Unit : Associate Lecturers/Part time tutors Salary : £37,999 Pro Rata Location : Various locations Please quote reference : STEM_T802 Part-Time: 0.1 – 0.2 FTE (Full Time Equivalent), Permanent Closing Date : 3 December, 2024 - 12:00
Change your career, change lives
The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.
The role
We are looking to recruit several Associate Lecturers for MSc Project Supervision, in the Schools of C&C (Computing and Communications) and E&I (Engineering and Innovation) at the Open University.
The position is part-time (0.1-0.2, equivalent to 0.5 to 1.0 days per week on average) and would involve teaching one or more modules. In particular, there are immediate teaching needs for Associate Lecturers as project supervisors for the capstone project modules for our MSc programmes in the schools of Computing & Communications and Engineering & Innovation within the STEM faculty at the Open University, as a supervisor on T802 Research Project and/or T803 MSc project: researching in context, you will support project dissertations in one or more of the following areas:
As a project supervisor, you will guide the student in their chosen research area and discuss the various elements of the research and dissertation. You will encourage the student to think and reason for them selves and assist with the development of critical skills needed at this level. You will provide support and prompt and constructive feedback during development of the research proposal, mark and comment on the submitted assignments, give telephone/electronic tuition to individual students. You will normally be expected to mark and grade the final dissertation as first marker.
The position is home-based and has no fixed core hours. It is permanent, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This is likely to include exam and end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), such as peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £37,999 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.
The contract will start from January 2025
Person specification:
The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:
It would be an advantage to have:
NOTE: It is essential that you identify which qualification(s), that the project modules are the capstone for, you are able to support. You should include a clear identification of the areas of each programme, in particular core module(s), that support your claim for the experiential match to the qualification(s).
What you get in return
We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (ie. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.
Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.
Tuition Delivery
The project modules are delivered entirely online, however future work may require face-to-face delivery.
How to apply
An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Applications on AL-Recruitment@open.ac.uk, quoting the reference number STEM_T802.
Job related information:
Attachment |
---|
All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.
The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.
To work with us you will need access to the internet.
Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency. The Open University has a policy on the Recruitment of Ex-Offenders, a copy of which can be obtained on request by email to AL-Recruitment@open.ac.uk
Early closing date notification
We may close this job advert earlier than the published closing date where a satisfactory number of applications are received. We would therefore encourage early applications.
Email : al-recruitment@open.ac.uk
An application form and job related information are available from the links located below. Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator by email (on the link above), quoting the reference number STEM_T802.
The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential. We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength. We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.
Uned: Darlithwyr Cyswllt
Cyflog: £37,999 Pro Rata
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: STEM_T802
Lleoliad: Lleoliadau amrywiol
Patrwm Gwaith: Rhan-amser: 0.1 – 0.2 CALl (Cyfwerth ag Amser Llawn), Parhaol
Dyddiad cau: 3 Rhagfyr 2024 am 12:00 canol dydd
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.
Y rôl
Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt ar gyfer Goruchwylio Prosiect MSc, yn yr Ysgolion Cyfrifiadura a Chyfathrebu a Pheirianneg ac Arloesi yn Y Brifysgol Agored.
Swydd ran-amser yw hon (0.1 – 0.2, cyfwerth â 0.5 i 1.0 diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd) a byddai'n cynnwys addysgu un modiwl neu fwy. Yn benodol, mae angen Darlithwyr Cyswllt arnom ar unwaith i oruchwylio prosiectau fel rhan o brif fodiwlau prosiect ein rhaglenni MSc yn ysgolion Cyfrifiadura a Chyfathrebu a Pheirianneg ac Arloesedd isadran STEM Y Brifysgol Agored. Fel goruchwyliwr ar gyfer T802 - Prosiect Ymchwil a/neu T803 MSc project: ymchwilio mewn cyd-destun, byddwch yn cefnogi traethodau hir prosiect mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol: a/neu
Fel goruchwyliwr prosiect, byddwch yn arwain y myfyriwr yn ei ddewis faes ymchwil ac yn trafod gwahanol elfennau o'r ymchwil a'r traethawd hir. Byddwch yn annog y myfyriwr i feddwl a rhesymu â'i hun ac yn ei helpu i feithrin y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar y lefel hon. Byddwch yn rhoi cymorth ac adborth amserol ac adeiladol yn ystod y gwaith o ddatblygu'r cynnig ymchwil, yn marcio ac yn rhoi sylwadau ar yr aseiniadau a gyflwynir, ac yn rhoi hyfforddiant dros y ffôn/yn electronig i fyfyrwyr unigol. Fel arfer disgwylir i chi farcio a graddio'r traethawd hir terfynol fel marciwr cyntaf.
Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd tasgau eraill yn ofynnol, fel rhoi cymorth penodol i fyfyrwyr (unigol ac mewn fforymau), mentora cyfoedion a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ar adegau. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawnamser cychwynnol yw £37,999, a delir ar sail pro rata yn ddibynnol ar eich CALl.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.
Bydd y contract yn dechrau o fis Ionawr 2025
Manyleb person:
Dylid darllen manyleb y person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r fanyleb person gyffredinol ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person gyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:
Byddai'n ddefnyddiol pe baech yn meddu ar y canlynol:
NODER: Mae'n hanfodol eich bod yn nodi pa gymhwyster/cymwysterau, y mae modiwlau'r prosiect yn gapfaen ar ei gyfer/eu cyfer, y gallwch eu cefnogi. Dylech nodi'n glir pa feysydd ym mhob rhaglen, yn arbennig y modiwl(au) craidd, sy'n dangos eich bod yn meddu ar brofiad sy'n cyfateb i'r cymhwyster/cymwysterau).
Yr hyn a gewch yn ôl
Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eich maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd (hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd y cytunwyd arno a datblygiad proffesiynol.
Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (pro rata) yn ogystal â Gwyliau'r Banc amrywiol (pro rata) a chynnig deniadol o ran pensiwn.
Cyflwyno'r Dysgu
Cyflwynir y modiwlau prosiect yn gyfan gwbl ar-lein, ond gall fod angen eu cyflwyno wyneb yn wyneb yn y dyfodol.
Sut i wneud cais
Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Applications drwy anfon e-bost at AL-recruitment@open.ac.uk, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod STEM_T802.
Gwybodaeth yn ymwneud â'r swydd:
Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.
Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir gan Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.
Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl. Mae gan Y Brifysgol Agored bolisi Recriwtio Cyn-Droseddwyr, a gellir cael copi o hwn ar gais drwy e-bostio AL-Recruitment@open.ac.uk
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar.
E-bost: al-recruitment@open.ac.uk
Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael oddi wrth y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (ar y ddolen uchod), gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod uchod STEM_T802.
Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial. Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.
Posting Date : 11 November, 2024 - 14:00
Visit the Open University careers site to see all roles.