You are here

  1. Hafan
  2. Mae Saving Lives in Cardiff yn dilyn y doctoriaid sy'n gwneud penderfyniadau a all newid bywydau wrth galon y GIG

Mae Saving Lives in Cardiff yn dilyn y doctoriaid sy'n gwneud penderfyniadau a all newid bywydau wrth galon y GIG

Doctor

Mae cyd-gynhyrchiad chwe rhan newydd rhwng y Brifysgol Agored a'r BBC o'r gyfres Saving Lives yn dechrau ar 20fed Awst am 9pm ar BBC Two a BBC One Wales.

Yn erbyn cefnlen o restrau aros cynyddol a staff sy'n cael eu gweithio i'r eithaf, mae Saving Lives in Cardiff yn dilyn y clinigwyr sy'n wynebu'r benbleth ddyddiol o benderfynu pwy sy'n cael ei drin gyntaf a'r effaith mae'r penderfyniadau hyn yn ei gael ar fywydau eu cleifion, eu teuluoedd a'r staff sy'n gofalu amdanynt.

Gyda mynediad unigryw y tu ôl i'r llen yn Ysbytai Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chyfweliadau sy'n mynd dan groen materion gan rai sydd ar y llinell flaen, rydym yn dyst i holl ystod llwyth gwaith clinigwyr a'r straeon dynol personol a chymhellol iawn sy'n ganolbwynt i'r cyfan.

Meddai Felicity Astin, Athro Nyrsio a Dr Linda Walker, Darlithydd Nyrsio, oedd yn ymgynghorwyr academaidd ar gyfer y gyfres:

“Mae Saving Lives in Wales yn dangos yr heriau go iawn mae llawfeddygon a'u timau yn ei wynebu bob dydd. Gall gwylwyr weld sut maent yn penderfynu pa gleifion ar eu rhestr aros sy'n cael mynediad at driniaeth sy'n gallu newid bywyd a'r rhai nad ydynt yn cael, ac rydym yn dilyn taith cleifion wrth iddynt dderbyn llawdriniaethau cwbl syfrdanol gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf.

"Mae'r gyfres yn rhoi cyfle i'r gwyliwr weld drosto'i hun y pwysau a'r straen mae llawfeddygon yn ei wynebu a dewrder cleifion a'u teuluoedd".

Mae'r bennod gyntaf yn dilyn y llawfeddyg fasgwlaidd Lewis Meecham wrth iddo gael ei wthio i'r eithaf gan don arall o achosion brys. 

Comisiynwyd y gyfres hon gan Broadcast and Partnerships ac fe'i cefnogir gan Gyfadran Astudiaethau Llesiant, Addysg ac Iaith gyda pherthnasedd penodol i: 

R39 | BSc (Anrhydedd) Nyrsio | Y Brifysgol Agored 

R26 | BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Y Brifysgol Agored 

Q96 | BSc (Anrh) Gofal Iechyd a Gwyddor Iechyd (open.ac.uk) 

  • Comisiynwyd gan Dr Caroline Ogilvie, Cyfarwyddwr, Broadcast and Partnerships 
  • Ymgynghorydd/wyr Academaidd: Yr Athro Felicity Astin a Dr Linda Walker 
  • Cymrawd/Cymrodyr y Cyfryngau: Yr Athro Erica Borgstrom 
  • Rheolwr Prosiect Broadcast: Poppy Ross 
  • Cefnogi Cynnwys Ar-lein: Steff Easom 

Cefnogi cynnwys Ar-lein: 

Ymwelwch â'n gwefan Broadcast OU Connect lle gallwch ddod o hyd i ffwythiant rhyngweithiol sy'n eich rhoi chi, y defnyddiwr, yn esgidiau meddyg GIG prysur, sy'n gofalu am ystafell aros rithiol o gleifion.

(DS: mae'n bosib na fydd y safle hon yn fyw nac yn gyflawn cyn i'r gyfres gael ei darlledu) 

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Doctor

Mae Saving Lives in Cardiff yn dilyn y doctoriaid sy'n gwneud penderfyniadau a all newid bywydau wrth galon y GIG

Mae cyd-gynhyrchiad chwe rhan newydd rhwng y Brifysgol Agored a'r BBC o'r gyfres Saving Lives yn dechrau ar 20fed Awst am 9pm ar BBC Two a BBC One Wales.

19 Awst 2024
Silff lyfrau

Adroddiad newydd yn dangos gwerth graddau mewn y celfyddydau a dyniaethau i Gymru

Mae Newid y naratif: rhoi gwerth ar raddau yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar ran y Brifysgol Agored, yn amlygu pwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy y gall graddedigion y celfyddydau a’r dyniaethau eu cyflwyno i’r gweithle – gan gynnwys meddwl yn greadigol, meddwl dadansoddol, a llythrennedd technolegol. 

14 Awst 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891