Rydym yn gweithio mewn cymunedau ar draws Cymru i wneud cyfleoedd dysgu ar gael i bobl.
Mae ein gwaith yn y gymuned yn canolbwyntio ar y rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn addysg uwch yn draddodiadol, megis y rhai sy'n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, gofalwyr a phobl anabl.
Mae model darparu addysg uwch y Brifysgol Agored yn golygu ein bod ni'n gallu cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr yn wahanol i brifysgolion eraill. Nid ydych angen cymwysterau i astudio gyda'r Brifysgol Agored, sy'n golygu bod croeso i bawb.
Mae ein partneriaethau yn hanfodol er mwyn gallu cyrraedd myfyrwyr a fyddai'n elwa o astudio gyda ni. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i gynnig nifer o gyfleoedd dysgu hyblyg, sy'n darparu llwybrau dilyniant i mewn i addysg uwch.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Am ein gwaith neu i drafod cyfleoedd partneriaeth, cysylltwch â'n tîm ehangu mynediad.