Smarter searching with library databases
Monday, 17 February, 2025 - 19:30
Learn how to access library databases, take advantage of the functionality they offer, and devise a proper search technique.
Mae fersiynau gwahanol o ganllaw cyfeirnodi Harvard ar gael. Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyflwyniad byr i'r fersiwn fwyaf cyffredin o Cite Them Right a ddefnyddir. Mae rhagor o arweiniad ar gael drwy Lyfrgell Y Brifysgol Agored ar gronfa ddata Cite Them Right.
Er mwyn cael cymorth gyda chyfeirnodi a chanllaw llawn Cite Them Right, edrychwch ar dudalen y Llyfrgell ar gyfeirnodi a llên-ladrad. Os bydd angen arweiniad arnoch ynglŷn â chyfeirnodi deunydd modiwlau'r Brifysgol Agored, gallwch edrych ar ba adrannau o Cite Them Right a argymhellir wrth
gyfeirnodi deunydd modiwl ffisegol ac ar-lein.
Nid yw'r canllaw hwn yn gymwys i fyfyrwyr israddedig Y Brifysgol Agored sy'n astudio'r Gyfraith. Os ydych yn astudio modiwl sy'n dechrau ag W1xx, W2xx or W3xx, dylech gyfeirio at y Canllaw cyflym ar gyfeirnodi Cite Them Right ar gyfer modiwlau'r Gyfraith.
Mae cyfeirnodi yn cynnwys dwy elfen:
Er mwyn gweld rhestr cyfeiriadau a chyfeiriadau yng nghanol y testun edrychwch ar yr aseiniad enghreifftiol hwn yn Cite Them Right.
dim ond ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun y mae rhestr cyfeiriadau yn eu cynnwys
mae llyfryddiaeth yn cynnwys ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun A ffynonellau a fu'n rhan o'ch darllen cefndir nas defnyddiwyd yn eich asesiad.
Mae angen i chi gynnwys cyfeiriad yng nghanol y testun lle bynnag rydych yn dyfynnu neu'n aralleirio ffynhonnell. Mae cyfeiriad yng nghanol y testun yn cynnwys enw olaf yr awdur(on), y flwyddyn gyhoeddi, a rhif tudalen os yw'n berthnasol. Mae sawl ffordd o ymgorffori cyfeiriadau yng nghanol y testun yn eich gwaith – ceir rhai enghreifftiau isod. Fel arall, gallwch weld enghreifftiau o nodi cyfeiriadau yng nghanol y testun yn Cite Them Right.
Un awdur | Dau awdur | Tri awdur | Pedwar neu fwy o awduron |
---|---|---|---|
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Harris, 2015). NEU Pwysleisiwyd gan Harris (2015) bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Pwysleisiwyd (gan Shah a Papadopoulos, 2015) bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. NEU Pwysleisiodd Shah a Papadopoulos (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Wong, Smith ac Adebole, 2015). NEU Pwysleisiodd Wong, Smith ac Adebole (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Wong et al., 2015). NEU Pwysleisiodd Wong et al. (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Awdur corfforaethol | Pan nad oes awdur a enwyd, defnyddiwch deitl yr adnodd mewn print italig. |
---|---|
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Y Brifysgol Agored, 2015). Mae gwybodaeth gan Y Brifysgol Agored (2015) yn pwysleisio bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Information Literacy in Higher Education, 2015). Mae gwybodaeth yn Information Literacy in Higher Education (2015) yn pwysleisio bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Cyfeirnodi eilaidd |
---|
