Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Mae’r gyfres tair rhan yn dilyn y pleserau a’r heriau a wynebir gan ddisgyblion ac athrawon Ysgol Y Deri wrth i’r camerâu gipio gwirionedd bywyd yn ysgol addysg arbennig fwyaf Prydain unwaith eto.
'Mae gweithio ar Gyfres tri o 'A Special School' wedi bod yn uchafbwynt ein gwaith eleni,' dywedodd Leigh Worrall, Tiwtor cwricwlwm TAR y Brifysgol Agored a Sarah Adams, Darlithydd mewn Astudiaethau Addysg, a oedd yn ymgynghorwyr academaidd ar y gyfres. 'Yn y gyfres hon, roeddem yn awyddus i ddangos sut mae’r ysgol yn parhau i newid ac addasu mewn ymateb i anghenion y disgyblion a sut mae’r ddarpariaeth wedi ei hymestyn i ddarparu addysg i fwy o ddisgyblion. Fel tîm, rydym wedi adolygu ac ymgynghori ar rediadau’r storiâu. Mae rhediadau’r storiâu yng Nghyfres tri yn datblygu a myfyrio ar y rheiny yng Nghyfres un a dau. Mae pob pennod yn dathlu pob disgybl am bwy ydyn nhw, ac yn dangos sut y gall addysg gwmpasu cryfderau pob disgybl, a gyda’r gefnogaeth a’r strategaethau cywir, mae’n bosib goresgyn unrhyw rwystrau.
Yn y gyfres hon, roeddem yn awyddus i ddangos sut mae’r ysgol yn parhau i newid ac addasu mewn ymateb i anghenion y disgyblion a sut mae’r ddarpariaeth wedi ei hymestyn i ddarparu addysg i fwy o ddisgyblion.
Leigh Worrall
'Mae ein cynnwys ar-lein eleni wedi ceisio amlygu sut mae ysgolion yn addasu eu hamgylchfydoedd i anghenion y disgyblion. Mae’n rhaid i bob ysgol, nid Ysgolion Arbennig yn unig, fod yn aml-swyddogaethol ac aml-ddimensiynol, yn benodol o ystyried pwysau cyllidebol a chyfyngiadau ariannol cynyddol. I ymgymryd â’r her hon, mae ysgolion yn defnyddio eu hadnoddau’n fedrus i greu mannau arloesol a diddorol ar gyfer dysgu, myfyrdod, hunan-reoli, gweithgaredd corfforol, ac wrth gwrs, addysgu. Mae’r ysgol yn datgan: `Nid yw’r dysgu i gyd yn digwydd yn y dosbarth’, a gobeithiwn fod ein map ysgol rhyngweithiol ar-lein yn amlygu hyn.'
'Fel academydd yn gweithio ym Mhartneriaeth TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru, roedd yn bwysig i mi fod yr adnoddau a greasom yn cael eu darparu’n ddwyieithog,' ychwanegodd Leigh. 'Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gwen Morgan (Tiwtor Cwricwlwm TAR) am gyfieithu’r cynnwys ar-lein i’r Gymraeg, a’n galluogi felly i gynnig adnodd hollol ddwyieithog eleni. Diolch, Gwen!'
Yn y bennod gyntaf, gwelwn yr ysgol yn agor darpariaeth newydd ar gyfer disgyblion uwchradd sydd wedi’u heithrio o addysg brif ffrwd, entrepreneuriaid addawol yn cyrraedd rowndiau terfynol Mentrau Ieuenctid Cymru, ac mae postman newydd ar y bloc.
Ewch i’n gwefan Darllediadau a Phartneriaid OU Connect lle gallwch gael cip ar ysgol arbennig dros eich hun - ewch am dro rhithiol - o gwmpas ardaloedd anhygoel a gwylio rhannau nas gwelwyd o’r gyfres.
Comisiynwyd y gyfres hon gan Ddarlleniadau a Phartneriaethau ac fe'i cefnogir gan gyfadran Astudiaethau Llesiant, Addysg ac Iaith. Mae’r gyfres yn benodol o berthnasol i TAR yng Nghymru, Gradd Meistr mewn Addysg, BA (Anrhydedd) Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chyflwyno iechyd a gofal cymdeithasol.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891