Mae Safonau’r Gymraeg yn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg pan maen nhw yn cysylltu gyda sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys y Brifysgol Agored.
Mae’r Brifysgol Agored wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail eu bod yn gyfartal, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru ers tro. Rydym yn gweld cyflwyno Safonau’r Gymraeg fel cyfle i adeiladu ar hyn ac rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio ac i barhau i ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd gorau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r dolenni isod yn darparu mwy o wybodaeth ar sut y bydd y Brifysgol Agored yn cydymffurfio gyda’r safonau a sut y gallwch roi gwybod i ni pan mae pethau yn mynd o chwith.
Asesiad cyfleoedd dysgu sydd i’w cynnig i’r cyhoedd 2022-23
Adroddiad blynyddol safonau'r Gymraeg 2022-23
Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg (gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau, prosiectau a thesis ym mhob maes pwnc) i'w myfyrwyr ac mae'n cynnal asesiadau yn unol â dewis ieithyddol y myfyriwr.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw