You are here

  1. Home
  2. Associate Lecturers in the School of Computing and Communications; Machine Learning and Artificial Intelligence (TM358)

Associate Lecturers in the School of Computing and Communications; Machine Learning and Artificial Intelligence (TM358)

Unit :  Associate Lecturers/Part time tutors
Salary :  £37,099 Pro Rata
Location :  Various locations
Please quote reference :  STEM_TM358
Locations - London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast.
Closing Date :  20 August, 2024 - 12:00

 

Hysbyseb iaith Gymraeg

 

 

How to Apply

 

Part-Time: 0.1 FTE, Permanent

Closing Date :  20th August 2024 at 12:00 noon

 

Change your career, change lives

The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.

The role

We are looking to recruit several Associate Lecturers in the area of Machine Learning and Artificial Intelligence in the School of Computing and Communications at the Open University. The position is part-time, initially up to 0.1 FTE with the possibility of teaching other modules within the School. In particular, there are immediate teaching needs on TM358 | Machine Learning and Artificial Intelligence (open.ac.uk)

The position is home-based and has no fixed core hours. It is permanent, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This is likely to include exam and end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), such as peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £37,099 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.

The contract will start from October 2024

Person specification:

The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:

  • A degree with significant computing and IT content
  • Formal knowledge of Recurrent Neural Networks and deep learning
  • Experience of working in machine learning and/or AI in any public, private or third sector work, including education
  • Some experience of using Jupyter notebooks/Jupyter Lab, or, if not, good knowledge of Python
  • Your own IT device(s) for teaching which must be running an up to date supported OS and suitable to install various apps, both commercial and bespoke, for security and teaching purposes
  • Experience of teaching online or an understanding of the pedagogical issues surrounding online teaching.

It would be an advantage to have:

  • A higher degree or Ph.D. (or equivalent)
  • Knowledge or expertise in any of the following areas; ethics of data use in machine learning, teaching using Jupyter notebooks/Jupyter Lab, teaching computing in HE to statisticians and computer scientists
  • Evidence of having taken the initiative to deliver better teaching and learning or training
  • A teaching qualification in a relevant subject or HEA accreditation.

To read more about being an OU tutor in the School of Computing and Communications please see this Badged Open Course Being an OU Tutor in STEM: Computing and Communications

What you get in return

We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (ie. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.

Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.

Tuition Delivery
Online 

How to apply

An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Applications on AL-Applications@open.ac.uk, quoting the reference number STEM_TM358.

AL Application Form

 

Generic Person Specification

 

Terms and Conditions

 

Closing Date: 20th August 2024 at 12:00 noon

All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.

The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.

To work with us you will need access to the internet.

Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency.

Email : al-applications@open.ac.uk 

An application form and job related information are available from the links located below.  Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator by email (al-applications@open.ac.uk), quoting the reference STEM_TM358.

The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential.  We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength.  We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.


 

Darlithwyr Cyswllt yn yr Ysgol Gyfrifiadureg a Chyfathrebu; Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial (TM358)

Uned: Darlithwyr Cyswllt
Cyflog: £37,099 Pro Rata
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: STEM_TM358
Lleoliad: Lleoliadau amrywiol
Patrwm Gwaith: Rhan amser, swydd barhaol, 0.1 CALI
Dyddiad cau:  20 Awst 2024 am 12 hanner dydd 

Lleoliad - London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast.

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg rhan-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.

Y rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt ym maes Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial, yn Ysgol Gyfrifiadureg a Chyfathrebu'r Brifysgol Agored.

Mae'r swydd hon yn un rhan amser, hyd at 0.1 CALl i ddechrau gyda'r posibilrwydd o addysgu modiwlau eraill yn yr Ysgol. TM358 | Machine Learning and Artificial Intelligence (open.ac.uk)

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd tasgau eraill yn ofynnol, fel rhoi cymorth penodol i fyfyrwyr (unigol ac mewn fforymau), mentora cyfoedion a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ar adegau. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawn amser cychwynnol yw £37,099 a delir ar sail pro rata yn dibynnu ar eich CALl.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.

Bydd y contract yn dechrau o Hydref 2024 

Manyleb y Person:

Dylid darllen manyleb y person ar gyfer y swydd hon yn unol â'r fanyleb person cyffredinol ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person gyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:

  • Gradd â chynnwys cyfrifiadureg a TG sylweddol
  • Gwybodaeth ffurfiol am Rwydweithiau Niwral Rheolaidd a dysgu dwfn
  • Profiad o weithio mewn dysgu peirianyddol a/neu Deallusrwydd Artiffisial mewn unrhyw waith cyhoeddus, preifat neu drydydd sector, gan gynnwys ym maes addysg
  • Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio llyfrau cofnodi Jupyter, neu os na, gwybodaeth dda am Python.
  • Eich dyfais/dyfeisiau TG eich hun ar gyfer addysgu y mae'n rhaid iddi/iddynt fod yn rhedeg system weithredu gyfoes a gefnogir ac sy'n addas i osod apiau amrywiol, boed yn fasnachol ac wedi'u teilwra at ddibenion diogelwch ac addysgu
  • Profiad o addysgu ar-lein neu ddealltwriaeth o'r materion addysgegol sy'n gysylltiedig ag addysgu ar-lein.

Byddai'n fanteisiol pe baech yn meddu ar y canlynol:

  • Gradd uwch neu Ph.D. (neu gymhwyster cyfatebol)
  • Gwybodaeth neu arbenigedd mewn unrhyw un o'r meysydd canlynol; moeseg defnyddio data mewn dysgu peirianyddol, addysgu gan ddefnyddio llyfrau cofnodi Jupyter, addysgu cyfrifiadureg yn y maes addysg uwch i ystadegwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol
  • Tystiolaeth o fod yn flaengar er mwyn gwella prosesau addysgu a dysgu, neu hyfforddiant.
  • Cymhwyster addysgu mewn pwnc perthnasol neu achrediad yr Academi Addysg Uwch.

Er mwyn darllen mwy am fod yn diwtor gyda'r Brifysgol Agored yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Chyfathrebu, gweler y Cwrs Agored Bathodynnog hwn Bod yn Diwtor Y Brifysgol Agored mewn STEM: Cyfrifiadureg a Chyfathrebu

Yr hyn a gewch yn ôl

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eu maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro-rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer Gweithgarwch Academaidd hunangyfeiredig ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer Gweithgarwch Academaidd y Cytunwyd arno a Datblygiad Proffesiynol.

Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (pro rata) yn ogystal â Gwyliau'r Banc amrywiol (pro rata) a chynnig deniadol o ran pensiwn.

Cyflwyno'r Dysgu
Ar-lein

Sut i wneud cais

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Applications drwy anfon e-bost i AL-applications@open.ac.uk, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod STEM_TM358.

Gwybodaeth yn ymwneud â'r swydd:

Ffurflen Gais

Manyleb person generig

Telerau ac Amodau

Dyddiad Cau: 20 Awst 2024 am 12 hanner dydd. 

Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn ystod y cyfweliad.

Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir gan Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.

Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl.

E-bost : al-applications@open.ac.uk 

Mae ffurflen gais a gwybodaeth am y swydd ar gael o'r dolenni isod. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael gan y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (ar y ddolen uchod), gan ddyfynnu rhif cyfeirnod STEM_TM358
 

Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau.  Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned Y Brifysgol Agored gyflawni eu potensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder.  Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.

 



Posting Date :  6 August, 2024 - 12:00

Search all roles

Visit the Open University careers site to see all roles.