You are here

  1. Hafan
  2. Cwestiwn ac ateb gyda myfyriwr nyrsio anabledd dysgu Prifysgol Agored

Cwestiwn ac ateb gyda myfyriwr nyrsio anabledd dysgu Prifysgol Agored

Rich Nye

Mae Rich Nye yn fyfyriwr nyrsio anabledd dysgu'r Brifysgol Agored ac yn Llysgennad Myfyrwyr.

Mae nyrs anabledd dysgu yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol, i fyw bywyd annibynnol a boddhaus, ac yn eirioli ar eu rhan.

Yma, mae Rich yn dweud wrthym am ei daith ddysgu a beth sydd wedi ei ysbrydoli i ddilyn y llwybr hwn.

Ers pryd ydych chi wedi gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu?

Mae'n dod hyd at bum mlynedd nawr, dechreuais mewn gwasanaeth dydd i oedolion ag anabledd dysgu yn y gymuned cyn symud i'r GIG yn 2022.

A wnaethoch chi unrhyw waith gwahanol neu a gawsoch yrfa wahanol cyn eich gwaith fel nyrs anabledd dysgu?

Ar ôl cwblhau gradd mewn gwleidyddiaeth, dechreuais weithio ym maes manwerthu. Roedd hon yn swydd y syrthiais ynddi - roeddwn i fod yno am 6 wythnos ond arhosais am 15 mlynedd! Erbyn hynny roedd gen i forgais ac roeddwn i wedi gweithio fy ffordd i fyny i reoli fy siop fy hun. Roeddwn yn anhapus am gyfnod a chefais gyfle i newid fy ngyrfa. Astudiais gyda'r Brifysgol Agored ar gyfer blwyddyn gyntaf y cwrs gwaith cymdeithasol ond sylweddolais fod nyrsys yn rhyngweithio â phobl ac yn helpu pobl yn y ffordd roeddwn i eisiau a phenderfynais newid fy ffocws.

Y Brifysgol Agored oedd fy newis cyntaf erioed, mae'n rhoi'r gallu i mi weithio ar fy nghyflymder fy hun ac ar adeg sy'n addas i mi.

Sut daethoch chi'n fyfyriwr anabledd dysgu?

Rwy'n cael fy nghefnogi i fod yn nyrs anabledd dysgu trwy secondiad drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi cael cefnogaeth dda iawn gan fy rheolwr a'r Brifysgol Agored i wneud hyn.

Sut fyddech chi'n disgrifio agweddau gorau eich swydd?

Gallu helpu pobl i adrodd stori eu bywydau. Rydych chi'n cael gweithio gyda grŵp o bobl sydd wedi cael eu hanwybyddu, eu gwthio i'r cyrion ac wedi'u heithrio o gymdeithas. Gallwch helpu i fynd i'r afael â hyn. Rydych chi'n treulio'ch amser yn dod i adnabod pobl a gallu eu helpu i fyw eu bywydau gorau.

Beth sydd wedi eich herio yn eich gwaith fel nyrs anabledd dysgu?

Y teimlad o ddiffyg pŵer, teimlo'n ddi-rym yn erbyn systemau neu fethu â chyrraedd person a'u helpu. Mae'n golygu bod angen dathlu buddugoliaethau bach.

Yn ogystal â bod yn weithiwr cymorth, rydych hefyd yn 'fyfyriwr nyrsio' yn y Brifysgol Agored, felly beth wnaeth eich denu at ddilyn y cwrs astudio a datblygiad personol hwn?

Roeddwn i'n siŵr mai bod yn nyrs oedd yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud ac roeddwn i'n barod i ddilyn y llwybr trwy brifysgol draddodiadol. Y Brifysgol Agored oedd fy newis cyntaf erioed, mae'n rhoi'r gallu i mi weithio ar fy nghyflymder fy hun ac ar adeg sy'n addas i mi (pwysig pan fydd gennych chi blant ifanc). Mae wedi rhoi cyswllt i mi â myfyrwyr o bob cwr o'r DU mewn sefyllfa debyg i mi fy hun sydd wedi rhoi cefnogaeth a safbwyntiau gwahanol i mi ar bynciau ac mae wedi fy annog i ddod yn ddysgwr annibynnol, yn lle cael gwybod beth sydd angen i mi ei wybod, rwyf wedi cael y sgiliau i fynd i ffwrdd a dod o hyd i wybodaeth a'i gwerthuso i mi fy hun.

