Yn 2022, fe wnaethom gychwyn ar genhadaeth ymchwil newydd i fynd i’r afael â thair her gymdeithasol hollbwysig:
Yn y Brifysgol Agored, gelwir y rhain yn Heriau Cymdeithasol Agored (OSCs).
Gallwch ddarganfod mwy am ymchwil yn Y Brifysgol Agored yma.
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cynhyrchu Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru. Mae'r strategaeth, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), yn amlygu sut y byddwn yn datblygu ein gwaith ymchwil, arloesi ac ymgysylltu dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r strategaeth yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Gan adeiladu ar waith partneriaeth a gynlluniwyd ar y cyd ar draws sectorau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, byddwn yn canolbwyntio ar:
Cliciwch yma i ddarllen ein Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru
Mae’r OSC yn disodli’r meysydd ymchwil strategol (SRAs) a oedd yn sail i’n cynllun ymchwil blaenorol. Fodd bynnag, bydd ymchwil thematig, traws-sefydliadol yn parhau ar draws rhai o’r SRAs hyn, sef:
Os hoffech drafod gweithgareddau ymchwil OU neu weithio gydag ein hacademyddion, e-bostiwch partneriaethau-cymru@open.ac.uk