You are here

  1. Hafan
  2. Arweinydd y brifysgol yn galw am chwyldroi system ariannu prifysgolion, wrth iddi ymadael â’i swydd

Arweinydd y brifysgol yn galw am chwyldroi system ariannu prifysgolion, wrth iddi ymadael â’i swydd

Louise Casella giving a speech

Ddydd Llun 22 Mai, traddododd cyfarwyddwr y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru, Louise Casella, brif araith mewn digwyddiad arbennig i drafod dyfodol addysg uwch yng Nghymru.

Trefnwyd Dinesydd:Myfyriwr –darparu addysg drydyddol ar gyfer anghenion Cymru'r dyfodol gan y Brifysgol Agored yng Nghymru i drafod agenda ‘myfyrwyr fel dinasyddion’ Llywodraeth Cymru a sut y gellid ail-ddychmygu’r sector prifysgolion ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Yn yr araith, rhybuddiodd Louise Casella yn erbyn peryglon mesur gwerth prifysgolion ar sail canlyniadau economaidd i fyfyrwyr yn unig. Dywedodd y dylid rhoi llawer mwy o sylw i fuddion cymdeithasol addysg, a galwodd ar y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) arfaethedig i newid yn sylweddol sut y caiff prifysgolion yng Nghymru eu hariannu.

Jeremy Miles giving a speech

Yn ymuno â hi roedd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles AS, a nododd mwy o fanylion am agenda ‘myfyrwyr fel dinasyddion’ Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei araith, amlinellodd y Gweinidog mai addysg yw’r polisi addysg a chyfiawnder cymdeithasol gorau, ac esboniodd sut mae creu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sydd â dyletswydd statudol i hybu dysgu gydol oes, yn weithred sy’n tarfu ar y gyfundrefn bresennol.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd fod gwaith ar gychwyn i archwilio sut mae modd galluogi myfyrwyr i fenthyg mwy er mwyn cyllido astudiaethau rhan-amser.

Wrth siarad yn ystod y digwyddiad, dywedodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Os system sy’n cefnogi cymunedau ac sy’n cynhyrchu dysgwyr sy’n cyfrannu at gymdeithas yw ein gweledigaeth ni ar gyfer addysg uwch, y cwestiwn sydd angen ei ateb ar fyrder yw: sut dylid strwythuro’r system honno fel bod pobl yn gallu mynd a dod, rhoi a chymryd, gydol eu holl fywydau, mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw?

Panel of speakers having a discussion at event

“Yr ateb yw system gyllido llawer mwy hyblyg, llawer mwy ymatebol, a llawer mwy ymaddasol.

“Un lle nad oes unrhyw un fodd neu ffordd o gyflenwi addysg ar ei cholled.

“Un sy’n cynnig uniondeb yn hytrach na diffyg uniondeb, ac sy’n caniatáu sefydliadau i gydweithio i ddarparu’r math o gyfleoedd dysgu y mae myfyrwyr a dinasyddion fel ei gilydd yn eu dymuno’n arw.

"Ac un sydd yn ein hannog ni i feddwl yn radical am yr hyn rydym yn ei gynnig.”

Rhwng y ddwy araith, bu panel o arbenigwyr addysg, dan gadeiryddiaeth y cyn-Aelod Cynulliad Nerys Evans, yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa. Roeddent yn cynnwys:

  • Louise Casella, cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru
  • David Kernohan, dirprwy olygydd WonkHE
  • David Hagendyk, prif weithredwr ColegauCymru
  • Ceri Doyle, prif weithredwr Cartrefi Dinas Casnewydd

Hon oedd araith gyhoeddus olaf Louise Casella fel cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, yn dilyn ei chyhoeddiad yn gynharach yn y flwyddyn y bydd yn ymddeol ym mis Mehefin.

Yn ystod ei sylwadau yntau, talodd y Gweinidog deyrnged i arweinyddiaeth Mrs Casella y Brifysgol Agored yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a’r cyfraniadau y mae wedi eu gwneud i fywyd cyhoeddus Cymru ar hyd ei gyrfa.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Graddedigion yn seremoni raddio y Brifysol Agored yng Nghymru

Y Brifysgol Agored yng Nghymru ar frig prifysgolion Cymru am foddhad myfyrwyr

Mae myfyrwyr ledled Cymru wedi sgorio’r Brifysgol Agored yng Nghymru fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.

10 Gorffennaf 2024
Staff busnes yn trafod prosiect o gwmpas bwrdd

Bron i hanner busnesau Cymru yn adrodd prinder sgiliau ac yn brin o hyder ym maes deallusrwydd artiffisial a thechnoleg werdd

Mae bron i hanner (47%) busnesau Cymru yn dweud eu bod yn cael trafferth gyda phrinder sgiliau, sy’n llawer llai na 62% o’r rheini yng ngweddill y DU.

19 Mehefin 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891