You are here

  1. Home
  2. Associate Lecturers in Computer Science and Software Development TM254

Associate Lecturers in Computer Science and Software Development TM254

Unit :  Associate Lecturers/Part time tutors
Salary :  £37,099 Pro Rata
Location :  Various locations
Please quote reference :  STEM_TM254
Part-Time: (0.085 to 0.17 FTE), Permanent
Closing Date :  22 July, 2024 - 17:00

Hysbyseb iaith Gymraeg

 

 

How to Apply

 

Change your career, change lives

The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.

The role

We are looking to recruit Associate Lecturers in the area of Computer Science and Software Development, in the School of Computing and Communications at the Open University.

In particular, there may be an immediate need for tutors on the module Managing IT: the why, the what and the how (TM254). For appropriately qualified candidates, the position could involve teaching additional modules in the area of Computer Science and Software Development. The position is part-time, with a minimum FTE of approximately 0.085 FTE.

The position is home-based and has no fixed core hours. It is permanent, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This may include exam and end of module marking tasks. Other tasks may be required such as focused student support (individual and forum), peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £37,099 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.

The contract start date: TBC

Person specification:

The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:

  • A degree or equivalent experience in Information Technology or a related subject.
  • Knowledge of academic theories and professional practice in either, or both, of service management and project management.
  • Experience of service management or project management in an IT context.
  • An understanding of database design and SQL.
  • An awareness of the ITIL Service Management framework or a project management framework such as PRINCE2 or the Project Management Body of Knowledge.
  • The ability to grade assignments accurately and to provide constructive feedback to students.
  • Experience of teaching online or an understanding of the pedagogical issues surrounding online teaching.

It would be an advantage to have:

  • A higher degree.
  • Knowledge of academic theories and professional practice in one or more of: requirements elicitation and analysis, conceptual modelling, database implementation and administration.
  • Experience of teaching and assessment via an online environment.
  • Evidence of having taken the initiative to deliver better teaching and learning or to take advantage of new technology in teaching.
  • A teaching qualification in relevant subject or HEA accreditation.
  • The ability to teach other modules in the Computer Science and Software Development curriculum, or to acquire the appropriate knowledge and skills in order to do so.

What you get in return

We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (ie. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.

Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.

Tuition Delivery
Tuition is online only, including a number of online tutorials.

 

How to apply

An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Applications on AL-Applications@open.ac.uk, quoting the reference number STEM_TM254.

Job related information:

Attachment

AL Application Form

Generic Person Specification

Terms and Conditions

All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.

The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.

To work with us you will need access to the internet.

Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency.

Email : al-applications@open.ac.uk 

An application form and job related information are available from the links located below. Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator by email (on the link above), quoting the reference number STEM_TM254.


Closing Date :  22nd July 2024 at 12:00 noon.

The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential.  We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength.  We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.

 

 

Darlithwyr Cyswllt mewn Gwyddor Cyfrifiadureg a  Datblygu Meddalwedd TM254

Uned: Darlithwyr Cyswllt 
Cyflog: £37,099 Pro Rata
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: STEM_TM254
Lleoliad: Lleoliadau amrywiol
Patrwm Gwaith: Rhan-amser: (0.085 hyd at 0.172 CALl) Parhaol
Dyddiad cau:  22 Gorffennaf 2024 am hanner dydd

 

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg rhan-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.

Y rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio Darlithwyr Cyswllt ym maes Gwyddor Cyfrifiadureg a Datblygu Meddalwedd, yn Ysgol Cyfrifiadureg a Chyfathrebu Y Brifysgol Agored.

Yn benodol, gall fod angen tiwtoriaid ar unwaith ar gyfer y modiwl Rheoli TG: pam, beth a sut (TM254). Ar gyfer ymgeiswyr sydd â'r cymwysterau priodol, gallai'r rôl gynnwys addysgu modiwlau ychwanegol ym maes Gwyddor Cyfrifiadureg a Datblygu Meddalwedd. Mae'r rôl hon yn un rhan amser, gydag o leiaf 0.085 CALl.

Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Gall hyn gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Mae'n bosibl y bydd angen ymgymryd â thasgau eraill hefyd, gan gynnwys rhoi cymorth sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr (yn unigol ac ar ffurf fforymau), mentora cymheiriaid a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawn amser cychwynnol yw £37,099, a delir ar sail pro rata yn ddibynnol ar eich CALl.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.

Dyddiad dechrau'r contract: I’W GADARNHAU

Manyleb y Person:

Dylid darllen manyleb y person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r  fanyleb person gyffredinol ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person gyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:

  • Gradd neu brofiad cyfatebol mewn Technoleg Gwybodaeth neu bwnc cysylltiedig.
  • Gwybodaeth am ddamcaniaethau academaidd ac ymarfer proffesiynol naill ai ym maes rheoli prosiect neu reoli gwasanaeth, neu'r ddau.
  • Profiad o reoli gwasanaeth neu reoli prosiect o fewn cyd-destun TG.
  • Dealltwriaeth o ddylunio cronfeydd data a SQL.
  • Ymwybyddiaeth o fframwaith Rheoli Gwasanaeth ITIL neu fframwaith rheoli prosiect megis PRINCE2 neu'r Corff o Wybodaeth Rheoli Prosiect.
  • Y gallu i raddio aseiniadau yn gywir a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr.
  • Profiad o addysgu ar-lein neu ddealltwriaeth o'r materion addysgegol sy'n gysylltiedig ag addysgu ar-lein.

Byddai'n fanteisiol pe baech yn meddu ar y canlynol:

  • Gradd uwch.
  • Gwybodaeth am ddamcaniaethau academaidd ac ymarfer proffesiynol mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol: ysgogi a dadansoddi gofynion, modelu cysyniadol, gweithredu a gweinyddu cronfeydd data.
  • Profiad o addysgu ac asesu mewn amgylchedd ar-lein.
  • Tystiolaeth o fod yn flaengar er mwyn gwella prosesau addysgu a dysgu, neu fanteisio ar dechnoleg newydd ym maes addysgu.
  • Cymhwyster addysgu mewn pwnc perthnasol neu achrediad yr Academi Addysg Uwch (HEA).
  • Y gallu i addysgu modiwlau eraill yn y cwricwlwm Gwyddor Cyfrifiadureg a Datblygu Meddalwedd, neu ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau priodol i wneud hynny.

Yr hyn a gewch yn ôl

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eu maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd (hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd y cytunwyd arno a datblygiad proffesiynol.

Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 o ddiwrnodau o wyliau'r flwyddyn (pro rata), gyda gwyliau banc amrywiol (pro rata) a chynnig pensiwn deniadol.

Cyflwyno'r Dysgu
Bydd y dysgu'n digwydd ar-lein yn unig, gan gynnwys nifer o diwtorialau ar-lein.

Sut i wneud cais

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Applications drwy e-bostio AL-Applications@open.ac.uk, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod STEM_TM254.

Gwybodaeth yn ymwneud â'r swydd:

Ffurflen Gais

Manyleb person generig

Telerau ac Amodau

Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.

Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir gan Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.

Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl.

E-bost: al-applications@open.ac.uk 

Mae ffurflen gais a gwybodaeth am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael oddi wrth y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (ar y ddolen uchod), gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod STEM_TM254.


Dyddiad Cau:  22 Gorffennaf 2024 am hanner dydd.

Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau.  Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder.  Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.

 



Posting Date :  24 June, 2024 - 10:15

Contact us

If you have any queries or questions about the recruitment process, or regarding your application, please contact: Resourcing-Hub@open.ac.uk.

If you have any non-urgent feedback regarding the recruitment process, please contact: Resourcing-Hub-Feedback@open.ac.uk