Yn dilyn ymddeoliad Louise Casella yr wythnos ddiwethaf, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi penodi Cyfarwyddwr Dros Dro newydd. Bydd David Price yn arwain y tîm yng Nghymru nes y bydd y brifysgol wedi penodi unigolyn yn y swydd yn barhaol.
Mae David yn ymgynghorydd rheoli annibynnol, yn hyfforddwr gweithredol ac yn rheolwr dros dro, sy’n gweithio'n bennaf gyda sefydliadau addysgol trydyddol. Cyn hynny, treuliodd 25 mlynedd yn gweithio i nifer o brifysgolion y DU a chyrff adrannol anllywodraethol, mewn swyddi cynllunio strategol a pholisïau. Ei swydd barhaol ddiwethaf oedd Dirprwy Is-ganghellor (Strategaeth a Pherfformiad) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae David wedi bod yn Brif Weithredwr dros dro yn Colegau Cymru/Colleges Wales (y corff sy’n cynrychioli’r sector addysg bellach yng Nghymru); yn ymgynghori Prifysgolion Cymru (y corff sy’n cynrychioli’r sector addysg uwch yng Nghymru), Prifysgol De Cymru a’r Brifysgol Brydeinig yn yr Aifft; ac mae wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr elusen yn ogystal ag yn aelod annibynnol o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Caerdydd.
Hynod braf yw ymuno â’r Brifysgol Agored. O wybod am bwysigrwydd y Brifysgol Agored o fewn y maes addysg yng Nghymru, a’r effaith gadarnhaol y caiff ar fyfyrwyr a chymunedau ar draws y wlad, rwyf wir yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r rhai blynyddoedd diwethaf.
David Price
Cyfarwyddwr Dros Dro
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891