Gan Trudi Rees-Davies, Tiwtor Ymarfer (Ysgol Gynradd Pen Rhos, Llanelli) Mehefin 2024.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae fy rolau gyda Phartneriaeth y Brifysgol Agored wedi amrywio o Fentor a Chydlynydd Ysgolion i'm swydd bresennol fel Tiwtor Ymarfer, rôl dwi wedi bod wrth fy modd yn ei chyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r rôl hon wedi bod yn arbennig o werth chweil gan ei bod yn caniatáu imi weld twf a datblygiad disgyblion ifanc ac athrawon dan hyfforddiant. Cefais wahoddiad i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil gyda'r nod o archwilio defnydd ac effeithiolrwydd technoleg fideo wrth fonitro a gwerthuso athrawon dan hyfforddiant. O ystyried fy heriau blaenorol yn defnyddio technoleg yn fy rolau mentora, roeddwn yn frwdfrydig am gyfrannu at y prosiect hwn.
Gwnaethom drefnu sawl cyfarfod ar-lein i gytuno ar y cynllun ymchwil a dyrannu tasgau. Fy rôl i oedd cynnal cyfweliadau gydag athrawon dan hyfforddiant, athrawon newydd gymhwyso, ac uwch arweinwyr. Esgorodd y trafodaethau hyn ar lawer o bethau gwerthfawr i’w hystyried:
Cynhaliais grŵp ffocws gyda disgyblion hefyd a oedd wedi cael eu recordio yn ystod gwersi gyda'r athrawon a oedd dan hyfforddiant ar y pryd. Roedd yr ymatebion gan ddisgyblion yn ddoniol ac yn onest, gan ddarparu persbectif ffres ar y defnydd o dechnoleg fideo yn yr ystafell ddosbarth. Gwnaeth y plant gymryd rhan lawn yn y drafodaeth, gan gynnig adborth gonest, di-flewyn-ar-dafod am eu profiadau:
Mae bod yn rhan o'r prosiect ymchwil hwn wedi bod yn brofiad hynod werth chweil. Mae'r adborth gonest gan ddisgyblion, ynghyd â meddyliau’r athrawon dan hyfforddiant ac uwch arweinwyr, yn tanlinellu pwysigrwydd a photensial defnyddio technoleg fideo wrth addysgu a gwerthuso athrawon.
Fel addysgwr sy'n ymroddedig i feithrin twf myfyrwyr ifanc a darpar athrawon, rydw i’n ymrwymedig i barhau â'r ymchwil hon a gweithredu ei chanfyddiadau.
I ddarllen mwy gan Trudi am ei meddyliau ar y prosiect, cliciwch yma.
Ac am adroddiad llawn y prosiect ymchwil cliciwch yma.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw