Man working on a computer wearing a headset. Dyn yn gweithio ar gyfrifiadur yn gwisgo clustffon.

You are here

  1. Hafan
  2. Gweithio gyda ni

Gweithio gyda ni

Sut hoffech chi helpu rhywun i newid eu bywyd? Ni yw darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf Cymru – mae mwy na 16,000 o bobl o bron bob cymuned ledled Cymru yn astudio gyda ni.

Nid oes unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd. Dewch yn ôl yn fuan.

Yr hyn a gewch yn gyfnewid:

  • Rydym yn talu cyflogau cystadleuol fel y gallwn recriwtio a chadw pobl o safon uchel.
  • I wobrwyo eich gwaith caled ac am gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, rydym yn cynnig gwyliau blynyddol hael o hyd at 33 diwrnod, yn ogystal â holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus eraill.
  • Gallwn dalu eich ffioedd ar gyfer cyrsiau tra byddwch yn gweithio gyda ni.
  • Gallwch gyfrannu at gynllun pensiwn deniadol – Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS).
  • Rydym yn cefnogi patrymau gwaith hybrid hyblyg.

Datblygiad personol

Mae helpu ein pobl i ddatblygu yn allweddol ar gyfer cadw'r staff gorau. Dyna pam mae gennym raglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr, sy’n cynnwys:

  • rhaglen sefydlu ar gyfer yr holl staff newydd gydag adolygiadau rheolaidd
  • gweithdai hyfforddi i gefnogi datblygiad staff
  • mentrau datblygu fel sgyrsiau dros goffi i gwrdd â chydweithwyr newydd; cylchoedd dysgu i wella perthnasoedd ar draws timau, a mentora i'ch helpu i adnabod eich cryfderau a dysgu gan eraill.

Ble rydym ni?

Mae swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghymru yng nghanol bywiog Dinas Caerdydd. Rydym wedi ein lleoli yn Stryd y Tollty, gyferbyn â John Lewis a gwesty'r Marriot. Gan ein bod yng nghanol y ddinas, rydym yn hygyrch iawn ac mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog bum munud i ffwrdd ar droed, ac mae sawl llwybr bysiau i gyrraedd canol dinas Caerdydd sy'n arwain at ein swyddfa.

Map i swyddfeydd y Brifysgol Agored yng Nghymru

Yr olygfa ar fap

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws