Ddydd Iau 29 Medi, cyhoeddwyd mai'r Brifysgol Agored yng Nghymru oedd enillydd gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn Womenspire 2022.
Trefnir y seremoni flynyddol gan Chwarae Teg ac mae’n cydnabod llwyddiannau menywod ledled Cymru – yn eu gwaith ac yn eu bywydau personol. Cynhaliwyd y seremoni yn y Pierhead ym Mae Caerdydd, a chafodd ei ffrydio’n fyw i wylwyr adref. Dyma’r eildro mewn tair blynedd i’r Brifysgol Agored yng Nghymru ennill y wobr.
Wedi'i noddi gan Hodge Bank, mae gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn cydnabod sefydliadau sy'n gweithio tuag at gydraddoldeb rhywedd yn eu gweithleoedd. Wrth ddatgan Y Brifysgol Agored yng Nghymru fel enillydd eleni, dywedodd y beirniaid ‘Mae’r sefydliad yn gynhwysol, yn arloesol ac yn ymatebol, ac mae ymrwymiad i gydraddoldeb a thegwch wedi’i wreiddio ym mhopeth a wna’.
Rydym wedi parhau i hyrwyddo ein rhaglen fentora i staff. Ac nid yw honno’n rhaglen un-ffordd lle mae staff sefydledig yn cefnogi’r rhai sy’n datblygu yn eu gyrfaoedd; mae’n rhaglen sy’n cynnwys mentora o chwith – gwrando ar brofiad byw pobl eraill a dysgu ohono. Mae hyn wedi cyfoethogi meddwl ein rheolwyr a'n harweinwyr yn aruthrol, ac wedi helpu i feithrin talent ym mhob rhan o'r sefydliad.
Louise Casella
Cyfarwyddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru
'Mae ennill Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn gydnabyddiaeth wych o'r ymdrech barhaus a systematig rydym wedi'i hymroi i greu gweithle cynhwysol gyda chydraddoldeb a thegwch fel gwerthoedd craidd,' ychwanegodd Louise Casella, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru. ‘Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae niferoedd einstaff wedi tyfu ochr yn ochr â nifer ein myfyrwyr ledled Cymru, ac fel pawb arall rydym wedi ceisio addasu i ffyrdd newydd o weithio. Er bod llawer o'r newidiadau hynny wedi'u gorfodi'n wreiddiol gan y pandemig, rydym wedi bod yn awyddus i ddysgu o'n profiadau, wedi croesawu mwy o hyblygrwydd o ran sut a ble mae pobl yn gweithio, ond rydym hefyd wedi cydnabod rhai o'r heriau a ddaw yn sgil y ffurf fwy gwasgaredig o weithio.
'Felly rydym wedi bod yn gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac wedi'u cysylltu yn eu rolau trwy nifer o fentrau fel ein Coffi Chwilfrydig lle gall pobl gysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw un arall yn y sefydliad, neu ein Cyfarfodydd Holl-Staff lle gall y tîm cyfan dod at ei gilydd a rhannu dysgu. Rydym hefyd wedi addasu ein holl arferion recriwtio ac anwytho i sicrhau eu bod mor gynhwysol â phosibl, ac wedi gwrando ar ein staff am yr hyn sydd ei angen arnynt a sut yr ydym yn eu cefnogi orau.
‘Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi parhau i hyrwyddo ein rhaglen fentora i staff. Ac nid yw honno’n rhaglen un-ffordd lle mae staff sefydledig yn cefnogi’r rhai sy’n datblygu yn eu gyrfaoedd; mae’n rhaglen sy’n cynnwys mentora o chwith – gwrando ar brofiad byw pobl eraill a dysgu ohono. Mae hyn wedi cyfoethogi'n aruthrol penderfyniadau ein rheolwyr a'n harweinwyr, ac wedi helpu i feithrin talent ym mhob rhan o'r sefydliad.'
Yn ogystal ag ennill gwobr y cyflogwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd oedd noddwr y categori Dysgwyr, gwobr sy'n dathlu llwyddiannau anhygoel menywod sydd wedi newid eu bywydau trwy ddysgu.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.
Mae gwefan newydd wedi'i lansio gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a TUC Cymru i gefnogi mwy o bobl i ddysgu gydol oes.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891