Mae’r Brifysgol Agored wedi cyhcwyn astudiaeth newydd i’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol a’i effaith ar deuluoedd mewn galar.
Cyflwynwyd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol ym mis Ionawr 2021. Meddygon cymwys yw archwilwyr meddygol sy’n annibynnol oddi wrth y rhai fu’n gofalu am yr ymadawedig. Maent yn asesu cofnodion meddygol pobl sydd wedi marw, ac yn nodi achos y farwolaeth. Mae’r gwasanaeth hefyd yn galluogi teuluoedd i ofyn cwestiynau am y gofal a roddwyd i’w hanwyliaid gan wasanaethau iechyd.
Mae’r Brifysgol Agored yn chwilio am aelodau teulu sy’n fodlon rhannu eu straeon a’u profiadau o gyfathrebu â’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â’r Prif Ymchwilydd Dr Kerry Jones. Bydd Kerry yn egluro sut mae’r astudiaeth yn gweithio ac yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Bydd cyfweliadau’n cymryd 45-60 munud a rhoddir taleb Amazon gwerth £50 i chi am eich amser.
CysylltwchBydd y gwaith ymchwil dan arweiniad Dr Kerry Jones, Uwch Ddarlithydd Gofal Diwedd Oes yn y Brifysgol Agored, a chyd-gadeirydd Grŵp Ymchwil Gofalwyr y brifysgol. Yn ymuno â hi bydd Sharon Mallon Uwch Ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol a Llesiant ym Mhrifysgol Swydd Stafford, sydd hefyd yn gyn-academydd yn y Brifysgol Agored.
‘Drwy ddod i ddeall mwy am y ffordd mae’r gwasanaeth hwn yn cyfathrebu â theuluoedd ar ôl marwolaeth anwylyn, gallwn helpu i lywio’r gwasanaeth wrth ei gyflwyno ledled Cymru a Lloegr,’ meddai Dr Jones.
‘Hoffem siarad ag unrhyw un sydd wedi derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Archwilio Meddygol. Gwyddom y gall siarad am farwolaeth anwylyn a’r galar a ddaw yn ei sgil fod yn anodd. Gallwn eich sicrhau bod gan ein hymchwilwyr brofiad o siarad â theuluoedd ynglŷn â galar a byddant yn eich cefnogi chi drwy gydol eich cyfraniad i’r astudiaeth hon.’
Os ydych chi wedi profi profedigaeth ac yn chwilio am gymorth, gall y sefydliadau canlynol helpu:
Os ydych yn fyfyriwr y Brifysgol Agored ac yn profi unrhyw beth sy’n effeithio ar eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Tîm Cymorth Myfyrwyr.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891