Unit : Associate Lecturers/Part time tutors Salary : £37,099 Pro Rata Location : Various locations Please quote reference : STEM_TM311 Locations - London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast. Closing Date : 13 August, 2024 - 12:00
FTE : Part-Time, Permanent post. approximate FTE up to 0.1 (in the range of 0.09 to 0.11 FTE)
Closing Date : 13th August 2024 at 12 noon
Change your career, change lives
The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.
The role
We are looking to recruit several Associate Lecturers (AL) in the area of Information Security, in the School of Computing and Communication at the Open University. The position is part-time (projected FTE is approximately 0.1 about 4 hours per week) and would involve teaching one or more modules. In particular, there are immediate teaching needs on TM311 Information Security (Level 3 undergraduate)
The School of Computing and Communications offers a number of qualifications in the areas of communications, cyber security, networking and software both at undergraduate and postgraduate level. The specific areas of expertise required in this instance is in the area of Information Security and applicants should have practical experience of organisational Information Security.
The position is home-based and has no fixed core hours. It is permanent, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This is likely to include exam and end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £37,099 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.
The contract will start from September 2024.
Person specification:
The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:
It would be an advantage to have:
What you get in return
We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agredd Academic Currency and Professional Development.
Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.
Tuition Delivery
Undergraduate Level 3 tutorials are online.
An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Applications on AL-Applications@open.ac.uk, quoting the reference number STEM_TM311.
Closing Date : 13th August 2024 at 12 noon.
All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.
The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.
To work with us you will need access to the internet.
Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency.
An application form and job related information are available from the links located above. Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator by email (al-applications@open.ac.uk), quoting the reference STEM_TM353.
The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential. We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength. We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.
Uned : Darlithwyr Cyswllt
Cyflog : £37,099 Pro Rata
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn : STEM_TM311
Lleoliad : Lleoliadau amrywiol
Lleoliad - London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast.
Dyddiad cau : 13 Awst 2024 am 12 hanner dydd
CALI : Rhan amser, swydd barhaol. CALI hyd at tua 0.1 (rhwng 0.09 a 0.11 CALI)
Dyddiad Cau: 13 Awst 2024 am 12 hanner dydd
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n un o arweinwyr y byd ym maes addysg ran-amser hyblyg sy'n cyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.
Y rôl
Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt ym maes Diogelwch Gwybodaeth yn Ysgol Gyfrifiadureg a Chyfathrebu Y Brifysgol Agored. Swydd ran-amser yw hon (CALl amcanol tua 0.1, tua 4 awr yr wythnos), a byddai'n cynnwys addysgu un modiwl neu fwy. Yn benodol, mae angen unigolion ar unwaith i addysgu TM311 Diogelwch Gwybodaeth (Lefel 3 israddedig)
Mae'r Ysgol Gyfrifiadureg a Chyfathrebu yn cynnig nifer o gymwysterau ym meysydd cyfathrebu, seiberddiogelwch, rhwydweitho a meddalwedd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Y meysydd penodol o arbenigedd sydd eu hangen yn yr achos hwn yw Diogelwch Gwybodaeth a dylai ymgeiswyr gael profiad ymarferol o Ddiogelwch Gwybodaeth sefydliadol.
Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd angen ymgymryd â thasgau eraill hefyd gan gynnwys rhoi cymorth sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr (yn unigol ac ar ffurf fforymau), mentora cymheiriaid a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawn-amser cychwynnol yw £37,099, a delir ar sail pro rata yn ddibynnol ar eich CALl.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.
Bydd y contract yn dechrau ym mis Medi 2024.
Manyleb y Person:
Dylid darllen manyleb y person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r fanyleb person gyffredinol ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person gyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:
Byddai'n ddefnyddiol pe baech yn meddu ar y canlynol:
Yr hyn a gewch yn ôl
Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eu maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro-rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer Gweithgarwch Academaidd ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer Gweithgarwch Academaidd y cytunwyd arno a Datblygiad Proffesiynol.
Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 o ddiwrnodau o wyliau'r flwyddyn (pro rata), gyda gwyliau banc amrywiol (pro rata) a chynnig pensiwn deniadol.
Cyflwyno'r Dysgu
Cynhelir tiwtorialau lefel 3 israddedig ar-lein.
Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Applications drwy anfon e-bost at AL-applications@open.ac.uk, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod STEM_T311.
Dyddiad Cau: 13 Awst 2024 am 12 hanner dydd.
Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.
Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir gan Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.
Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl.
Mae ffurflen gais a gwybodaeth am y swydd ar gael drwy'r dolenni uchod. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael oddi wrth y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (al-applications@open.ac.uk), gan ddyfynnu'r cyfeirnod uchod STEM_TM353.
Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.
Posting Date : 23 July, 2024 - 00:00
Visit the Open University careers site to see all roles.