You are here

  1. Hafan
  2. Gwaith ymchwil newydd yn edrych ar ddealltwriaeth wleidyddol pobl ifanc yng Nghymru

Gwaith ymchwil newydd yn edrych ar ddealltwriaeth wleidyddol pobl ifanc yng Nghymru

 Tri o bobl â bagiau cefn yn gwisgo crysau-t sy'n dweud 'Changemakers'

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol. 

Mae’r gwaith ymchwil yn dilyn prosiect Ysgogwyr Newid y Brifysgol Agored, a fu’n gweithio gyda phobl 16-24 mlwydd oed yng Nghymru i ddarganfod beth maen nhw’n ei wybod am sefydliadau gwleidyddol yn y DU a sut i sbarduno newid cymdeithasol.

Ymgyrchu gwleidyddol a seneddau ledled y DU

Mae canfyddiadau ymchwil eraill yn dangos bod pobl ifanc o Gymru’n teimlo’n fwy hyderus yn eu gallu i ddylanwadu ar newid drwy senedd Cymru o’i gymharu â senedd y DU, ond bod llawer yn ansicr ynglŷn â sut i gyflwyno’r newid hwnnw.

Dywedodd nifer o’r bobl ifanc a holwyd hefyd eu bod yn dibynnu’n bennaf ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth am faterion gwleidyddol a chymdeithasol. Mae llawer hefyd yn teimlo eu bod yn gallu gwneud newid cymdeithasol y tu allan i seneddau – er enghraifft trwy ymgyrchu lleol, codi ymwybyddiaeth o fater penodol, neu greu deiseb.

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys cynyddu’r ffocws ar addysg wleidyddol mewn cwricwla ysgolion y DU, a darparu addysg am ddinasyddiaeth i oedolion.

Gwefan newydd i helpu pobl ifanc wneud newid

Mae’r tîm y tu ôl i’r gwaith ymchwil hefyd wedi creu Ysgogwyr Newid, gwefan i bobl ifanc sy’n rhoi cyngor ymarferol ynglŷn â sut i weithredu ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’n cynnwys gwybodaeth am senedd y DU, y Senedd a chynghorau lleol, gan egluro pa un o’r rhain sy’n gyfrifol am wahanol feysydd polisi.

Yr awdur

Mae Dr Donna Smith (prif awdur) yn Uwch Ddarlithydd Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol Agored, Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, Cymrawd y Ganolfan ar gyfer Addysg Ar-lein ac o bell, ac Ymddiriedolwr y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a’r cyfryngau, dinasyddiaeth weithredol ac addysgu a dysgu.

'Mae cyflymder y newid mewn gwleidyddiaeth, technoleg a’r cyfryngau yn gynt nag erioed,' dywedodd Donna Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol Agored, a phrif awdur yr adroddiad. 'Er bod hyn yn gyffrous, mae’n gallu bod yn anodd dal i fyny, a gall llawer o bobl deimlo’n analluog os byddant yn credu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud hebddynt. Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod pobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo fel hyn am wleidyddiaeth, ac yn llai tebygol o bleidleisio neu ymuno â phlaid wleidyddol.

'Nod y prosiect Ysgogwyr Newid oedd darganfod yr hyn y mae pobl ifanc yn ei wybod am wleidyddiaeth, a’r hyn maent yn ei ddeall am eu gallu eu hunain i wneud newid. Mae’n bwysig bod pob un ohonom sydd â diddordeb yn ein proses ddemocrataidd yn cefnogi pobl ifanc i ddysgu am ddinasyddiaeth mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw, fel eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o rym i newid yr hyn sy’n bwysig iddynt.'

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

 Tri o bobl â bagiau cefn yn gwisgo crysau-t sy'n dweud 'Changemakers'

Gwaith ymchwil newydd yn edrych ar ddealltwriaeth wleidyddol pobl ifanc yng Nghymru

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol. 

20 Tachwedd 2024
Athro yn siarad â grŵp o fyfyrwyr wrth fwrdd

Athrawon ieithoedd tramor newydd yng Nghymru i gael hyfforddiant ar raglen arloesol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ieithoedd tramor modern yn cael eu cynnig fel ail bwnc newydd ar ei thystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR), a ddarperir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.

18 Tachwedd 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891