You are here

  1. Hafan
  2. Amdanom ni
  3. Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan y Brifysgol Agored yng Nghymru

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan y Brifysgol Agored yng Nghymru

Mae’r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefannau a’i apiau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan y Brifysgol Agored yng Nghymru: https://www5.open.ac.uk/wales/cy a https://www5.open.ac.uk/wales/en.

Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefannau a’n hapiau symudol, ac mae hygyrchedd yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth. Yn ein hwb Hygyrchedd, gallwch ddod o hyd i bopeth ar gyfer ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â hygyrchedd, pa un a ydych yn fyfyriwr neu’n aelod staff.

I addasu’r cynnwys yn ôl eich anghenion neu eich dewisiadau, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau.
  • Addasu maint y testun (hyd at 200%) heb effeithio ar nodweddion y wefan.
  • Chwyddo’r testun hyd at 400% heb golli gwybodaeth na nodweddion.
  • Llywio trwy’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
    • tabiwch at y dolenni ‘Skip to content’ ar frig y dudalen i hepgor gwybodaeth ailadroddus a mynd at y prif gynnwys.
    • tabiwch trwy’r cynnwys; bydd y lleoliad cyfredol yn cael ei ddangos gyda newid gweledol clir.
    • gallwch reoli’r chwaraewr cyfryngau gogyfer chwarae deunyddiau sain a fideo.
  • Defnyddio darllenydd sgrin (e.e. JAWs, NVDA) i wneud y canlynol:
    • gwrando ar gynnwys tudalennau gwe a defnyddio unrhyw nodweddion ar y dudalen.
    • rhestru’r penawdau a’r is-benawdau ar y dudalen a neidio wedyn i’w lleoliad ar y dudalen.
    • arddangos rhestr o ddolenni ystyrlon ar y dudalen.
  • Defnyddio trawsgrifiadau neu gapsiynau caeedig gyda’r mwyafrif o ddeunyddiau sain a fideo.
  • Lawrlwytho deunyddiau dysgu mewn fformatau amgen (e.e. dogfennau Word, PDF, ePub, Kindle eBook).
  • Os oes gennych anabledd print, rydym yn cynnig SensusAccess i fyfyrwyr, sef gwasanaeth awtomatig sy’n trosi ffeiliau o un fformat i fformat arall, er enghraifft troi PDF yn destun, yn sain, yn Word neu’n Braille.
  • Hefyd, mae AbilityNet yn cynnig cyngor ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA, oherwydd yr eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rheswm/rhesymau canlynol:

(a) Nid yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Testun amgen

Nid oes testun amgen i’w gael ar gyfer rhai delweddau ar dudalennau. Mae testun amgen yn agwedd hanfodol ar hygyrchedd lle cynigir disgrifiad o ddelweddau, graffiau, gwrthrychau ac ati ar gyfer y rhai sy’n defnyddio darllenwyr sgrin neu pan na ellir llwytho delweddau oherwydd cyfyngiadau’n ymwneud â’r porwr neu’r data.

Mae darllenwyr sgrin yn defnyddio testun amgen i ddisgrifio delweddau (a chynnwys arall nad yw’n destun) ar goedd, gan alluogi defnyddwyr i glywed a deall diben ac ystyr y cynnwys a ddisgrifir os na allant ei weld.

Mae defnyddwyr sy’n dibynnu ar destun amgen yn cynnwys y canlynol:

  • Pobl ddall sy’n dibynnu ar ddarllenwyr sgrin – maent angen deall disgrifiadau amgen o ddelweddau.
  • Pobl sy’n dewis peidio â lawrlwytho delweddau neu pan na ellir lawrlwytho delweddau oherwydd cyfyngiadau’n ymwneud â’r porwr neu’r data.

Nid yw’r agwedd hon yn bodloni maen prawf WCAG 2.2 1.1.1 Cynnwys nad yw’n Destun (Lefel A) a bydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Medi 2024.

Penawdau

Mae strwythur penawdau rhesymegol gyda phenawdau disgrifiadol yn helpu pawb i ddarllen a deall y cynnwys ar dudalennau gwe. Mae rhai elfennau o’r wefan yn dechrau gyda phennawd lefel ‘H2’ pan ddylent, yn rhesymegol, ddechrau gyda phennawd ‘H1’. Mae’r pennawd ‘Cadwch mewn cysylltiad’ ar y dudalen gartref yn enghraifft o hyn.

Nid yw’r agwedd hon yn bodloni maen prawf WCAG 2.2 2.4.10 2.4.10 (Lefel AAA) a bydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Medi 2024.

(c) Nid yw’r cynnwys oddi mewn i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dolenni'n cynnwys testun dirnadwy

Mae eitemau newyddion yn adran newyddion y wefan (https://www5.open.ac.uk/wales/cy/newyddion) yn cynnwys ffrwd X (Twitter gynt) y Brifysgol Agored yng Nghymru. Nid yw’r eicon i yn y trydariadau’n cynnwys testun dirnadwy h.y. ar gyfer Gwybodaeth.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hwn ar 21 Awst 2024.

Adolygwyd y datganiad hwn y tro diwethaf ar 21 Awst 2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi y tro diwethaf ym mis Awst 2024. Hunanasesiad oedd hwn ac fe’i cynhaliwyd gan dîm cyfathrebu’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Dewiswyd tudalennau enghreifftiol ar y safle er mwyn profi trawstoriad o’r cynnwys. Dilynodd y tîm ganllawiau Menter Hygyrchedd y We W3C, gan ddefnyddio ategion oddi ar y safle i brofi elfennau hygyrchedd. Hefyd, defnyddiodd y tîm estyniad porwr Deque.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych o’r farn nad yw rhan arbennig o’n gwefan yn hygyrch ac os na allwch gael gafael ar yr wybodaeth angenrheidiol, defnyddiwch Ffurflen Adborth Hygyrchedd y Brifysgol Agored i ofyn am gymorth, a byddwn yn gwneud yn siŵr y cewch yr wybodaeth angenrheidiol. Bydd angen ichi nodi eich manylion cyswllt a’ch Rhif Adnabod Personol os ydych yn fyfyriwr er mwyn inni allu cysylltu â chi. Gallwch ddisgwyl clywed yn ôl gennym o fewn 5 diwrnod gwaith.

Mae’r Brifysgol Agored yn brofiadol iawn o ran bodloni anghenion hygyrchedd ei myfyrwyr. Mewn sawl achos, gallwn roi deunyddiau modiwlau a deunyddiau cymorth astudio o fath arall mewn fformatau amgen i fyfyrwyr sy’n nodi ar Ffurflen Cymorth Anabledd eu bod angen hynny.

Hefyd, mae rhai deunyddiau modiwlau ar gael mewn fformatau gwahanol a gellir eu lawrlwytho oddi ar wefan y modiwl. Gall myfyrwyr gysylltu â’u Tîm Cymorth Myfyrwyr i gael cyngor.

Os ydych yn fyfyriwr neu’n rhywun sydd wedi cysylltu â’r Brifysgol o’r blaen, ac os oes gennych gŵyn ynglŷn â hygyrchedd ein gwefannau, dylech godi cwyn trwy ddefnyddio’r broses gwyno ac apelio.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os ydych yn y DU ac os na fyddwch yn fodlon â’r modd yr ymatebwn i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws