Celtic Manor, ac mae sawl gwesty cyfagos o fewn pellter cerdded o 10 munud iddo, gan gynnwys Holiday Inn, Premier Inn a Coldra Court Hotel by Celtic Manor. Mae nifer o westai ar safle'r Celtic Manor hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael amdanynt yn www.iccwales.com/organisers/accommodation/.
Lluniaeth
Mae dau gaffi ar dir y lleoliad lle y gallwch brynu lluniaeth a byrbrydau ysgafn. Mae gorsafoedd llenwi poteli dŵr ledled y lleoliad hefyd. Bydd bar y lleoliad, yr Aspect, ar gau ar ddiwrnod eich seremoni, ond mae sawl bar ar safle Gwesty Hamdden y Celtic Manor. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.celtic-manor.com/dining/bars.
Mae sawl opsiwn ar gael ar gyfer prydau bwyd, diodydd neu de prynhawn yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor hefyd. Ewch i www.iccwales.com/visitors/wine-dine/ am ragor o wybodaeth.
Byddem yn eich annog i wneud eich trefniadau i gadw bwrdd ymhell cyn diwrnod eich seremoni.
Ystafell gotiau
Mae'r ystafell gotiau ar Lawr -1. Os byddwch yn defnyddio maes parcio'r lleoliad, byddwch yn gweld yr ystafell gotiau wrth i chi fynd i'r man cofrestru. Neu, gallwch fynd ar y grisiau symudol neu'r lifft o'r Atriwm i Lawr -1 i ddefnyddio'r ystafell gotiau.
Noder na fydd modd dod â bagiau mawr, cadeiriau gwthio, bygis ac ati i mewn i'r awditoriwm yn ystod y seremoni am resymau iechyd a diogelwch.
Cymorth Cyntaf
Os bydd angen cymorth cyntaf arnoch pan fyddwch yn y lleoliad, rhowch wybod i aelod o staff y lleoliad.
Diogelwch ac argyfyngau
Noder mai'r lleoliad fydd yn pennu unrhyw fesurau diogelwch, megis chwilio bagiau.
Os bydd angen gwagio'r lleoliad, gwneir cyhoeddiad, a bydd staff y lleoliad yn rhoi rhagor o gyfarwyddiadau.