Unit : Associate Lecturers/Part time tutors Salary : £37,099 Pro Rata Location : Various locations Please quote reference : FBL_24J Part Time (a minimum of 0.2 FTE) Permanent Closing Date : 17 July, 2024 - 12:00
Closing Date: Wednesday 17th July 2024 at 12:00 noon
Change your career, change lives
The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education, combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.
The role
We are seeking to recruit several Associate Lecturers to teach across the LLB, in the Law School, Faculty of Business and Law, at the Open University.
The position is part-time (a minimum of 0.2 FTE) and would involve teaching one or more modules. In particular, there are immediate teaching needs on:
Criminal law and the courts – October presentation and February presentation
Civil justice and tort law – February presentation
Public Law – October presentation
Contract Law – October presentation
Family Law – February presentation
Business and employment law – February presentation
Evidence law – February presentation
In addition, there may be future need on subjects:
Trusts Law
EU Law
Tort Law
Land Law
Law, Society and Culture
International, Environmental and Space Law
Exploring Legal Boundaries
Justice in Action
We welcome applicants from a range of backgrounds, including professionals from academia and industry. In line with our commitment to the Athena SWAN initiative and the Race Equality Charter, we welcome and support all applicants equally. We are especially interested in recruiting associate lecturers that reflect the diverse backgrounds of our students. Therefore, we encourage you to apply if you have experience in the field of Law even if it does not exactly map to the specifications outlined in the attached job description.
The position is home-based and has no fixed core hours. It is permanent, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This is likely to include exam and end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £37,099 paid pro rata based on individual FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.
There are two module presentations in an academic year, October and February. Therefore, a teaching contract will be offered in line with these, either starting from September 2024 or in January 2025.
Person specification:
The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification (please access via the link below) for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:
It would be an advantage to have:
What you will get in return
We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (i.e. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.
Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pension proposition.
Tuition Delivery
Tuition delivery of LLB modules is a combination of face-to-face and online teaching, including synchronous and asynchronous support, as well as supported, independent learning.
As part of our commitment to Equality, Diversity and Inclusion, the initial shortlisting process will be anonymised.
Please do come along to our online event to find out more about these roles, to register your interest please click here
To apply for this role please submit the completed documents below to
AL-Applications@open.ac.uk, quoting the reference number FBL 24J;
Documents:
All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK following a successful interview.
The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.
To work with us you will need access to the internet.
Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency.
Email : al-applications@open.ac.uk
. Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment team upon request.
The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential. We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength. We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.
Job related information :
Uned: Darlithwyr Cyswllt
Cyflog: £37,099 Pro Rata
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: FBL 24J
Lleoliad: Lleoliadau amrywiol
Patrwm Gwaith: Caiff tiwtoriaid eu cyflogi am o leiaf 0.2 CALl.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024 12:00
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024 am 12:00 canol dydd
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n un o arweinwyr y byd ym maes addysg ran-amser hyblyg sy'n cyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.
Y rôl
Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt i addysgu ym mhob rhan o'r LLB, yn Ysgol y Gyfraith, y Gyfadran Busnes a'r Gyfraith, yn Y Brifysgol Agored.
Swydd ran-amser (o leiaf 0.2 CALl) yw hon, a byddai'n golygu addysgu un modiwl neu fwy. Yn benodol, mae angen unigolion ar unwaith i addysgu :
Cyfraith Trosedd a'r llysoedd – Cyflwyno o fis Hydref a mis Chwefror
Cyfiawnder sifil a'r gyfraith camwedd – Cyflwyno o fis Chwefror
Cyfraith Gyhoeddus – Cyflwyno o fis Hydref
Cyfraith Contract – Cyflwyno o fis Hydref
Cyfraith Teulu – Cyflwyno o fis Chwefror
Cyfraith busnes a chyflogaeth – Cyflwyno o fis Chwefror
Cyfraith tystiolaeth – Cyflwyno o fis Chwefror
Ar ben hyn, efallai y bydd angen addysgu ar y pynciau canlynol yn y dyfodol:
Cyfraith Ymddiriedolaethau
Cyfraith yr UE
Cyfraith Camwedd
Cyfraith Tir
Cyfraith, Cymdeithas a Diwylliant
Cyfraith Ryngwladol, Amgylcheddol a'r Gofod
Archwilio Ffiniau Cyfreithiol
Cyfiawnder ar Waith
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol o'r byd academaidd ac o ddiwydiant. Yn unol â'n hymrwymiad i fenter Athena SWAN a'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol, rydym yn croesawu ac yn cefnogi pob ymgeisydd yn gyfartal. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn recriwtio darlithwyr cyswllt sy'n adlewyrchu cefndiroedd amrywiol ein myfyrwyr. Felly rydym yn eich annog i wneud cais os oes gennych brofiad ym maes y Gyfraith, hyd yn oed os nad yw'n cyd-fynd yn union â'r manylion a nodwyd yn y swydd ddisgrifiad atodedig.
Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd angen ymgymryd â thasgau eraill hefyd gan gynnwys rhoi cymorth sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr (yn unigol ac ar ffurf fforymau), mentora cymheiriaid a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog cychwynnol llawn amser yw £37,099 a gaiff ei dalu ar sail pro rata gan ddibynnu ar eich CALl unigol.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.
Mae dau batrwm cyflwyno mewn blwyddyn academaidd, sef ym mis Hydref ac ym mis Chwefror. Felly cynigir contract addysgu yn unol â'r rhain, naill ai'n dechrau o fis Medi 2024 neu ym mis Ionawr 2025.
Manyleb person:
Dylid darllen y fanyleb person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r fanyleb person gyffredinol y person (defnyddiwch y ddolen isod) ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person gyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:
Byddai'n ddefnyddiol pe baech yn meddu ar y canlynol:
Yr hyn a gewch yn ôl
Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eu maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd (h.y. hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd y cytunwyd arno a datblygiad proffesiynol.
Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (pro rata) yn ogystal â Gwyliau'r Banc amrywiol (pro rata) a chynnig deniadol o ran pensiwn.
Cyflwyno'r Dysgu
Cyflwynir y dysgu ar fodiwlau'r LLB drwy gyfuniad o addysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan gynnwys cymorth cydamserol ac anghydamserol, a dysgu annibynnol a gefnogir.
Fel rhan o'n hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, bydd y broses gychwynnol o lunio rhestr fer yn ddienw.
Dewch i’n digwyddiad ar-lein i ddysgu mwy am y rolau hyn. I gofrestru eich diddordeb, cliciwch yma
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r dogfennau isod wedi eu cwblhau i
AL-Applications@open.ac.uk, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod FBL 24J;
Dogfennau:
Taflen Atebion Ymgeisydd |
Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn dilyn cyfweliad llwyddiannus.
Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir yn Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.
Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl.
E-bost: al-applications@open.ac.uk
Gellir gwneud cais am gopïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl gan y tîm Recriwtio.
Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.
Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r swydd:
Optional information :
Posting Date : 24 June, 2024 - 12:00
If you have any queries or questions about the recruitment process, or regarding your application, please contact: Resourcing-Hub@open.ac.uk.
If you have any non-urgent feedback regarding the recruitment process, please contact: Resourcing-Hub-Feedback@open.ac.uk