Mae llawer ohonom ag awydd am gychwyn newydd yn y Flwyddyn Newydd. Beth am roi cychwyn da i’ch mis Ionawr drwy ddatblygu eich sgiliau digidol gydag OpenLearn? Edrychwch ar rai o’r ffyrdd y gall ein cyrsiau eich helpu i wella eich sgiliau.
Oeddech chi’n gwybod y bydd codio'r un mor bwysig â darllen cyn bo hir? Wir yr! Mae arbenigwyr wedi cytuno y bydd codio yn dod yn ffurf bwysig o lythrennedd, gan fod pob darn o dechnoleg yn rhedeg ar god.
Beth am fynd ati a dysgu'r hanfodion? Mae ein cwrs yn eich cyflwyno i sgiliau, cysyniadau a thermau codio.
‘If you're going to have all this power be simple enough, appealing enough and cool enough, it's going to be because the software is right.’ – Bill Gates
Mae rhai o'r bobl fwyaf llwyddiannus yn y byd wedi adeiladu eu busnesau ar ddatblygu meddalwedd. Cymerwch olwg ar ein cwrs rhagarweiniol i ddysgu am fyd datblygu meddalwedd, sy’n newid o hyd.
Cyflwyniad i ddatblygu meddalwedd
Nid yw Python mor frawychus ag y mae’n swnio. Mae'n un o'r ieithoedd rhaglennu a ddefnyddir fwyaf. A gallwn eich helpu i ddysgu sut i'w ddefnyddio. Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut i ysgrifennu eich rhaglenni cyfrifiadurol eich hun, un llinell o god ar y tro.
Dysgu i godio er mwyn dadansoddi data
‘In a world that’s changing really quickly, the only strategy that is guaranteed to fail is not taking risks’ – Mark Zuckerberg
Mae meddalwedd yn newid o hyd, ac mae popeth rhywbeth newydd i’w ddysgu. Gall ein cwrs eich helpu i ddeall rhai o'r heriau a'r arferion sy'n gysylltiedig â datblygu a chynnal meddalwedd.
Rydyn ni'n dod ar draws dyluniadau rhyngweithiol bob dydd - o'r apiau rydyn ni'n eu defnyddio ar ein ffonau fel Instagram, i'r gwefannau rydyn ni'n eu defnyddio yn y gwaith. Bydd ein cwrs rhad ac am ddim yn eich helpu i ddeall sut y gall dylunio rhyngweithio helpu i wneud bywyd yn haws i ddefnyddwyr ap.
Cyflwyniad i ddylunio rhyngweithio
A ydych chi’n dymuno parhau i ddysgu?
Oeddech chi’n gwybod bod y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig prentisiaeth gradd wedi’i hariannu’n llawn mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol?
Mwy o wybodaethDarllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae llawer ohonom ag awydd am gychwyn newydd yn y Flwyddyn Newydd. Beth am roi cychwyn da i’ch mis Ionawr drwy ddatblygu eich sgiliau digidol gydag OpenLearn?
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891