Sut wnaethoch chi ddarganfod am y ffordd hon o astudio i ddod yn nyrs gofrestredig?

Fe'i trafodwyd yn fy adolygiadau datblygu yn y gwaith.

A oedd gennych 'bopeth' yr oedd ei angen arnoch i ddod yn fyfyriwr nyrsio gyda'r Brifysgol Agored neu a oedd yn rhaid i chi wneud rhywfaint o astudiaeth arall yn gyntaf?

Roeddwn i wedi gwneud lefel pedwar mewn gwaith cymdeithasol o'r blaen a helpodd gyda fy sgiliau astudio.

Pa gam ydych chi'n ei wneud gyda'ch cwrs a sut mae wedi bod yn mynd?

Rydw i hanner ffordd trwy gam dau ac ar leoliad. Rwyf wedi ei fwynhau'n fawr hyd yn hyn ac rwy'n teimlo'n freintiedig i allu gweithio tuag at swydd rwy'n ei hawydd tra'n gallu bwydo fy mhlant!

Ble hoffech chi weld eich hun ymhen 5 mlynedd a beth fyddai eich swydd ddelfrydol?

Byddwn wrth fy modd yn cael bod yn ymarferydd nyrsio uwch, yn gallu parhau â'm dysgu a dod yn arbenigwr ac yn arweinydd mewn maes a fydd o fudd gwirioneddol i'r bobl rwy'n gweithio gyda nhw. Y berthynas rydych chi'n ei meithrin gyda chleifion yw gwir lawenydd y swydd hon a byddwn yn betrusgar i golli'r cyswllt hwnnw.


Diddordeb mewn bod yn nyrs anabledd dysgu?

I ddod yn nyrs anabledd dysgu, bydd angen gradd arnoch. Ni fydd yn rhaid i chi wneud gradd nyrsio cyffredinol os ydych yn gwybod eich bod am arbenigo mewn anabledd dysgu, gallwch wneud eich gradd mewn nyrsio anabledd dysgu.

Mae graddau nyrsio anabledd dysgu a ariennir yn llawn ar gael trwy Fwrsariaeth GIG Cymru.

Darganfod mwy

Nyrs gyda chlaf

Help i benderfynu ai nyrsio yw’r yrfa iawn i chi

Nyrs gyda chlaf

Mae’r cwrs OpenLearn am ddim, Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio, yn rhoi trosolwg o’r hyn y mae nyrsio’n ei olygu. Mae’n canolbwyntio ar nyrsio yn y DU yn benodol, a hefyd ar ei le yn y byd. Byddwch yn dysgu am bedwar maes nyrsio yn y DU, sut beth yw hyfforddiant nyrsys, yn ogystal â beth sy’n gwneud nyrsys gwych.

Dysgwch fwy

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Pound symbol

Staff a myfyrwyr y Brifysgol Agored yn rhannu awgrymiadau ardderchog ynglŷn ag arian

Thema’r Wythnos Siarad Arian eleni yw 'Gwnewch Un Peth', felly rydym wedi gofyn i staff a myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru rannu eu cyngor ariannol gorau gyda ni. 

4 Tachwedd 2024
Rich Nye

Cwestiwn ac ateb gyda myfyriwr nyrsio anabledd dysgu Prifysgol Agored

Mae Rich Nye yn fyfyriwr nyrsio anabledd dysgu’r Brifysgol Agored, mae’n sôn am ei daith ddysgu a’r hyn sydd wedi ei ysbrydoli i ddilyn y llwybr hwn.

28 Hydref 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891