You are here

  1. Home
  2. Prifysgolion yng Nghymru yn ennill gwobr nodedig AGCAS am yr e-Hwb Cyflogadwyedd

Prifysgolion yng Nghymru yn ennill gwobr nodedig AGCAS am yr e-Hwb Cyflogadwyedd

Myfyriwr graddedig mewn labordy

Roedd newyddion gwych i fyfyrwyr a staff prifysgolion Cymru pan enillon nhw Wobr Adeiladu Partneriaethau Effeithiol AGCAS ar gyfer 2024, diolch i’w gwaith ar yr e-Hwb Cyflogadwyedd. Mae’r adnodd ar-lein hwn wedi’i gynllunio’n benodol i gefnogi myfyrwyr o grwpiau sy’n llai tebygol o fynychu’r brifysgol, gan eu helpu i fagu hyder a gwella eu rhagolygon gwaith.

Mae’r e-Hwb Cyflogadwyedd yn ganlyniad i gydweithio rhwng holl brifysgolion Cymru, gan roi cymorth a chyfleoedd wedi’u teilwra i helpu myfyrwyr i fod yn fwy parod ar gyfer gyrfa. Mae’r wobr hon gan Gymdeithas Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd Graddedigion (AGCAS) yn cydnabod yr effaith sylweddol mae holl brifysgolion Cymru wedi’i chael wrth wneud cyfleoedd addysg a chyflogaeth yn fwy hygyrch.

Mae'r bartneriaeth glodwiw hon yn amlwg yn cael effaith drawsnewidiol ar fyfyrwyr a graddedigion. Mae maint y cydweithio ar draws sefydliadau lluosog a’r agwedd ddigidol yn wirioneddol drawiadol.

Beirniaid
gwobrau AGCAS

Cyhoeddwyd yr enillydd yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth AGCAS ar 10 Mehefin 2024.

Request your prospectus

Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.

Request prospectus