Penodwyd y Brifysgol Agored yng Nghymru gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i hyfforddi myfyrwyr nyrsio newydd.
Mae cynllun gradd nyrsio’r Brifysgol Agored yn caniatáu i gynorthwywyr gofal iechyd astudio’n hyblyg ar gyfer gradd nyrsio, wrth barhau i weithio yn eu hysbyty lleol neu mewn cartref gofal.
Mae’r cwrs yn cynnwys bob un o’r pedwar maes nyrsio: oedolion; iechyd meddwl; anableddau dysgu; a phlant a phobl ifanc.
Gan ddechrau ym mis Hydref 2024, bydd y cytundeb ag AaGIC yn ariannu uchafswm o 130 o leoedd nyrsio'r flwyddyn. Blwyddyn yw’r cyfnod contract cychwynnol, gydag opsiwn i ymestyn hynny am ddwy flynedd arall.
Sefydlwyd rhaglen nyrsio’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn 2018. Trwy blatfform dysgu o bell y Brifysgol Agored, gall myfyrwyr ddysgu’n hyblyg ochr yn ochr â’u swydd, gan gyfuno theori ac ymarfer.
Ymhlith nodweddion allweddol y rhaglen y mae:
'Mae’r cytundeb newydd hwn gydag AaGIC yn garreg filltir arwyddocaol i’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Un o’r pethau sy’n ein hamlygu fel darparwr yw ein bod yn hyfforddi nyrsys ar gyfer Cymru gyfan,' dywedodd Dr Linda Walker, Rheolwr Cenedlaethol Cymru yng Nghyfadran Lles, Addysg ac Astudiaethau Iaith y Brifysgol Agored. 'Bydd myfyrwyr yn astudio gartref ac yn ennill profiad nyrsio ymarferol trwy weithio mewn lleoliadau gofal iechyd lleol priodol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid iddyn nhw fynd i rywle arall i astudio, a’u bod yn gallu parhau i wasanaethu eu cymuned leol.'
'Mae gennym berthynas wych gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a darparwyr gofal iechyd lleol yng Nghymru. Rydym wedi datblygu dull arloesol o alluogi dysgu o bell, ac rydym yn rhoi’r myfyriwr wrth wraidd ein dysgu - sy’n rhywbeth sy’n ennyn y gorau ynddyn nhw, ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial.'
'Mae’n bleser gennym weithio gyda’r Brifysgol Agored i helpu i gynyddu cyfleoedd i weithwyr cymorth cyflogedig hyfforddi i ddod yn nyrsys cofrestredig,' dywedodd llefarydd ar ran AaGIC. 'Mae ehangu mynediad at addysg gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn bwysig i AaGIC, wrth inni geisio diwallu gofynion gweithlu y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.'
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch ymgeisio ar gyfer cynllun gradd nyrsio’r Brifysgol Agored, ar gyfer mis Hydref 2024 neu Chwefror 2025 yma.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ieithoedd tramor modern yn cael eu cynnig fel ail bwnc newydd ar ei thystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR), a ddarperir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891