Pa un ai a ydych eisiau datblygu eich hunan neu eisiau dod o hyd i fwy o wybodaeth i ddatblygu eich timau – dewch i’n gweld yn Introbiz 2017.
Bydd tiwtoriaid a chynghorwyr wrth law i’ch helpu chi ddysgu mwy am ein datrysiadau dysgu a datblygu.
Rapid internationalisation and performance: is the sky the limit? 2pm yn Arddangosfa Introbiz
Yn y briffiad, mae Dr Raquel Garcia-Garcia yn gobeithio agor eich llygaid i’r hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer perfformio ac ehangu’n rhyngwladol. Yn ei dro, bydd hyn yn codi amryw o gwestiynau sy’n berthnasol i bawb: gall pob cwmni elwa o ehangu’n gyflym dramor? Anelu’n uchel? Beth yw’r ffactorau sydd yn cefnogi/rhwystro ehangu’n gyflym dramor yn broffidiol?
Mae Raquel yn Ddarlithydd mewn Rheolaeth Strategol yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored gyda diddordebau ymchwil ym maes strategaeth gorfforaethol.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw