Graddiodd dros 600 o fyfyrwyr heddiw, mewn dwy seremoni yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) yng Nghasnewydd, fel rhan o seremoni raddio'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Mae digwyddiad 2023 yn nodi 50 o flynyddoedd ers seremoni raddio gyntaf y Brifysgol Agored yn Alexandra Palace, Llundain, a ddarlledwyd yn fyw ar BBC2.
Yn ystod seremonïau'r bore a’r prynhawn, cerddodd myfyrwyr ar draws lwyfan yr ICC i dderbyn eu graddau gan Ddeon Gweithredol Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg y Brifysgol Agored, yr Athro Nicholas Braithwaite.
Graddiodd Chloe Jackson-Nott, 28, o Gwmbrân gyda BA mewn Rheoli Busnes. Mae hi’n dioddef o feigryn cronig, a chafodd drafferth addasu i fywyd ar safleoedd prifysgolion. Gwelodd fod model hyblyg y Brifysgol Agored yn fwy addas ar ei chyfer.
'Roeddwn yn gallu gweithio yn fy amser fy hun ac astudio ymlaen llaw os oeddwn i’n gwybod y buaswn yn brysur yr wythnos ganlynol. Roedd graddau’r gefnogaeth yn rhyfeddol,' dywedodd Chloe. 'Os oedd angen mwy o amser neu gymorth arnaf, yr oll oedd angen i mi ei wneud oedd gofyn.
Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi gwneud cais ac wedi cael fy nerbyn am interniaeth yn ystod fy misoedd olaf o astudio. Yn ystod cyfnod cyflwyno fy aseiniad terfynol, cefais gynnig swydd lawn amser gyda’r cwmni ac rwy’n dal i weithio iddynt mewn swydd uwch.
Chloe Jackson-Nott
'Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi gwneud cais ac wedi cael fy nerbyn am interniaeth yn ystod fy misoedd olaf o astudio. Yn ystod cyfnod cyflwyno fy aseiniad terfynol, cefais gynnig swydd lawn amser gyda’r cwmni ac rwy’n dal i weithio iddynt mewn swydd uwch.'
Graddiodd Mark Crothers, 25, o Benarth, drwy raglen radd nyrsio y Brifysgol Agored.
'Gwnaeth fy newid mewn ffyrdd na allaf i fyth egluro,' dywedodd Mark. 'Rwy’n teimlo fy mod yn berson hollol wahanol er gwell ac yn gwella'n barhaus. Roedd y Brifysgol Agored yn swnio fel yr opsiwn mwyaf hyblyg a deniadol, felly dyna pam y dewisais y llwybr hwn i fyd nyrsio.'
Ymunodd dau o raddedigion er anrhydedd â Chloe a Mark: Tracy Pike MBE, Prif Swyddog Gweithredol Connecting Youth, Children and Adults (CYCA), a’r awdur a hanesydd Norena Shopland.
Mae Norena Shopland yn awdur a hanesydd, sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o fewn hanes Cymru. Mae ei gwaith yn cynnwys Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales, y gwaith cyntaf ar hanes cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd Cymru, a’r pecynnau cymorth rhyngwladol boblogaidd Queering Glamorgan ac A Practical Guide to Searching LGBTQIA Historical Records.
Yn 2021, comisiynwyd Norena gan Lywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant LHDTC+ i lyfrgelloedd lleol, amgueddfeydd ac archifau ar hyd a lled Cymru. Mae wedi bod ar y Rhestr Binc, sef rhestr o bobl LHDTC+ mwyaf dylanwadol Cymru, o 2019 i 2023.
'Roedd fy ngwraig, fel llawer o bobl, yn gweithio'n llawn amser ac wedi gwneud gradd gyda'r Brifysgol Agored felly rydym yn falch iawn o barhau â'n cysylltiad â sefydliad o'r fath,' esboniodd Norena 'Gwnaeth ei gradd am hwyl, ond i eraill, mae'n llwybr pwysig i ddatblygiad gyrfa a chyflogaeth ac yn y byd hwn sy'n newid yn gyflym, yn gyfle gydol oes i newid llwybrau gyrfa neu i roi cynnig ar feysydd newydd.
'Mae dysgu yn cydio amdano chi, fel rwy’n siŵr y byddai’r rhai sydd wedi graddio yn cytuno, felly da iawn nhw. Byddwch yn falch o’ch cyflawniadau, a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu.'
Dechreuodd Tracy Pike ei gyrfa fel athrawes ym 1979, gan fynd ymlaen i weithio fel pennaeth gofal bugeiliol mewn ysgol uwchradd. Ar ôl gadael ei swydd fel athrawes i fagu ei theulu, aeth ati i astudio rheoli straen gyda’r Brifysgol Agored, ac yna sefydlodd ei busnes ei hun yn hyfforddi cannoedd o staff y GIG.
Tracy oedd yr ymgynghorydd rheoli straen cyntaf i weithio gyda meddygon teulu Llanelli i gynnig dulliau o reoli straen ar bresgripsiwn. Ym 1997, aeth i weithio gyda Connecting Youth, Children and Adults (CYCA) fel cydlynydd ysgol ar gyfer clybiau dysgu. Daeth Tracy â’i brwdfrydedd dros reoli gwytnwch i’r rôl a hyd yma mae hi wedi llwyddo i sicrhau dros chwe miliwn o bunnoedd o gyllid ar gyfer cynnig cymorth a chwnsela llesiant am ddim i blant a’u teuluoedd. Daeth yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2002, ac yn 2018 derbyniodd MBE am ei gwasanaeth i blant a’u teuluoedd.
'Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer y radd meistr er anrhydedd hon gyda’r Brifysgol Agored,' meddai Tracy. 'Roedd fy nghymhwyster ffurfiol cyntaf ar ôl gadael addysgu gyda’r brifysgol ac mae’i hegwyddorion dysgu wedi’u rhaeadru i filoedd o ddysgwyr.
'Mae wedi bod yn bleser cael gweld staff o’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn dyst uniongyrchol i rai o’r dysgwyr yn CYCA sydd wedi elwa ar fy egwyddorion ac arferion o reoli straen.
'I gyd-raddedigion, dilynwch eich angerdd dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae’n beth ysbrydoledig a gwerth chweil i gael gweld y newid.'
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ieithoedd tramor modern yn cael eu cynnig fel ail bwnc newydd ar ei thystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR), a ddarperir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891