Dros 50 mlynedd yn ôl, sefydlwyd y Brifysgol Agored fel ‘prifysgol yr awyr’ – lle y gallai pobl weithio tuag at radd os oeddent wedi methu yn gynharach yn eu bywydau. Wrth galon hunaniaeth y Brifysgol Agored mae ei chenhadaeth gymdeithasol i agor addysg a dysgu i fyny i mwy a mwy o bobl ledled Cymru.
Oherwydd y genhadaeth hon y mae gennym berthynas wych ag elusennau a sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru, ochr yn ochr â’r cyrff sy’n eu cynrychioli. Drwy ein gwaith gyda’r trydydd sector, rydym wedi gallu creu mwy o lwybrau i addysg ar gyfer pobl nad oeddent efallai wedi meddwl bod hynny’n bosibl, waeth beth fo’u hoedran, cefndir neu anabledd.
Rydym ni'n gwybod sut y gall gwirfoddoli helpu pobl gyrraedd eu potensial. Oherwydd hyn, rydym wedi cefnogi digwyddiadau megis Gwobrau Elusennau Cymru, a gwobrau gwirfoddoli lleol.
Mae hon yn rhaglen hyfforddiant naw wythnos rhad ac am ddim ar gyfer gwirfoddolwyr a grëwyd mewn partneriaeth gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae'r partneriaid yn cynnwys WCVA a saith o'r Cynghorau Gwirfoddoli ac mae'n helpu gwirfoddolwyr i wella eu sgiliau proffesiynol a datblygu eu gyrfaoedd gwirfoddoli. Mae'n cael ei gynnal ar-lein, felly gallwch ymuno ble bynnag yr ydych chi yng Nghymru.
Rydym wedi cael llawer o hyfforddiant i wirfoddolwyr ond dim byd cystal â'r hyn mae'r Brifysgol Agored wedi'i ddarparu yma. Adnoddau ardderchog, darpariaeth ardderchog a chyda defnydd gwych o dechnoleg.
John Jones
Cadeirydd Ymddiriedolwyr, Cymdeithas mudiadau gwirfoddol Ceredigion
Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â wales-partnerships@open.ac.uk
Rydym ni'n helpu gwirfoddolwyr yng Nghymru i gael y gorau o OpenLearn, ein platfform dysgu ar-lein am ddim.
Mae'r hyfforddiant hwn yn dangos i chi sut i drosglwyddo eich profiad eich hun i ddysgwyr eraill ar OpenLearn.
Cysylltwch gyda partneriaethau-cymru@open.ac.uk er mwyn dysgu mwy ynghylch sut i ddod yn hyrwyddwr OpenLearn.
Ydych chi'n cynorthwyo eraill i gyrraedd eu nodau gyrfaol neu nodau dysgu? Mae croeso i chi gymryd golwg ar ein tudalen Hyrwyddwyr OpenLearn i weld sut allwn ni ein cefnogi chi.
I drafod sut gallwch chi neu'ch sefyliad weithio gyda ni, e-bostiwch partneriaethau-cymru@open.ac.uk
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw