Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i fod yn athro/athrawes. O her aruthrol y newid cyflym i ddysgu ar-lein oherwydd pandemig COVID-19, i anghydfodau’r Gwanwyn ynghylch cyflog ac amodau, mae athrawon – a’r proffesiwn addysgu – wedi’u cael eu hunain o dan bwysau digynsail. Gyda’r Deyrnas Unedig yn gweld tuedd yn y niferoedd sy’n ymgeisio i ddod yn athrawon yn cwympo, mae llunwyr polisi ac addysgwyr yn canolbwyntio ar ateb y cwestiwn pwysig…
Pam ddylai pobl ystyried bod yn athrawon fel gyrfa?
Mae Sarah Stewart, Cyfarwyddwr rhaglen tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR) y Brifysgol Agored yng Nghymru yn rhoi ei phum prif reswm.
Yn syml iawn, dyma un o’r swyddi mwyaf gwerth chweil y gallwch chi ei chael. Nid oes yr un diwrnod yr un peth, ac fel unrhyw swydd mae ganddi ei heriau. Yn wahanol i unrhyw swydd arall, mae athrawon yn meithrin ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, a thros eu gyrfa yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau cannoedd os nad miloedd o blant. Ond bydd y rhan fwyaf o athrawon yn edrych yn ôl yn annwyl ar eu gyrfaoedd pan fyddant yn meddwl am y gwahaniaeth y maent wedi’i wneud i fywydau pobl ifanc.
Mae llawer o athrawon yn angerddol am y pethau y maent yn eu haddysgu. Gallai hyn fod yn nofel glasurol, yn ddarganfyddiad gwyddonol, neu’n gyfnod mewn hanes. Mae gweld plentyn yn cyffroi am rywbeth yr ydych chi’n angerddol yn ei gylch yn un o’r pethau mwyaf cymhellol.
Gall addysgu hefyd ymwneud â helpu i fagu hyder disgybl neu ddatblygu sgil yr oedd yn meddwl na allent ei wneud. Yn ei hanfod, mae’n ymwneud â datgloi potensial.
Ychydig iawn o swyddi all gystadlu â hynny.
Fe’i gelwir yn gymuned addysgu am reswm.
Pan fyddwch chi’n dod yn athro, rydych chi’n ymuno â theulu o weithwyr proffesiynol. Rydych chi’n gweithio gyda’r un bobl ifanc, tuag at yr un nodau. Mae yna bobl fel chi sydd efallai’n newydd i addysgu, ond sydd â chyfoeth o brofiadau bywyd a gyrfa. Gallwch ddod â syniadau newydd cyffrous a phersbectif gwahanol, wrth i chi ddysgu oddi wrth gydweithwyr profiadol a gweithio ochr yn ochr â nhw. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr sydd â degawdau o brofiad. Yn ogystal â dysgu pobl ifanc, byddwch yn datblygu gyrfaoedd eich gilydd.
Ond nid yw’n gorffen yno. Mae ysgolion yng Nghymru yn trefnu eu hunain yn glystyrau a rhwydweithiau rhanbarthol. Mae hyn yn golygu bod cydweithio, hyfforddi a chynllunio yn digwydd fel rhan o system ehangach. Byddwch yn gweithio gyda phobl ar raddfa llawer mwy – nid dim ond eich ysgol gynradd neu uwchradd.
Bydd llawer o’r bobl y byddwch yn cwrdd â nhw yn eich ysgol ac yn y gymuned gyfan yn gydweithwyr y byddwch yn eu gwerthfawrogi. Gall rhai hyd yn oed ddod yn ffrindiau am oes.
Mae ystafelloedd dosbarth Cymru yn amrywiol, a dylai ein gweithlu addysgu adlewyrchu hynny. Mae’n bwysig ar gyfer datblygiad disgyblion eu bod yn gweld pobl y gallant uniaethu â nhw fel athrawon. Mae hefyd yn bwysig eu bod yn gallu dysgu gan bobl o gefndiroedd eraill.
Yn ôl Cyfrifiad Blynyddol Gweithlu Ysgolion (CBGY) mwyaf diweddar Cymru, mae bron i dri chwarter y gweithlu addysg yn fenywod. Mae hyn yn golygu bod angen inni weld mwy o gynrychiolaeth rhwng y rhywiau mewn addysgu a byddai disgyblion Cynradd hefyd yn elwa o gael mwy o ddynion yn addysgu ein plant ifanc.
Dim ond 1.1% o athrawon sydd o ethnigrwydd Du, Asiaidd, cymysg neu ethnigrwydd arall. I lawer o 12% o blant Cymru o’r cefndiroedd hyn, ni fyddant yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu gan yr athrawon yn eu hystafelloedd dosbarth.
Mae’n werth edrych i weld a allwch chi helpu i arallgyfeirio’r gweithlu.
Yn syml, bydd angen athrawon arnom am byth.
Gall llawer o swyddi eraill, sydd mor werth chweil, fod yn agored i ffactorau allanol. Gallai fod yn berfformiad yr economi, neu’n newidiadau i dueddiadau defnyddwyr. Fel athrawon, bydd gennych gyflogwr a chwsmeriaid – plant i’w haddysgu bob amser.
Tynnodd y streiciau sylw at y pwysau y gall athrawon eu hwynebu. Mae arweinwyr ysgolion wedi annog y llywodraeth i barhau i ddod o hyd i ffyrdd o wella telerau ac amodau athrawon. Efallai nad yw tâl athrawon, fel gyda sectorau eraill, wedi cyd-fynd â gofynion costau byw heddiw, ond mae agweddau eraill, megis pensiynau athrawon, yn dal i apelio. Mae trefniadau gweithio hyblyg yn dod yn fwy normal, ac mae hawl i wyliau yn parhau i fod yn fantais wirioneddol i chi os ydych chi wrth eich bodd yn teithio neu os oes gennych chi deulu ifanc.
Mewn gwirionedd, mae’n fwy hyblyg nag erioed.
Dim ots ble rydych chi’n byw yng Nghymru, mae prifysgolion ledled y wlad yn cynnig rhaglen TAR. Ewch i https://addysgwyr.cymru/athro, a gallwch weld rhestr ohonynt yno. (Bydd angen gradd israddedig arnoch i wneud cais).
Mae gan bob un o’r prifysgolion hyn raglen achrededig a fydd yn rhoi statws athro cymwys i chi. Yn fyr – gallwch gael swydd fel athro cyn gynted ag y byddwch yn ei gorffen.
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru (lle dw i’n gweithio) hyd yn oed yn cynnig llwybr rhan-amser dwy flynedd sy’n galluogi pobl i astudio o gartref, ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw. Mae hyn yn wych os ydych chi eisiau newid gyrfa, ond yn dal eisiau ennill arian wrth astudio. Mae llwybr cyflogedig hefyd ar gyfer staff sydd eisoes yn gweithio mewn ysgolion.
Mae astudio i fod yn athro/athrawes yn dal i fod yn waith caled – ond nid yw erioed wedi bod yn fwy hyblyg. Mae diwygio addysg yng Nghymru yn golygu y byddech ymhlith rhai o’r cenedlaethau cynharaf o athrawon sydd wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru a’i holl bosibiliadau.
Dyma pam rydym ni’n dod o hyd i fwy o bobl â phrofiad amrywiol yn mynd i addysgu fel dewis gyrfa.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891