Mae rhaglen hyfforddiant a sefydlwyd i gefnogi gwirfoddolwyr trydydd sector yn awr yn dechrau ar ei hail flwyddyn.
Mae Elwa drwy wirfoddoli yn cael ei darparu ar-lein gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru, mewn partneriaeth gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru (CGGC), Cefnogi Trydydd Sector Cymru a nifer o gynghorau gwirfoddoli cymunedol.
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn 2023, mae’r rhaglen yn dychwelyd am gyfnod arall o naw wythnos ar 16 Ebrill. Mae'n cynnwys sesiynau 90 munud wythnosol.
Mae Elwa drwy wirfoddoli yn agored i wirfoddolwyr sy’n byw yng Nghymru, ac yn cwmpasu pynciau megis:
Mae pob un o’r sesiynau yn cael eu recordio, sy’n golygu y gall y rhai sy’n derbyn hyfforddiant wrando eto os nad ydynt yn gallu mynychu ar un o’r dyddiadau.
Rwyf eisoes wedi dod yn fwy hyderus wrth gysylltu gyda chyflogwyr ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth, ac rwy’n fwy cyfforddus wrth ymweld â gweithleoedd a chyflwyno fy hun i gydweithwyr posib.
Gwirfoddolwr
Yn ganolog i’r rhaglen Elwa drwy wirfoddoli mae rhaglen ddysgu am ddim y Brifysgol Agored, OpenLearn, sy’n cynnwys cannoedd o gyrsiau ac adnoddau rhad ac am ddim. Mae nifer yn arbennig o berthnasol i wirfoddolwyr, gan gynnwys Gweithio yn y sector gwirfoddol a Defnyddio gwaith gwirfoddol i elwa o’r farchnad swyddi.
‘Mae cadw gwirfoddolwyr fel y gallant barhau gyda’r gwaith gwych maent yn ei wneud yn hanfodol i’r hyn mae’r trydydd sector yn ei wneud,’ meddai Helen Thomas, Rheolwr Partneriaethau yn y Brifysgol Agored yng Nghymru. ‘Mae ein rhaglen wych wedi’i chreu ochr yn ochr gyda’r sector fel y gall gwirfoddolwyr symud yn eu blaen - prun ai yw hynny o fewn eu swyddi gwirfoddoli neu fel gweithwyr proffesiynol.
‘Trwy Elwa drwy wirfoddoli, rydym hefyd wedi gallu siarad gyda gwirfoddolwyr am ddysgu gydol oes a sut y gall hyn agor cyfleoedd newydd. Mae rhai hyd yn oed wedi mynd ymlaen i astudio’n ffurfiol gyda’r Brifysgol Agored - ac mewn rhai achosion heb unrhyw brofiad o brifysgol.’
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891