Mae’r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefannau a’i apiau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan y Brifysgol Agored yng Nghymru: https://www5.open.ac.uk/wales/cy a https://www5.open.ac.uk/wales/en.
Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefannau a’n hapiau symudol, ac mae hygyrchedd yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth. Yn ein hwb Hygyrchedd, gallwch ddod o hyd i bopeth ar gyfer ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â hygyrchedd, pa un a ydych yn fyfyriwr neu’n aelod staff.
I addasu’r cynnwys yn ôl eich anghenion neu eich dewisiadau, dylech allu gwneud y canlynol:
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA, oherwydd yr eithriadau a restrir isod.
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rheswm/rhesymau canlynol:
Nid oes testun amgen i’w gael ar gyfer rhai delweddau ar dudalennau. Mae testun amgen yn agwedd hanfodol ar hygyrchedd lle cynigir disgrifiad o ddelweddau, graffiau, gwrthrychau ac ati ar gyfer y rhai sy’n defnyddio darllenwyr sgrin neu pan na ellir llwytho delweddau oherwydd cyfyngiadau’n ymwneud â’r porwr neu’r data.
Mae darllenwyr sgrin yn defnyddio testun amgen i ddisgrifio delweddau (a chynnwys arall nad yw’n destun) ar goedd, gan alluogi defnyddwyr i glywed a deall diben ac ystyr y cynnwys a ddisgrifir os na allant ei weld.
Mae defnyddwyr sy’n dibynnu ar destun amgen yn cynnwys y canlynol:
Nid yw’r agwedd hon yn bodloni maen prawf WCAG 2.2 1.1.1 Cynnwys nad yw’n Destun (Lefel A) a bydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Medi 2024.
Mae strwythur penawdau rhesymegol gyda phenawdau disgrifiadol yn helpu pawb i ddarllen a deall y cynnwys ar dudalennau gwe. Mae rhai elfennau o’r wefan yn dechrau gyda phennawd lefel ‘H2’ pan ddylent, yn rhesymegol, ddechrau gyda phennawd ‘H1’. Mae’r pennawd ‘Cadwch mewn cysylltiad’ ar y dudalen gartref yn enghraifft o hyn.
Nid yw’r agwedd hon yn bodloni maen prawf WCAG 2.2 2.4.10 2.4.10 (Lefel AAA) a bydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Medi 2024.
Mae eitemau newyddion yn adran newyddion y wefan (https://www5.open.ac.uk/wales/cy/newyddion) yn cynnwys ffrwd X (Twitter gynt) y Brifysgol Agored yng Nghymru. Nid yw’r eicon i yn y trydariadau’n cynnwys testun dirnadwy h.y. ar gyfer Gwybodaeth.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hwn ar 21 Awst 2024.
Adolygwyd y datganiad hwn y tro diwethaf ar 21 Awst 2024.
Cafodd y wefan hon ei phrofi y tro diwethaf ym mis Awst 2024. Hunanasesiad oedd hwn ac fe’i cynhaliwyd gan dîm cyfathrebu’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Dewiswyd tudalennau enghreifftiol ar y safle er mwyn profi trawstoriad o’r cynnwys. Dilynodd y tîm ganllawiau Menter Hygyrchedd y We W3C, gan ddefnyddio ategion oddi ar y safle i brofi elfennau hygyrchedd. Hefyd, defnyddiodd y tîm estyniad porwr Deque.
Os ydych o’r farn nad yw rhan arbennig o’n gwefan yn hygyrch ac os na allwch gael gafael ar yr wybodaeth angenrheidiol, defnyddiwch Ffurflen Adborth Hygyrchedd y Brifysgol Agored i ofyn am gymorth, a byddwn yn gwneud yn siŵr y cewch yr wybodaeth angenrheidiol. Bydd angen ichi nodi eich manylion cyswllt a’ch Rhif Adnabod Personol os ydych yn fyfyriwr er mwyn inni allu cysylltu â chi. Gallwch ddisgwyl clywed yn ôl gennym o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae’r Brifysgol Agored yn brofiadol iawn o ran bodloni anghenion hygyrchedd ei myfyrwyr. Mewn sawl achos, gallwn roi deunyddiau modiwlau a deunyddiau cymorth astudio o fath arall mewn fformatau amgen i fyfyrwyr sy’n nodi ar Ffurflen Cymorth Anabledd eu bod angen hynny.
Hefyd, mae rhai deunyddiau modiwlau ar gael mewn fformatau gwahanol a gellir eu lawrlwytho oddi ar wefan y modiwl. Gall myfyrwyr gysylltu â’u Tîm Cymorth Myfyrwyr i gael cyngor.
Os ydych yn fyfyriwr neu’n rhywun sydd wedi cysylltu â’r Brifysgol o’r blaen, ac os oes gennych gŵyn ynglŷn â hygyrchedd ein gwefannau, dylech godi cwyn trwy ddefnyddio’r broses gwyno ac apelio.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os ydych yn y DU ac os na fyddwch yn fodlon â’r modd yr ymatebwn i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw