Eleni, y Brifysgol Agored yng Nghymru yw prif noddwr gwobrau elusennau Cymru. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi'r cyfle i ddathlu gwaith a llwyddiannau elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu gan WCVA, y sefydliad aelodaeth cenedlaethol ar gyfer y trydydd sector a gwirfoddoli yng Nghymru.
Mae'r categorïau eleni yn cynnwys Gwirfoddolwr y flwyddyn, Codwr Arian y flwyddyn a Hyrwyddwr amrywiaeth. Cynhelir y seremoni ar 25 Tachwedd 2024.
'Rydym yn falch o fod yn brif noddwr Gwobrau Elusennau Cymru eleni,' meddai Helen Thomas, Rheolwr Partneriaethau gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Mae'n bwysig iawn i ni bod y gwaith caled mae elusennau a sefydliadau trydydd sector yn cael eu cydnabod a'u dathlu. Rydym yn gobeithio meithrin y berthynas hon gyda WCVA a pharhau i gefnogi gwaith sefydliadau trydydd sector gyda'r cyfleoedd dysgu rydym yn gallu eu darparu.'
Mae rhaglen hyfforddiant y Brifysgol Agored, 'Elw drwy Wirfoddoli, hefyd yn fod i ddechrau yr wythnos nesaf, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn gynharach eleni.
Mae'r rhaglen naw wythnos rhad ac am ddim yn helpu gwirfoddolwyr i wella eu sgiliau proffesiynol a datblygu eu gyrfaoedd gwirfoddoli. Mae wedi ei gynhyrchu mewn partneriaeth â WCVA.
‘Drwy weithio gyda'n gilydd, rydymwedi creu dysgu hygyrch ar gyfer gwirfoddolwyr, gan gynyddu eu sgiliau, hyder ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd i ddysgu,’ ychwanegodd Sara Sellek, Cyfarwyddwr Cynorthwyol gyda WCVA.
Mae'r hyfforddiant yn dechrau ar 8 Hydref a bydd yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams. Os hoffech chi gymryd rhan, gallwch gofrestru eich diddordeb yma.
Cymerwch olwg ar beth o'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda'r trydydd sector yma.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae llawer ohonom ag awydd am gychwyn newydd yn y Flwyddyn Newydd. Beth am roi cychwyn da i’ch mis Ionawr drwy ddatblygu eich sgiliau digidol gydag OpenLearn?
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891