You are here

  1. Hafan
  2. Prifysgolion yng Nghymru yn ennill gwobr nodedig AGCAS am yr e-Hwb Cyflogadwyedd

Prifysgolion yng Nghymru yn ennill gwobr nodedig AGCAS am yr e-Hwb Cyflogadwyedd

Myfyriwr graddedig mewn labordy

Roedd newyddion gwych i fyfyrwyr a staff prifysgolion Cymru pan enillon nhw Wobr Adeiladu Partneriaethau Effeithiol AGCAS ar gyfer 2024, diolch i’w gwaith ar yr e-Hwb Cyflogadwyedd. Mae’r adnodd ar-lein hwn wedi’i gynllunio’n benodol i gefnogi myfyrwyr o grwpiau sy’n llai tebygol o fynychu’r brifysgol, gan eu helpu i fagu hyder a gwella eu rhagolygon gwaith.

Mae’r e-Hwb Cyflogadwyedd yn ganlyniad i gydweithio rhwng holl brifysgolion Cymru, gan roi cymorth a chyfleoedd wedi’u teilwra i helpu myfyrwyr i fod yn fwy parod ar gyfer gyrfa. Mae’r wobr hon gan Gymdeithas Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd Graddedigion (AGCAS) yn cydnabod yr effaith sylweddol mae holl brifysgolion Cymru wedi’i chael wrth wneud cyfleoedd addysg a chyflogaeth yn fwy hygyrch.

Mae'r bartneriaeth glodwiw hon yn amlwg yn cael effaith drawsnewidiol ar fyfyrwyr a graddedigion. Mae maint y cydweithio ar draws sefydliadau lluosog a’r agwedd ddigidol yn wirioneddol drawiadol.

Beirniaid
gwobrau AGCAS

Cyhoeddwyd yr enillydd yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth AGCAS ar 10 Mehefin 2024.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Tony Morton – wedi graddio yn 87 mlwydd oed.

Un o raddedigion y Brifysgol Agored yn ennill Inspire! Gwobr Dysgu Oedolion

Mae'n troi allan i fod yn flwyddyn gofiadwy i Tony Morton - nid yn unig mae wedi graddio gyda gradd mewn hanes yn 87 mlwydd oed ond mae hefyd wedi ennill Gwobr Ysbrydoli!  Addysg Oedolion am ei ymdrechion!

6 Medi 2024
Doctor

Mae Saving Lives in Cardiff yn dilyn y doctoriaid sy'n gwneud penderfyniadau a all newid bywydau wrth galon y GIG

Mae cyd-gynhyrchiad chwe rhan newydd rhwng y Brifysgol Agored a'r BBC o'r gyfres Saving Lives yn dechrau ar 20fed Awst am 9pm ar BBC Two a BBC One Wales.

19 Awst 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891