You are here

  1. Hafan
  2. Y Brifysgol Agored yng Nghymru ar frig prifysgolion Cymru am foddhad myfyrwyr

Y Brifysgol Agored yng Nghymru ar frig prifysgolion Cymru am foddhad myfyrwyr

Graddedigion yn seremoni raddio y Brifysol Agored yng Nghymru

Mae myfyrwyr ledled Cymru wedi sgorio’r Brifysgol Agored yng Nghymru fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2024 a gyhoeddwyd heddiw (10 Gorffennaf) yn rhoi sgôr boddhad cyffredinol o 86.7% i'r Brifysgol Agored yng Nghymru - cynnydd o 3.4 pwynt canran o’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn o'i gymharu â chyfartaledd o 81.4% ar gyfer prifysgolion ledled Cymru.

'Ein prif nod yw cefnogi a galluogi llwyddiant ein myfyrwyr,' meddai Ben Lewis, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Mae gennym filoedd o fyfyrwyr gwych ledled Cymru, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cydbwyso astudio gyda gwaith a bywyd teuluol.'

Beth yw'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS)?

Mae’r NSS yn arolwg blynyddol o bron i hanner miliwn o fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf sy’n astudio ar gyfer cymwysterau addysg uwch mewn sefydliadau addysg uwch (SAU) a ariennir yn gyhoeddus a cholegau addysg bellach (CAB) yng Nghymru a Lloegr, a SAU yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau sy’n ymwneud ag agweddau ar brofiad myfyrwyr – addysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned ddysgu a llais y myfyriwr.

'Mae gennym ni berthynas werthfawr ac adeiladol gyda’n cynrychiolwyr myfyrwyr. Rydym yn blaenoriaethu cyfarfod â nhw, ac yn wir gwrando ar leisiau ein holl fyfyrwyr ar draws y wlad. Yn y misoedd diwethaf, rydym wedi cynnal digwyddiadau caffi myfyrwyr yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Llandudno i ddarganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym yn ymateb i'r hyn y maent wedi'i ddweud wrthym.'

'Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig rhaglen academaidd sy’n cael ei chydnabod yn eang fel rhaglen ragorol. Mae ein staff addysgu wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i gael y gorau o'u dysgu a chyflawni eu potensial. Maent hefyd yn arwain ar ymchwil arloesol sy’n mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf cymdeithas. Mae hyn yn amrywio ar draws yr holl faterion hanfodol sy'n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru heddiw. Mae enghreifftiau o’n hymchwil yn cynnwys dinasyddiaeth weithredol, tlodi tanwydd, mapio ein coed trefol, a mynd i’r afael â newid hinsawdd.'

'Rydym yn gwybod bod ein myfyrwyr yn gwneud dewis i astudio gyda ni. Rydym yn gwerthfawrogi’r dewis hwnnw ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad at greu Prifysgol fywiog, unigryw a llwyddiannus. Llongyfarchiadau i’n staff a’n myfyrwyr ar ganlyniad gwych sy’n adlewyrchu eu gwaith caled a’u hymroddiad.'

Y Brifysgol Agored yw darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf Cymru. Ar hyn o bryd mae ganddi dros 16,000 o fyfyrwyr yng Nghymru – mae dros ddwy ran o dair o’r rhain mewn cyflogaeth tra byddant yn astudio.

Rydym yn gwybod bod ein myfyrwyr yn gwneud dewis i astudio gyda ni. Rydym yn gwerthfawrogi’r dewis hwnnw ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad at greu Prifysgol fywiog, unigryw a llwyddiannus. Llongyfarchiadau i’n staff a’n myfyrwyr ar ganlyniad gwych sy’n adlewyrchu eu gwaith caled a’u hymroddiad.

Ben Lewis
Cyfarwyddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Lisa Assistive Technology Lead with pupil Ieuan

'A Special School' yn dychwelyd am gyfres newydd

Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm. 

2 Rhagfyr 2024
 Tri o bobl â bagiau cefn yn gwisgo crysau-t sy'n dweud 'Changemakers'

Gwaith ymchwil newydd yn edrych ar ddealltwriaeth wleidyddol pobl ifanc yng Nghymru

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol. 

20 Tachwedd 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891