Mae'r Brifysgol Agored, mewn partneriaeth â Choleg Gwent, Coleg Cambria, Grŵp Colegau NPTC ac Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, yn cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau ar-lein newydd cyffrous yn rhad am ddim i unrhyw un sy'n awyddus i wella ac adnewyddu eu sgiliau Mathemateg a Saesneg bob dydd. Gelwir y rhain yn gyrsiau Sgiliau Bob Dydd ac maent ar gael yn rhad am ddim ar OpenLearn Cymru ac OpenLearn Wales.
Mae'r cyrsiau wedi'u dylunio i roi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyd-fynd â chyrsiau addysg bellach eraill, er mwyn gwella rhagolygon gwaith neu ddysgu sgiliau newydd.
Gallwch ddod o hyd i'r cwrs Sgiliau Bob Dydd yma:
Dyma rai o'r buddion personol a phroffesiynol byddwch yn cael trwy astudio'r cyrsiau hyn:
Mae o werth mawr ddysgwyr waeth ble y gallent weld lle astudio traddodiadol.
Michelle Kerswell
Rheolwr y Cwricwlwm, a rheolwr darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
Mewn partneriaeth, roeddem yn gallu goresgyn heriau i greu dysgu a dealltwriaeth ar y cyd.
Lynnette Thomas
Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Datblygu , y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae’n offeryn gwych ar gyfer gweithgareddau gwaith cartref. Mae’n ei wneud yn fwy unigol i’r dysgwr.
Jayne McGregor
Cydlynydd Prosiect, Coleg Gwent
Buom yn siarad â dau berson sydd wedi bod yn astudio’r cyrsiau mathemateg a Saesneg.
Cysylltwch â'r ganolfan bartner, ble y gofynnir i chi sefyll asesiad dechreuol, o bosib. Bydd y ganolfan yn eich arwain o ran pa gwrs a chymhwyster yw'r un addas ar gyfer lefel eich sgil, naill ai cyrsiau Sgiliau Bob Dydd neu'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol.
Canolfannau partner sy'n cymryd rhan:
Dysgwch am gymhwyseddau Sgiliau Hanfodol Cymru a'r cymhwysedd Sgiliau gweithredol, ar gael yn Lloegr.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw