Mae tri myfyriwr o’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi ennill grant i gefnogi eu syniadau busnes fel rhan o gystadleuaeth a gynhelir gan y Brifysgol Agored ar gyfer fyfyrwyr entrepreneuriaid - sef yr Open Business Creators Fund. Allan o 175 o ymgeiswyr, mae’r enillwyr o Gymru yn ymuno â 14 o entrepreneuriaid o’r Brifysgol Agored a lwyddodd hefyd i dderbyn grant.
Bu i Rachel, sy’n fyfyriwr Seicoleg â Chwnsela, ennill grant yn y categori Serious, ar gyfer busnesau sydd wedi bod yn gweithredu am lai na blwyddyn. Mi fydd hi’n derbyn grant o £5000 i ddatblygu ei ap digidol ‘Heart of Home’. Mae’r ap wedi ei gynllunio er mwyn helpu rhieni a gofalwyr proffesiynol i ofalu am berthnasau a dibynyddion sydd ag awtistiaeth.
Dywedodd Rachel, ‘Bydd Heart of Home yn ap digidol fydd yn darparu cefnogaeth i deuluoedd sydd â phlant ag anableddau. Fe’i crëwyd er mwyn darparu cymorth syml ac effeithiol ar gyfer y teulu cyfan, gan fod cefnogaeth yn cychwyn o Heart of Home. Rwyf yn falch o allu rhannu fy mod, ar y cam yma o’r daith, yn adeiladu fy ngwefan, a fydd yn barod i fynd mewn ychydig wythnosau gyda’r gallu i rannu buddion y fenter a chofrestru ymlaen llaw. Rwyf eisoes wedi sefydlu tudalen Facebook ar gyfer fy musnes, lle rwyf wedi bod yn rhannu’r gwahanol gamau yr wyf wedi bod yn eu cymryd ar fy nhaith i wireddu Heart of Home.’
Mae’r Gronfa OBC yn gystadleuaeth sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill grant i ddod yn entrepreneuriaid a rhoi hwb cychwynnol i’w syniadau.
Mae'r categori Curious yn cefnogi myfyrwyr sydd â syniadau busnes sydd yn y camau cynnar o’u datblygiad, neu sydd dan ystyriaeth ers peth amser. Roedd dau fyfyriwr o Gymru ymhlith yr enillwyr yn y categori hwn: James, myfyriwr Baglor mewn Peirianneg, a enillodd y grant ar gyfer ei fusnes cyflenwi coed, The Second Chance Sawmill. Wedi ei lleoli yn ne Cymru, mae’r felin lifio wedi ymrwymo i leihau dibyniaeth y DU ar fewnforio coed, yn ogystal â lleihau gwastraff.
Y syniad busnes arall o Gymru i ennill yn y categori hwn oedd ‘Mallard’, a ddatblygwyd gan Daniel o Went, sy’n fyfyriwr Seicoleg. Nod Mallard yw cynnig gwasanaethau proffesiynol yn creu a golygu cynnwys ar gyfer busnesau, gweithwyr llawrydd ac awduron. Bydd y ddau enillydd yn derbyn grant o £1000 i’w helpu i ddatblygu eu syniadau.
'Diolch i’r grant gan yr Open Business Creators Fund, gallwn o’r diwedd ddechrau paratoi ein gweithdy a dechrau adeiladu'r felin lifio' meddai James, sefydlwr Second Chance Sawmill, 'bydd hyn yn ein galluogi i droi coed a fyddai fel arall wedi eu torri’n goed tân, i gynhyrchion hyfryd a fydd yn para am oes.'
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891