You are here

  1. Home
  2. Associate Lecturers in the School of Life Health and Chemical Sciences.

Associate Lecturers in the School of Life Health and Chemical Sciences.

Unit :  Associate Lecturers/Part time tutors
Salary :  £37,099 Pro Rata
Location :  Various locations
Please quote reference :  STEM_SK297
Locations - London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast.
Closing Date :  4 July, 2024 - 12:00

Hysbyseb iaith Gymraeg

 

 

How to Apply

 

FTE : Part-Time - 0.1 to 0.3 FTE

Closing Date :  4th July 2024 at 12 noon

Change your career, change lives

The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.

The role

We are looking to recruit several Associate Lecturers in the area of health sciences, in the School of Life Health and Chemical Sciences at the Open University.

The position is part-time (0.1 – 0.3 FTE) and would involve teaching one or more modules. In particular, there are immediate teaching needs on SK297 | Infection, Immunity and Public Health | Open University..

The position is home-based and has no fixed core hours. It is permanent, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This is likely to include exam and end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), such as peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £37,099 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.

Contract will start from 1st September 2024

Person specification:

The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:

  • A relevant degree in biological or health sciences.
  • Experience of post-graduate study of at least one of the following areas: immunology, microbiology, epidemiology or public health.
  • Demonstrable knowledge of infectious disease and public health to include current knowledge of at least two of the topics listed above.
  • Evidence of recent undergraduate teaching in at least two of the topics listed above.
  • Evidence of developing transferable skills within the context of infectious disease and public health.
  • Proven ability to explain difficult concepts in infectious disease and public health.
  • The ability to provide constructive feedback to students.
  • Experience of teaching online or an understanding of the pedagogical issues surrounding online teaching.
  • Demonstrable ability to encourage students to engage with independent study (including awareness of resources).

It would be an advantage to have:

  • A higher degree or Ph.D. (or equivalent).
  • Teaching qualification in relevant subject or HEA accreditation.
  • Experience of team teaching and working collaboratively with colleagues.

What you get in return

We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (ie. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.

Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.

Tuition Delivery
Online 

How to apply

An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Applications on AL-Applications@open.ac.uk, quoting the reference number STEM_SK297.

AL Application Form

Generic Person Specification

Terms and Conditions

Closing Date :  4th July 2024 at 12 noon

All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.

The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.

To work with us you will need access to the internet.

Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency.

An application form and job related information are available from the links located above.  Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator by email (al-applications@open.ac.uk), quoting the reference STEM_SK297.

The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential.  We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength.  We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.

 

Darlithwyr Cyswllt yn Ysgol y Gwyddorau Bywyd, Iechyd a Chemegol.

Uned: Darlithwyr Cyswllt 
Cyflog: £37,099 Pro Rata

Lleoliad: Lleoliadau amrywiol
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: STEM_SK297
Lleoliadau - London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast.
Dyddiad cau:  4 Gorffennaf 2024 - 12:00

 

CALL : Rhan-amser - 0.1 - 0.3 CALL

Dyddiad Cau :  4th Gorffennaf 2024 Am 12 hanner dydd

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg rhan-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.

Y rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt ym maes y gwyddorau iechyd, yn Ysgol Gwyddorau Bywyd, Iechyd a Chemegol Y Brifysgol Agored.

Swydd ran-amser yw hon (0.1 – 0.3 CALl), a byddai'n golygu addysgu un modiwl neu fwy. Yn benodol, mae angen unigolion ar unwaith i addysgu ar SK297: Heintiau, Imiwnedd ac Iechyd y Cyhoedd SK297 | Heintiau, Imiwnedd ac Iechyd y Cyhoedd | Y Brifysgol Agored.

Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd tasgau eraill yn ofynnol, fel rhoi cymorth penodol i fyfyrwyr (unigol ac mewn fforymau), mentora cyfoedion a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ar adegau. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawnamser cychwynnol yw £37,099, a delir ar sail pro rata yn ddibynnol ar eich CALl.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.

Bydd y contract yn dechrau o 1 Medi 2024

Manyleb y Person:

Dylid darllen y fanyleb person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r fanyleb person gyffredinol ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person gyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:

  • Gradd berthnasol mewn gwyddorau biolegol neu iechyd.
  • Profiad o astudiaethau ôl-raddedig yn o leiaf un o'r meysydd canlynol: imiwnoleg, microbioleg, epidemioleg neu iechyd y cyhoedd.
  • Gwybodaeth amlwg am glefydau heintus ac iechyd y cyhoedd i gynnwys gwybodaeth gyfredol am o leiaf ddau o'r pynciau a restrir uchod.
  • Tystiolaeth o addysgu israddedig diweddar yn o leiaf ddau o'r pynciau a restrir uchod.
  • Tystiolaeth o ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yng nghyd-destun clefydau heintus ac iechyd y cyhoedd.
  • Gallu amlwg i egluro cysyniadau anodd ym maes clefydau heintus ac iechyd y cyhoedd.
  • Y gallu i roi adborth adeiladol i fyfyrwyr.
  • Profiad o addysgu ar-lein neu ddealltwriaeth o'r materion addysgegol sy'n gysylltiedig ag addysgu ar-lein.
  • Dangos eich gallu i annog myfyrwyr i ymgysylltu ag astudiaeth annibynnol (gan gynnwys ymwybyddiaeth o adnoddau).

Byddai'n fanteisiol pe baech yn meddu ar y canlynol:

  • Gradd uwch neu PhD. (neu gymhwyster cyfatebol).
  • Cymhwyster addysgu mewn pwnc perthnasol neu achrediad yr Academi Addysg Uwch (HEA).
  • Profiad o addysgu fel tîm a gweithio ar y cyd â chydweithwyr.

Yr hyn a gewch yn ôl

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eich maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd (hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd y cytunwyd arno a datblygiad proffesiynol.

Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (pro rata) yn ogystal â Gwyliau'r Banc amrywiol (pro rata) a chynnig deniadol o ran pensiwn.

Cyflwyno'r Dysgu
Ar-lein

Sut i wneud cais

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Applications drwy anfon e-bost at AL-applications@open.ac.uk, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod STEM_SK297.

Ffurflen Gais

Manyleb person generig

Telerau ac Amodau

Dyddiad Cau :  4th Gorffennaf 2024 Am 12 hanner dydd

Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.

Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir gan Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.

Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl.

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni uwchlaw. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael oddi wrth y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (al-applications@open.ac.uk), gan ddyfynnu'r cyfeirnod uchod STEM_SK297.

Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau.  Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder.  Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.



Posting Date :  13 June, 2024 - 00:00

Contact us

If you have any queries or questions about the recruitment process, or regarding your application, please contact: Resourcing-Hub@open.ac.uk.

If you have any non-urgent feedback regarding the recruitment process, please contact: Resourcing-Hub-Feedback@open.ac.uk