Rydych yn defnyddio cyfeirnodi eilaidd os ydych am gyfeirio at ffynhonnell a grybwyllir neu a ddyfynnir yn y gwaith rydych yn ei ddarllen. Er mwyn gwneud hyn, rydych yn ychwanegu'r ymadrodd ‘dyfynnwyd yn’ neu ‘cyfeiriwyd ato yn’ (yn dibynnu a yw awdur y ffynhonnell eilaidd yn dyfynnu'n uniongyrchol o'r ffynhonnell wreiddiol neu'n ei chrynhoi ) at eich cyfeiriad yng nghanol y testun, ynghyd â manylion y ffynhonnell rydych yn ei darllen. Enghreifftiau o gyfeirnodi yng nghanol y testun: West et al. (2007, a ddyfynnwyd yn Birch, 2017, t. 17) yn nodi bod… Yna, byddwch yn cynnwys cyfeiriadau llawn at Birch a'r Brifysgol Agored yn eich rhestr cyfeiriadau gan mai'r rhain yw'r ffynonellau rydych wedi'u darllen. Nid oes unrhyw newid i strwythur y cyfeiriad llawn ar gyfer y ffynonellau hyn. |
Rhifau tudalennau |
---|
Dylech gynnwys rhifau tudalennau yn eich cyfeiriad os ydych yn dyfynnu'n uniongyrchol o dudalen benodol neu set benodol o dudalennau neu'n defnyddio syniadau o dudalen benodol neu set benodol o dudalennau. Ychwanegwch y byrfodd t. (neu tt. os oes mwy nag un dudalen) cyn rhif y dudalen/rhifau'r tudalennau. Enghreifftiau: Mae Harris (2015, t. 5) yn dadlau… Yn y broses sychu bod "adweithiau ocsideiddio polyffenol" ffurfio cyfansoddion blas newydd (Toker et al., 2020, pp. 585–586)... |
Cyfeirio at ffynonellau a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn gan yr un awdur |
---|
Ychwanegwch lythyren fach at y dyddiad yn y cyfeiriad yng nghanol y testun ac yn y cyfeiriad llawn cyfatebol er mwyn gwahaniaethu rhwng y ffynonellau. Cyfeiriadau yng nghanol y testun: Mae eira yn ymffurfio'n rhannol am fod y tymheredd yn gostwng ddigon nes bod glaw yn rhewi (Y Brifysgol Agored, 2022a), ond mae rhewbwynt dŵr yn aml islaw 0°C o dan amodau penodol (Y Brifysgol Agored, 2022b). Cyfeiriadau llawn cyfatebol: Y Brifysgol Agored (2022a) '1.2 What are clouds?'. S111: Questions in science. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1938785§ion=3 (Cyrchwyd: 22 Tachwedd 2022). Y Brifysgol Agored (2022b) '1.3.1 Snow and ice'. S111: Questions in science. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1938785§ion=4.1 (Cyrchwyd: 22 Tachwedd 2022). Noder: mae hyn ond yn gymwys os ydych yn defnyddio sawl ffynhonnell wahanol sydd â'r un awdur a'r un flwyddyn – os ydych yn cyfeirio at yr un ffynhonnell fwy nag unwaith, yna, nid oes angen i chi ychwanegu llythyren at y dyddiad. Bydd y cyfeiriad yr un fath bob tro a dim ond unwaith y bydd angen i chi gynnwys y ffynhonnell yn eich rhestr cyfeiriadau. |
Enghraifft o un awdur:
Almeroth-Williams, T. (2019) City of Beasts: How Animals Shaped Georgian London. Manchester: Manchester University Press.
RSPCA (2024) Caring for cats and kittens. Ar gael: https://www.rspca.org.uk/adviceandwelfare/pets/cats (Cyrchwyd: 1 Awst 2024).
Enghraifft o ddau neu dri awdur:
Grayling, A. a Ball, B. (2024) ' Philosophy is crucial in the age of AI', The Conversation, 1 August. Ar gael: https://theconversation.com/philosophy-is-crucial-in-the-age-of-ai-235907 (Cyrchwyd: 1 Awst 2024).
Chu, M., Leonard, P. a Stevenson, F. (2012) ' Growing the Base for Citizen Science: Recruiting and Engaging Participants', yn J.L. Dickinson and R. Bonney (gol.) Citizen Science: Public Participation in Environmental Research. Ithaca: Cornell University Press, tt. 69-81.
Enghraifft o bedwar neu fwy o awduron:
NEU
Young, H.D. et al. (2015) Sears and Zemansky's university physics. San Francisco, CA: Addison-Wesley.
Noder: Gallwch ddewis y naill ddull neu'r llall wrth gyfeirio at bedwar neu fwy o awduron (oni bai bod eich Ysgol yn gofyn i chi enwi pob awdur yn eich rhestr cyfeiriadau) a dylech fod yn gyson.
(Yn cynnwys gweithgareddau modiwl ar-lein ysgrifenedig, deunydd clyweledol megis tiwtorialau, recordiadau neu fideos ar-lein)
Wrth gyfeirio at ddeunydd o wefannau modiwl, y dyddiad cyhoeddi yw'r flwyddyn y gwnaethoch ddechrau astudio'r modiwl.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi/gyflwyno) 'Teitl yr eitem'. Cod y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).
NEU, os nad oes awdur a enwyd:
Y Brifysgol Agored (Y flwyddyn gyhoeddi/gyflwyno) 'Teitl yr eitem'. Cod y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Rietdorf, K. and Bootman, M. (2022) 'Topic 3: Rare diseases'. S290: Investigating human health and disease. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1967195 (Cyrchwyd: 24 Ionawr 2023).
Y Brifysgol Agored (2022) ‘3.1 The purposes of childhood and youth research’. EK313: Issues in research with children and young people. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1949633§ion=1.3 (Cyrchwyd: 24 Ionawr 2023).
Gallwch hefyd ddefnyddio'r templed hwn i gyfeirio at fideos a recordiadau sain sy'n cael eu gwe-leyta ar wefan eich modiwl:
Y Brifysgol Agored (2022) ‘Video 2.7 An example of a Frith-Happé animation’. SK298: Brain, mind and mental health. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=2013014§ion=4.9.6 (Cyrchwyd: 22 Tachwedd 2022).
Y Brifysgol Agored (2022) ‘Audio 2 Interview with Richard Sorabji (Part 2)’. A113: Revolutions. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=1960941§ion=5.6 (Accessed: 22 Tachwedd 2022).
Noder: os oes erthygl gyflawn o gyfnodolyn wedi cael ei lanlwytho i wefan modiwl, neu os ydych wedi gweld erthygl y cyfeirir ati ar y wefan ac yna wedi cyrchu'r fersiwn wreiddiol, cyfeiriwch at yr erthygl wreiddiol yn y cyfnodolyn, a pheidiwch â chrybwyll deunyddiau'r modiwl. Os mai dim ond darn o erthygl sydd wedi cael ei gynnwys yn neunyddiau eich modiwl rydych am gyfeirio ati, dylech ddefnyddio cyfeirnodi eilaidd, gyda deunyddiau'r modiwl fel y ffynhonnell 'cyfeiriwyd ato yn', fel y'i disgrifir uchod.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl y neges', Teitl y bwrdd trafod, yng nghod y Modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghraifft:
Fitzpatrick, M. (2022) ‘A215 - presentation of TMAs', Tutor group discussion & Workbook activities, yn A215: Creative writing. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/forumng/discuss.php?d=4209566 (Cyrchwyd: 24 Ionawr 2022).
Noder: Pan fydd e-lyfr yn edrych yn debyg i lyfr argraffedig, gyda manylion cyhoeddi, tudalennau, dylid cyfeirnodi fel llyfr argraffedig.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) Teitl. Argraffiad os yw ar ôl yr argraffiad cyntaf. Lle cyhoeddi: cyhoeddwr. Rhif y gyfres a rhif y gyfrol os ydynt yn berthnasol.
E-lyfrau nad ydynt yn cynnwys manylion cyhoeddi
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) Teitl y llyfr. Ar gael yn: DOI neu URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Bell, J. (2014) Doing your research project. Maidenhead: Gwasg Y Brifysgol Agored.
Adams, D. (1979) The hitchhiker's guide to the galaxy. Ar gael yn: http://www.amazon.co.uk/kindle-ebooks (Cyrchwyd: 23 Mehefin 2021).
Noder: Llyfrau sydd â golygydd, neu olygyddion, lle mae pob pennod wedi'i hysgrifennu gan awdur neu awduron gwahanol.
