Yn gynharach yn 2023, derbyniodd y Brifysgol Agored yng Nghymru grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect treftadaeth, REACH Cymru (Preswylwyr sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth). Wedi’i wneud yn bosibl gan arian a gasglwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar gefnogi pobl mewn pum ardal yng Nghymru i ddefnyddio celfyddydau creadigol i archwilio cysylltiadau â hanes eu cymuned leol.
‘Rydym yn ddiolchgar ein bod wedi derbyn y gefnogaeth hon gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol,’ meddai arweinydd academaidd y Brifysgol Agored yng Nghymru, yr uwch ddarlithydd Richard Marsden. ‘Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â dod â chymunedau ynghyd trwy dreftadaeth a’r celfyddydau creadigol, tra ar yr un pryd yn dysgu mwy am sut a pham mae’r gorffennol yn bwysig i bobl, ac mae wedi bod yn wych clywed straeon pobl a gweld cymaint o syniadau gwych yn codi o weithdai'r cyfnod datblygu.
‘Rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd y cam nesaf yn ei gynnig wrth i ni gefnogi cyfranogwyr i archwilio, creu, arddangos a chadw hanes a threftadaeth eu cymuned eu hunain.’
Rydym wedi darganfod straeon gwych, trysorau lleol a thalentau cudd trwy ein gweithdai datblygu ac wedi defnyddio barn ac awgrymiadau trigolion i ddylunio cam cyflawni’r prosiect.
Ruth Poultney
Rheolwr prosiect
Mae'r tîm yn dod â'r cyfnod datblygu i ben gyda digwyddiad dathlu teulu-gyfeillgar ym mhob cymuned. Bydd y rhain yn dod â hanes lleol a chelfyddydau creadigol ynghyd ac yn caniatáu i drigolion fyfyrio ar y prosiect hyd yn hyn, cydweithio ar gynlluniau ar gyfer ei gyflawni a dathlu eu treftadaeth a’u doniau.
‘Rydym wedi darganfod straeon gwych, trysorau lleol a thalentau cudd trwy ein gweithdai datblygu ac wedi defnyddio barn ac awgrymiadau trigolion i ddylunio cam cyflawni’r prosiect,’ meddai rheolwr y prosiect, Ruth Poultney. ‘Mae’r digwyddiadau dathlu yn ffordd wych o ddod â cham cyntaf REACH Cymru i ben ac arddangos y gorau o’r cymunedau sydd wedi croesawu’r prosiect a rhannu eu treftadaeth gyda ni.’
Mae’r Brifysgol Agored yn gwneud cais am grant pellach gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i barhau i gyflawni’r prosiect ledled Cymru.
Bydd y cam cyflawni yn gweld y Brifysgol Agored yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys arweinwyr cymunedol, cymdeithasau tai, Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chasgliad y Werin Cymru. Bydd y cam hwn yn parhau am ddwy flynedd.
Dros y cyfnod hwn bydd y prosiect yn cyflwyno gweithdai archaeoleg, hanes lleol, hanes naturiol a chelfyddydau creadigol yn y cymunedau sy’n cymryd rhan, gan orffen gyda chyfres o arddangosfeydd personol a digidol. Bydd y rhain yn dathlu treftadaeth pob ardal trwy waith pobl leol.
Mae REACH Cymru yn estyniad cenedlaethol o raglen BG REACH y Brifysgol Agored yng Nghymru, (a ariennir gan URKI) a gefnogodd drigolion ym Mlaenau Gwent i archwilio eu hanes.
Asesir ceisiadau grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol dros £250,000 mewn dwy rownd. Yn wreiddiol, cafodd REACH Cymru gefnogaeth ar gyfer y cyfnod datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Ebrill 2023, gan ganiatáu iddo symud ymlaen â’i gynlluniau. Yna caiff cynigion manwl eu hystyried gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn yr ail rownd ym mis Tachwedd, lle gwneir penderfyniad terfynol ar gyllid llawn cyfnod cyflawni 2 flynedd.
Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, arwain ac yn darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth y Deyrnas Unedig i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi dros £43 biliwn ar gyfer prosiectau ac mae mwy na 635,000 o grantiau wedi'u dyfarnu ledled y Deyrnas Unedig.
Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLotteryHeritageFund
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891