You are here

  1. Home
  2. Associate Lecturers in School of Health, Wellbeing & Social Care (KZW216) - WALES only

Associate Lecturers in School of Health, Wellbeing & Social Care (KZW216) - WALES only

Unit :  Associate Lecturers/Part time tutors
Salary :  £37,999 Pro Rata
Location :  Cardiff
Please quote reference :  WELS_KZW216
Part-Time: KZW216 & KZW315 – 0.250 FTE, Permanent
Closing Date :  29 November, 2024 - 12:00

Hysbyseb iaith Gymraeg

 

 

How to Apply

 

 

Change your career, change lives

The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.

The role

We are looking to recruit several Associate Lecturers in the area of Social Work in Wales, in the School of School of Health, Wellbeing, and Social Care at the Open University.

The position is part-time (KZW216 - 0.250 FTE, 7.5 teaching hours per week) and would involve teaching one or more modules. In particular, there are immediate teaching needs on the following modules: KZW216  and KZW315 in Wales

The position is home-based, with 5 face-to-face and 2 online workshops. There are no fixed core hours. It is permanent, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This is likely to include exam and end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), such as peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. The ability to teach through the medium of Welsh would be welcome but is not essential. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £37,999 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between January and September, the position is paid over the full calendar year.

Contract start date: 1st January 2025

Person specification:

The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:

  • a first degree in social work or a relevant discipline.
  • a professional social work qualification and practice experience,
  • familiarity with the literature, policies, and research in social work.
  • familiarity with current practice regarding the delivery of personal social services. 
  • sensitivity to the needs of adult learners, and an understanding of how adults learn.
  • The ability to grade assignments accurately and to provide constructive feedback to students.
  • Experience of teaching online or an understanding of the pedagogical issues surrounding online teaching.
  • Demonstrate ability to encourage students to engage with scholarship and independent study (including awareness of resources).

It would be an advantage to have:

  • A higher degree or Ph.D. (or equivalent).
  • Experience of teaching and assessment via an online environment.
  • Evidence of having taken the initiative to deliver better teaching and learning or to take advantage of new technology in teaching.
  • Teaching qualification in relevant subject or HEA accreditation.
  • The ability to teach through the medium of Welsh.

What you get in return

We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (i.e. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.

Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.

Tuition Delivery
mixed (face-to-face & online)
 

 

How to apply

An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Recruitment on 

AL-Recruitment@open.ac.uk, quoting the reference WELS_KZW216.

AL Application Form

 

Generic Person Specification

 

Terms and Conditions

 

All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.

The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.

To work with us you will need access to the internet.

Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency.

Early closing date notification 
We may close this job advert earlier than the published closing date where a satisfactory number of applications are received. We would therefore encourage early applications. 

Email : AL-Recruitment@open.ac.uk 

An application form and job related information are available from the links located below.  Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator by email (on the link above), quoting the reference WELS_KZW216.

The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential.  We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength.  We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.

 

 

 

Darlithwyr Cyswllt yn yr Ysgol Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol (KZW216) - Cymru yn unig

Uned: Darlithwyr Cyswllt 
Cyflog: £37,999 Pro Rata 
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: WELS_KZW216
Lleoliad: Cymru
Patrwm Gwaith: Rhan-amser: KZW216 – 0.250 FTE & KZW315 – 0.250 FTE, Parhaol
Dyddiad cau:  29 Tachwedd 2024 am 12 hanner dydd

 

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.

Y rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt ym maes Gwaith Cymdeithasol yn Ysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol Y Brifysgol Agored.

Swydd ran-amser yw hon (KZW216 - 0.250 CALl, 7.5 awr o addysgu yr wythnos), a byddai'n cynnwys addysgu un modiwl neu fwy. Yn benodol, mae angen unigolion ar unwaith i addysgu ar y modiwlau canlynol: KZW216 a KZW315 yng Nghymru

Swydd gartref yw hon, gyda 5 gweithdy wyneb yn wyneb a 2 weithdy ar-lein. Nid oes unrhyw oriau craidd sefydlog l. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd tasgau eraill yn ofynnol, fel rhoi cymorth penodol i fyfyrwyr (unigol ac mewn fforymau), mentora cyfoedion a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Byddai’r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei groesawu ond nid yw’n hanfodol. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ar adegau. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawnamser cychwynnol yw £37,999, a delir ar sail pro rata yn ddibynnol ar eich CALl.Er mai rhwng mis Ionawr a mis Medi y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.

Dyddiad dechrau'r contract: 1 Ionawr 2025

Manyleb person:

Dylid darllen y fanyleb person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r fanyleb person gyffredinol  ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person cyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:

  • gradd gyntaf mewn gwaith cymdeithasol neu ddisgyblaeth berthnasol.
  • cymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol a phrofiad o ymarfer,
  • bod yn gyfarwydd â llenyddiaeth, polisïau ac ymchwil mewn gwaith cymdeithasol.
  • bod yn gyfarwydd ag ymarfer cyfredol wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol personol. 
  • sensitifrwydd i anghenion oedolion yn dysgu, a dealltwriaeth o'r ffordd mae oedolion yn dysgu.
  • y gallu i raddio aseiniadau'n gywir a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr.
  • profiad o addysgu ar-lein neu ddealltwriaeth o'r materion addysgegol sy'n gysylltiedig ag addysgu ar-lein.
  • y gallu i annog myfyrwyr i ymgysylltu â gweithgareddau ysgoloriaeth ac astudiaeth annibynnol (gan gynnwys ymwybyddiaeth o adnoddau).

Byddai'n ddefnyddiol pe baech yn meddu ar y canlynol:

  • Gradd uwch neu PhD. (neu gymhwyster cyfatebol).
  • Profiad o addysgu ac asesu mewn amgylchedd ar-lein.
  • Tystiolaeth o fod yn flaengar er mwyn gwella prosesau addysgu a dysgu, neu fanteisio ar dechnoleg newydd ac ati.
  • Cymhwyster addysgu mewn pwnc perthnasol neu achrediad yr Academi Addysg Uwch (HEA).
  • Y gallu i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yr hyn a gewch yn ôl

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eich maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd (hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd y cytunwyd arno a datblygiad proffesiynol.

Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (pro rata) yn ogystal â Gwyliau'r Banc amrywiol (pro rata) a chynnig deniadol o ran pensiwn.

Cyflwyno'r Dysgu
cymysg (wyneb yn wyneb ac ar-lein)

Sut i wneud cais

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Recruitment ar 

AL-Recruitment@open.ac.uk, gan ddyfynnu'r cyfeirnod WELS_KZW216.

Ffurflen Gais

Manyleb person generig

Telerau ac Amodau

Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.

Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir gan Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.

Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar. 

E-bost: AL-Recruitment@open.ac.uk 

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Mae copïau caled a manylion mynediad i ymgeiswyr anabl ar gael oddi wrth y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (ar y ddolen uchod), gan ddyfynnu'r cyfeirnod WELS_KZW216.

Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau.  Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder.  Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.



Posting Date :  10 October, 2024 - 12:00

Search all roles

Visit the Open University careers site to see all roles.