Cyfenw awdur y bennod, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl y bennod neu'r adran', yn Blaenlythyren. Cyfenw golygydd y llyfr (gol.) Teitl y llyfr. Lle cyhoeddi: cyhoeddwr, Cyfeirnod tudalen.
Enghraifft:
Franklin, A.W. (2012) 'Management of the problem', yn S.M. Smith (gol.) The maltreatment of children. Lancaster: MTP, tt. 83–95.
Noder: Wrth gyfeirio at bennod mewn llyfr golygedig, dylai eich cyfeiriad yng nghanol y testun nodi awdur(on) y bennod.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Cyfnodolyn, rhif y gyfrol (rhifyn), cyfeirnod tudalen.
Os oes erthygl wedi cael ei chyrchu ar-lein:
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl' Teitl y Cyfnodolyn, rhif y gyfrol (rhifyn), cyfeirnod tudalen. Ar gael yn: DOI neu URL (os oes angen) (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Shirazi, T. (2010) 'Successful teaching placements in secondary schools: achieving QTS practical handbooks', European Journal of Teacher Education, 33(3), tt. 323–326.
Shirazi, T. (2010) 'Successful teaching placements in secondary schools: achieving QTS practical handbooks', European Journal of Teacher Education, 33(3), tt. 323–326. . Ar gael yn: https://libezproxy.open.ac.uk/login?url=https://search.ebscohost.com/log... (Cyfeiriwyd: 24 Ionawr 2023)
Barke, M. a Mowl, G. (2016) 'Málaga – a failed resort of the early twentieth century?', Journal of Tourism History, 2(3), tt. 187–212. Ar gael yn: https://doi.org/10.1080/1755182X.2010.523145 (Cyfeiriwyd: 24 Ionawr 2023).
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Papur Newydd, Dydd a mis, Rhif y tudalen.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Papur Newydd, Dydd a mis, Rhif y dudalen os yw ar gael. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Mansell, W. a Bloom, A. (2012) ‘£10,000 carrot to tempt physics experts’, The Guardian, 20 Mehefin, t. 5.
Roberts, D. ac Ackerman, S. (2013) 'US draft resolution allows Obama 90 days for military action against Syria', The Guardian, 4 Medi. Ar gael yn: https://www.theguardian.com/world/2013/sep/04/syria-strikes-draft-resolu... (Cyrchwyd: 9 Medi 2015).
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn y cafodd y wefan ei chyhoeddi/ei diweddaru ddiwethaf) Teitl y dudalen we. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Trefn (Y flwyddyn y cafodd y dudalen ei diweddaru ddiwethaf) Teitl y dudalen we. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Robinson, J. (2007) Social variation across the UK. Ar gael yn: https://www.bl.uk/british-accents-and-dialects/articles/social-variation... (Cyrchwyd: 21 Tachwedd 2021).
Cymdeithas Seicolegol Prydain (2018) Code of Ethics and Conduct. Ar gael yn: https://www.bps.org.uk/news-and-policy/bps-code-ethics-and-conduct (Cyrchwyd: 22 Mawrth 2019).
Noder: Mae Cite Them Right Online yn cynnig canllawiau ar gyfeirnodi tudalennau gwe nad ydynt yn cynnwys enwau awduron na dyddiadau. Fodd bynnag, byddwch yn wyliadwrus iawn ynglŷn ag addasrwydd tudalennau gwe o'r fath.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Blwyddyn) Teitl y ffotograff. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghraifft:
Kitton, J. (2013) Golden sunset. Ar gael yn: https://www.jameskittophotography.co.uk/photo_8692150.html (Cyrchwyd: 21 Tachwedd 2021).
stanitsa_dance (2021) Cossack dance ensemble. Ar gael yn: https://www.instagram.com/p/COI_slphWJ_/ (Cyrchwyd: 13 Mehefin 2023).
Noder: Os na allwch ddod o hyd i deitl, yna dylid rhoi disgrifiad byr yn ei le.
Monday, 17 February, 2025 - 19:30
Learn how to access library databases, take advantage of the functionality they offer, and devise a proper search technique.