Gweithiodd Dr Edward Wastnidge a Dr William Brown o'r Brifysgol Agored fel ymgynghorwyr academaidd ar y gyfres. Byddant yn cyflwyno eu cyfraniad i'r cynhyrchiad hwn ac yn siarad am y cyfle breintiedig a gawsant i gael cipolwg ar fyd diddorol diplomyddion Prydain.
Wedyn bydd trafodaeth panel lle y bydd y canlynol yn ymuno â chyflwynwyr Y Brifysgol Agored:
• Tom Cargill - Cyfarwyddwr Gweithredol, Grŵp Polisi Tramor Prydain
• Liane Saunders - Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydlynydd Rhaglenni Strategol, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad
• James Vaughan - Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
Bydd y panel yn edrych yn feirniadol ar faterion polisi tramor a ddeilliodd o gyfres y BBC gan gynnwys safbwyntiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Os na allwch ddod, beth am edrych ar ein tudalen Facebook lle y byddwn yn darlledu'n fyw ar y dydd!
Mae'r tocynnau am ddim, ond mae angen archebu lle: https://insidetheforeignoffice.eventbrite.co.uk
Bydd y drysau'n agor am 6pm ar gyfer derbyniad â lluniaeth ysgafn cyn i'r ddarlith ddechrau am 6:30pm.
Amseriadau:
6.00 - 6.30pm Cofrestru yn agor
6.30 - 6.40pm Darlith yn dechrau, datganiadau agoriadol
6:40 - 6:55pm Cyflwyniad gan ymgynghorwyr academaidd Y Brifysgol Agored ar gyfer 'Inside the Foreign Office'
6:55 - 7:25pm Trafodaeth panel: Safbwyntiau beirniadol ar faterion polisi tramor a ddeilliodd o'r gyfres
7:25 - 7:40pm C&A
7:40 - 7:45pm Neges i gloi
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw