You are here

  1. Home
  2. Practice Tutors in School of Health, Wellbeing & Social Care

Practice Tutors in School of Health, Wellbeing & Social Care

Unit :  Associate Lecturers/Part time tutors
Salary :  £37,999 Pro Rata
Location :  Various locations
Please quote reference :  WELS_XKPW315
Part-Time: 0.250 FTE, Permanent
Closing Date :  18 November, 2024 - 12:00

Hysbyseb iaith Gymraeg

 

 

How to Apply

 

Change your career, change lives

The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.

The role

We are looking to recruit several Practice Tutors in the area of Social Work, in the School of School of Health, Wellbeing, and Social Care at the Open University.

The position is part-time (0.250 FTE, 6 teaching hours per week). In particular, there are immediate teaching needs on the following modules: XKPW216 and XKPW315 in Wales.

The position is home-based and has no fixed core hours. It is permanent, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs. The practice tutor has a broader role in relation to the professional programme; they are vital to the success of the programme and its professional credibility. These practice tutors have a particular responsibility for practice issues, for facilitating practice learning meetings in a student's practice learning opportunity and for monitoring the overall progress of their student group, particularly progress on practice learning opportunities. Duties entail a mix of individual student support and group work as well as contact with sponsoring employers. Overall, the role is a challenging one and could be described as combining aspects of an associate lecturer, a mentor, and a coordinator. Experience has proved this role cannot be undertaken by someone in full-time employment elsewhere due to the concentrated and occasionally unpredictable pattern of the work. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £37,999 paid pro rata based on your FTE. Although most of the work occurs between January and August, the position is paid over the full calendar year.

Contract start date: 1st January 2025

Person specification:

The person specification for this position should be read in conjunction with the Practice Tutor Job Description at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:

  • a first degree in the social sciences or a relevant discipline.
  • a professional social work qualification and practice experience (preferably recent).
  • experience of delivering social work education as a practice teacher, practice assessor, or associate lecturer familiarity with the literature, policies, and research in social work.
  • familiarity with current practice regarding the delivery of personal social services.
  • sensitivity to the needs of adult learners, and an understanding of how adults learn.
  • evidence of ability to negotiate, liaise, and problem-solve with a range of agency contacts.
  • experience in the use of IT or a willingness to train and experiment with IT.

It would be an advantage to have:

  • A higher degree or Ph.D. (or equivalent).
  • Experience of teaching and assessment via an online environment.
  • Evidence of having taken the initiative to deliver better teaching and learning or to take advantage of new technology in teaching.
  • Teaching qualification in relevant subject or HEA accreditation.
  • The ability to work through the medium of Welsh.

What you get in return

We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Practice Tutors are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (ie. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.

Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.

Tuition Delivery
mixed (face-to-face & online)
 

 

How to apply

An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Recruitment on AL-Recruitment@open.ac.uk, quoting the reference WELS_XKPW315.

Job related information:

Attachment

PT Application Form

Job Description

Terms and Conditions

All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.

The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.

To work with us you will need access to the internet.

Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency.

Early closing date notification 
We may close this job advert earlier than the published closing date where a satisfactory number of applications are received. We would therefore encourage early applications. 

Email : AL-Recruitment@open.ac.uk 

An application form and job-related information are available from the links located below. Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator by email (on the link above), quoting the reference WELS_XKPW315.

The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods, and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential. We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength. We strive to recruit, retain, and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services, and staff networks.

 

 

Tiwtoriaid Ymarfer yn yr Ysgol Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol 

Uned: Tiwtoriaid Ymarfer 
Cyflog: £37,999 Pro Rata
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: WELS_XKPW315
Lleoliad: Lleoliadau amrywiol
Patrwm Gwaith: Rhan-amser: 0.250 CALl, Parhaol
Dyddiad cau:  18 Tachwedd 2024 am 12 hanner dydd

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.

Y rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Diwtoriaid Ymarfer ym maes Gwaith Cymdeithasol, yn yr Ysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol, yn Y Brifysgol Agored.

Swydd ran amser yw hon (0.250 CALl, 6 awr o addysgu yr wythnos). Yn benodol, mae angen unigolion ar unwaith i addysgu ar y modiwlau canlynol: XKPW216 a XKPW315 yng Nghymru.

Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd llwyth gwaith sylweddol a chyfnodau pan fydd llwyth gwaith is. Mae gan y tiwtor ymarfer rôl ehangach mewn perthynas â'r rhaglen broffesiynol; maent yn holl bwysig i lwyddiant y rhaglen ac i'w hygrededd proffesiynol. Mae gan y tiwtoriaid ymarfer hyn gyfrifoldeb penodol am faterion yn ymwneud ag ymarfer, am hwyluso cyfarfodydd dysgu ymarfer o fewn cyfleoedd dysgu ymarfer y myfyriwr ac am fonitro cynnydd cyffredinol eu grŵp o fyfyrwyr, yn arbennig eu cynnydd ar gyfleoedd dysgu ymarfer. Mae'r dyletswyddau yn cynnwys cymysgedd o gefnogaeth i fyfyrwyr unigol a gwaith grŵp yn ogystal â chysylltu â chyflogwyr sy'n noddi. Yn gyffredinol, mae'r rôl yn un heriol a gellid ei disgrifio fel un sy'n cyfuno agweddau ar swydd darlithydd cyswllt, mentor a chydlynydd. O brofiad, nid yw'r rôl hon yn addas i rywun sy'n gweithio'n llawnamser yn rhywle arall  oherwydd patrwm dwys y gwaith, sydd weithiau'n anodd ei ragweld. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawnamser cychwynnol yw £37,999, a delir ar sail pro rata yn ddibynnol ar eich CALl.Er mai rhwng mis Ionawr a mis Awst y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.

Dyddiad dechrau'r contract: 1 Ionawr 2025

Manyleb person:

Dylid darllen y fanyleb person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r Swydd Ddisgrifiad – Tiwtor Ymarfer​ ar gyfer Tiwtor Ymarfer yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person cyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:

  • gradd dosbarth cyntaf yn y gwyddorau cymdeithasol neu ddisgyblaeth berthnasol.
  • cymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol a phrofiad ymarfer (diweddar o ddewis).
  • profiad o gyflwyno addysg gwaith cymdeithasol fel athro ymarfer, aseswr ymarfer neu ddarlithydd cyswllt, bod yn gyfarwydd â llenyddiaeth, polisïau ac ymchwil mewn gwaith cymdeithasol.
  • bod yn gyfarwydd ag ymarfer cyfredol wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol personol.
  • sensitifrwydd i anghenion oedolion yn dysgu, a dealltwriaeth o'r ffordd mae oedolion yn dysgu.
  • tystiolaeth o allu i negodi, cysylltu a datrys problemau gydag ystod o gysylltiadau asiantaeth.
  • profiad o ddefnyddio TG neu barodrwydd i ddysgu ac arbrofi gyda TG.
     

Byddai'n ddefnyddiol pe baech yn meddu ar y canlynol:

  • Gradd uwch neu PhD. (neu gymhwyster cyfatebol).
  • Profiad o addysgu ac asesu mewn amgylchedd ar-lein.
  • Tystiolaeth o fod yn flaengar er mwyn gwella prosesau addysgu a dysgu, neu fanteisio ar dechnoleg newydd ac ati.
  • Cymhwyster addysgu mewn pwnc perthnasol neu achrediad yr Academi Addysg Uwch (HEA).
  • Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Yr hyn a gewch yn ôl

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eu maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) bob blwyddyn ar gyfer Gweithgarwch Academaidd (hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer Gweithgarwch Academaidd y cytunwyd arno a Datblygiad Proffesiynol i Diwtoriaid Ymarfer.

Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 o ddiwrnodau o wyliau'r flwyddyn (pro rata), gyda gwyliau banc amrywiol (pro rata) a chynnig pensiwn deniadol.

Cyflwyno'r Dysgu
cymysg (wyneb yn wyneb ac ar-lein)
 

Sut i wneud cais

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Recruitment ar AL-Recruitment@open.ac.uk, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod WELS_XKPW315.

Gwybodaeth yn ymwneud â'r swydd:

Ffurflen Gais

Disgrifiad Swydd

Telerau ac Amodau

Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.

Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir gan Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.

Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar. 

E-bost: AL-Recruitment@open.ac.uk 

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael oddi wrth y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (ar y ddolen uchod), gan ddyfynnu'r cyfeirnod WELS_XKPW315.
 

Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial. Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.



Posting Date :  10 October, 2024 - 14:30

Search all roles

Visit the Open University careers site to see all roles.