Dewch draw am sgwrs anffurfiol ac unigol gydag un o’n tiwtoriaid ôl-raddedig i drafod eich nodau astudio a’n hystod ni o gymwysterau. Gallwn ddweud mwy wrthych ynglŷn â sut mae dysgu â’r OU yn gweithio a sut allwn eich cefnogi chi â’ch astudiaeth. Gallwn hefyd eich helpu chi â’ch cam cyntaf i gofrestru gyda ni a thrafod eich cyllid a’r opsiynau talu sydd ar gael. Does dim angen apwyntiad.
Ddim yn siŵr pa gwrs yw'r un iawn i chi? Siaradwch â ni am eich nodau astudio ac fe helpwn ni chi i ddewis y llwybr gorau.
Meddwl am y costau? Mae astudio gyda'r OU yn fwy fforddiadwy nag y meddyliwch. Gofynnwch i ni am ffioedd ac opsiynau cyllid.
Os na allwch ddod i'r digwyddiad hwn neu os ydych yn fyfyriwr OU eisoes, ffoniwch ein cynghorwyr cyfeillgar am ragor o gymorth a chyngor ar 029 2047 1170.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw