Caiff y digwyddiad hwn ei gynnal gan WCVA ar y cyd â’r sector gwirfoddol, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer ymddiriedolwyr, aelodau staff, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae dros 50 o weithdai ar gael yn ogystal ag amrywiaeth eang o sefydliadau – i gyd wedi’u llunio i lywio a rhannu gwybodaeth am wirfoddoli.
Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth at ddant pawb.
Yma gallwch ddarganfod beth sy'n digwydd yn gofod3 ac archebu lle ar y digwyddiadau yr hoffech eu mynychu.
Ac wrth gwrs, bydd dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn rhoi cyfleoedd di-ri i chi rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol, yn ogystal â sgwrsio â chydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ein marchnad brysur.
Ewch i gofod3 am ragor o wybodaeth.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw