Mae'n troi allan i fod yn flwyddyn gofiadwy i Tony Morton - nid yn unig mae wedi graddio gyda gradd mewn hanes yn 87 mlwydd oed ond mae hefyd wedi ennill Gwobr Ysbrydoli! Addysg Oedolion am ei ymdrechion!
Dechreuodd y cyn brentis peirianneg Rolls Royce, a aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr grŵp o gwmnïau yng ngogledd-orllewin Lloegr, astudio am radd yn ystod cyfnod clo pandemig Covid dair blynedd yn ôl.
Roedd wedi hedfan yn ôl ar frys i'r DU o Bortiwgal a chafodd ei gyfyngu i'w fflat yng Nghaerdydd. Awgrymodd ei ferch a'i fab-yng-nghyfraith y byddai gradd yn ffordd dda o dreulio ei amser.
A dyna lle dechreuodd taith ddysgu Tony yn ei wythdegau. Er bod yr astudio a'r ymchwil yn ddiddorol, roedd ei sgiliau cyfrifiadurol 20 mlynedd yn hen.
Mae wedi ennill y Wobr Heneiddio’n Dda fydd yn cael ei chyflwyno yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024 a fydd yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Coal Exchange, Caerdydd ar Fedi 10. Mae 11 o enillwyr gwobrau eraill sy'n cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Yn uchafbwynt yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru o fis Medi 9-15, mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi'r gorau i ddysgu.
Mae pob un o enillwyr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, magu hyder a helpu cymunedau i fod yn fywiog ac yn llwyddiannus.
Ni fyddwn wedi cael trwy fy astudiaethau ond am y cymorth technegol a gefais a'r gefnogaeth gan fy narlithwyr cyswllt yn y Brifysgol Agored.
Tony, un o raddedigion y Brifysgol Agored
'Dwi dal mewn sioc ac wedi fy syfrdanu ar ôl ennill y wobr yma sy'n golygu cymaint i mi,' meddai Tony. 'Ni fyddwn wedi cael trwy fy astudiaethau ond am y cymorth technegol a gefais a'r gefnogaeth gan fy narlithwyr cyswllt yn y Brifysgol Agored.
'Wrth i Covid ddechrau cloi'r DU, roeddwn i ar goll. Roeddwn i'n 84 mlwydd oed actif iawn a doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at fod dan glo ac yn unig. Wedi fy mherswadio gan deulu i gyflawni un o uchelgeisiau fy mywyd, dechreuais astudio gradd gyda'r Brifysgol Agored a chychwyn ar fy nhaith rithwir o ddarganfod.'
Gyda chefnogaeth amhrisiadwy gan ei ddarlithwyr cyswllt mewn tiwtorialau a gydag adborth aseiniadau parhaus, llwyddodd Tony i adnewyddu ei sgiliau TG ac astudio yn ogystal ag ehangu ei wybodaeth academaidd.
Roedd Tony wedi gwneud argraff fawr ar ei ferch, Diane, nes iddi ei enwebu ar gyfer y categori Heneiddio’n Dda yng Ngwobrau Ysbrydoli!
'Rydyn ni wedi gweld y trawsnewidiad mae fy nhad wedi'i brofi trwy astudio gyda'r Brifysgol Agored," meddai Diane. 'Er ei bod yn cymryd dwywaith gymaint o amser i wneud nodiadau, ysgrifennu aseiniadau ac ymchwil, mae wrth ei fodd yn astudio ac yn dweud ei fod yn dymuno ei fod wedi gwneud hyn flynyddoedd yn ôl. Mae wirioneddol yn credu fod dysgu wedi ychwanegu blynyddoedd at ei fywyd ac yn tystio i hyn yn barhaus.
'Mewn archwiliad meddygol diweddar, cytunodd y meddyg fod cadw mor effro yn feddyliol, cadw’n drefnus ac ymgysylltu ag astudiaethau wedi helpu iechyd meddwl, cof a lles cyffredinol dad. Y llynedd, fe gerddodd Wal Hadrian, cyn hynny Clawdd Offa a chyn hynny hyd y DU, rhwng astudio!'
Ar ôl mwynhau ehangu ei wybodaeth, dywed Tony ei fod wedi cael ei ddal gan y "byg hanes" a'i nod yw parhau i astudio.
'Rwy'n hyderus bod Covid, i mi'n bersonol, wedi bod yn drobwynt yn fy mywyd a fydd, gyda chymorth fy nhiwtoriaid anhygoel, yn arwain at seremoni raddio,' ychwanegodd Tony.
I oedolion yng Nghymru sy'n awyddus i ddechrau ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein drwy gydol mis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, meithrin sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywyd.
'Mae’r ymdrech, y dalent a'r penderfyniad sydd wedi cael eu harddangos gan yr holl gystadleuwyr yn rownd derfynol Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni yn wirioneddol ysbrydoledig,' dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg. 'Rwy'n benderfynol y dylai Cymru fod yn fan lle mae pawb yn cael cyfle i ddychwelyd i ddysgu ac adnewyddu eu gyrfa ni waeth pa gam o'u bywydau maen nhw ynddo. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle gwych i ddarganfod eich angerdd dros ddysgu neu wella eich sgiliau presennol.
'Byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am gymorth neu newid cyfeiriad i edrych ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Cymru'n Gweithio. Mae dysgu fel oedolyn nid yn unig yn ffordd wych o wella cyflogadwyedd ond mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â hybu hunan-barch a hyder.'
'Hoffwn longyfarch holl enwebeion ac enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024 a diolch iddynt am rannu eu straeon ysbrydoledig gyda ni, ychwanegodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith. 'Maen nhw wedi goresgyn heriau sylweddol, fel materion iechyd, diweithdra, hyder isel, neu gyfrifoldebau gofalu, ac wedi trawsnewid eu bywydau trwy ddysgu. Wrth wneud hynny, maen nhw hefyd wedi ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru.
'Mae dysgu yn daith gydol oes sy'n gallu cyfoethogi ein bywydau mewn sawl ffordd. Nawr yn fwy nag erioed, mae'n bwysig ein bod ni’n cefnogi ac yn dathlu oedolion yng Nghymru sy'n dychwelyd i addysg yn ddiweddarach mewn bywyd yn y gobaith o ddyfodol mwy disglair.'
I gael gwybod beth sy'n digwydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion ac i gael cyngor personol ar eich opsiynau dysgu eich hun a'r cymorth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru'n Gweithio ar 0800 028 4844 neu chwiliwch www.workingwales.gov.wales.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Eleni, y Brifysgol Agored yng Nghymru yw prif noddwr gwobrau elusennau Cymru. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi'r cyfle i ddathlu gwaith a llwyddiannau elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yng Nghymru.
Mae'n troi allan i fod yn flwyddyn gofiadwy i Tony Morton - nid yn unig mae wedi graddio gyda gradd mewn hanes yn 87 mlwydd oed ond mae hefyd wedi ennill Gwobr Ysbrydoli! Addysg Oedolion am ei ymdrechion!
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891