Yng ngwanwyn 2024, bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn dechrau ei waith fel cynllunydd, cyllidwr, a rheoleiddiwr addysg ôl-16 yng Nghymru. Mae dod â’r chweched dosbarth, colegau, prifysgolion, dysgu drwy waith, a dysgu oedolion yn y gymuned ynghyd dan un corff rheolaethol yn newid sylweddol, ac yn gyfle euraid i gysoni’r ffordd o gyflwyno addysg dinasyddiaeth fyd eang ar gyfer pob oedran.
Yn wir, mae’r ddeddfwriaeth a greodd y Comisiwn yn nodi sawl dyletswydd statudol a fydd yn arwain y Comisiwn yn ei waith. Yn eu plith mae cyfrifoldebau i hyrwyddo eangfrydedd byd eang, hyrwyddo cenhadaeth ddinesig, a hyrwyddo dysgu gydol oes. Mae’r dyletswyddau hyn, ynghyd â swyddogaethau niferus eraill y Comisiwn, yn darparu'r llwyfan sydd ei angen i ddatblygu dull cydweithredol o ymdrin ag addysg dinasyddiaeth i bawb yng Nghymru.
Dylai rhan o’r broses o gyflawni’r nod hwnnw yn sicr ymwneud â newid y system gyllido. Bydd gan CTER un o’r cyllidebau mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dim ond y GIG fydd â chyllideb uwch. Os bydd yn fodlon meddwl am ddefnyddio’r arian mewn modd radical, mae gwir gyfle i greu newid. Ar hyn o bryd, mae ein system ariannu'n canolbwyntio'n bennaf ar addysg israddedig lawn amser am gyfnod o dair i bedair blynedd, fel arfer rhwng 18-21 oed. Yn naturiol, mae’r cyllid hyn yn llywio ac yn dylanwadu ar ymddygiad darparwyr.
Ond, dychmygwch beth ellir ei gyflawni pe byddem yn newid ein ffordd o feddwl er mwyn osgoi cywasgu gwerth bywyd cyfan o sgiliau a gwybodaeth o fewn cyfnod byr ym mywydau pobl ifanc, ac yn hytrach, yn cydnabod bod pobl eisoes yn datblygu, gwella a diweddaru eu sgiliau drwy gydol eu bywydau - a byddent yn parhau i wneud hynny.
Does dim posib rhagfynegi pa swyddi fydd yn bodoli yn y dyfodol. Does dim posib rhagfynegi sut le fydd ein cymdeithas yn y dyfodol, na sut heriau fydd y byd - a’r gymuned - yn eu hwynebu. Felly, mae angen system dysgu gydol oes arnom i sicrhau bod posib i bobl gryfhau eu gwybodaeth ar unrhyw gyfnod yn eu bywydau, mewn amgylcheddau amrywiol, ac ar wahanol gyflymder ac arddwysedd.
Mae hi hefyd yn bwysig i bobl gael lle i ymarfer dinasyddiaeth fyd eang. Mae’r ‘ymarfer’ yn yr achos hwn, yn cyfeirio at ddau ystyr y gair - hynny yw i’w roi ar waith, ac i’w ymarfer i’w gael yn gywir. Mae creu’r lle hwnnw yn golygu bod pobl angen amser a hyblygrwydd, a dylai bod ein system addysg yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu eu gallu i feddwl yn feirniadol am faterion a heriau byd eang, ac i rannu a derbyn gwybodaeth. Yn syml, mae’n rhaid i’r hyblygrwydd fod yn rhan o’r system.
Yr un mor bwysig yw’r angen i sicrhau bod ymarferwyr mewn amgylcheddau ôl-16 yn meddu ar y wybodaeth, sgiliau a’r hyder i ddarparu addysg dinasyddiaeth yn effeithiol i ddysgwyr yn eu hamgylcheddau. Wrth wneud hyn, rhaid cynnwys ymgorffori’r wybodaeth berthnasol o fewn rhaglenni hyfforddiant cychwynnol, yn ogystal ag o fewn datblygiad proffesiynol parhaus hyblyg, a thrwy gefnogaeth gan gyfoedion.
Fodd bynnag, dim ond rhan fechan o’r darlun cyfan yw addysg ôl-16. Mae cyflawni’r nod o sicrhau fframwaith sydd wirioneddol am oes ar gyfer addysg dinasyddiaeth fyd eang yn golygu bod hefyd angen creu cytgord a datblygiad ar hyd taith dysgu gydol oes y dysgwyr: drwy addysg orfodol a thu hwnt ym mywydau oedolion, ar lwybr parhaus o welliannau mewn gallu a llythrennedd dinasyddiaeth fyd eang.
Mae gwneud defnydd o’r potensial am ddysgu ac addysgu ar-lein a hyblyg yn gyfle i wneud hyn. Drwy ddefnyddio dulliau newydd, bydd yn bosib cyrraedd hyd yn oed mwy o ddysgwyr a hyrwyddo dull o ymgymryd ag addysg dinasyddiaeth sy’n mynd tu hwnt i un lleoliad neu ardal ddaearyddol benodol, ac yn hytrach, yn galluogi i ddysgwyr ddatblygu eangfrydedd byd eang, ac i ddysgu gan bobl sydd o gefndiroedd gwahanol iddynt hwy.
Ymhellach, dylai dinasyddiaeth fyd eang cael ei hymgorffori fel Sgil Hanfodol, yn debyg iawn i rifedd a llythrennedd, ac fel cymhwyster sylfaenol i ddysgwyr ar raglenni dysgu i oedolion neu ddysgu drwy waith.
Yn ychwanegol, er pwrpas partneriaethau cymdeithasol a chydweithio, dylid cefnogi darparwyr addysg sy’n cyflwyno addysg dinasyddiaeth a’u hannog i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyrff a sefydliadau gwahanol sy'n bwyntiau cyswllt ym mywydau dinasyddion. Meddyliwch am gymdeithasau tai, darparwyr iechyd a gofal, ac eraill: mae’r mathau hyn o gyrff yn ddelfrydol er mwyn cynnig llwybrau tuag at ddinasyddiaeth fyd eang.
Felly hefyd, dylai bod pobl yn cael cyfle i ymgynnull ag eraill yn eu cymuned leol, ac o bellach i ffwrdd, er mwyn dysgu, trafod, a derbyn safbwyntiau gwahanol. Dylai bod y cyfleoedd hyn ar gael wyneb yn wyneb ac ar-lein, neu drwy ddulliau eraill o bell, a dylent fod ar gael am ddim, ac yn cael eu cefnogi a’u hwyluso fel bod pobl yn cael eu grymuso i drafod newid, ac i ystyried eu rhan nhw eu hunain o ran gwireddu'r newid hwnnw ar lefel ymarferol.
Drwy greu CTER, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i genhadaeth ddinasyddiaeth darparwyr addysg, a’r cysyniad deuol o ‘fyfyrwyr fel dinasyddion’ a ‘dinasyddion fel myfyrwyr’, a photensial Cwricwlwm i Gymru, mae’r sefyllfa’n barod iawn ar gyfer ysgogi newid gwirioneddol.
Drwy ddod â’r bobl a’r sefydliadau cywir ynghyd, drwy fod yn barod i feddwl yn greadigol ac yn uchelgeisiol, a drwy ddefnyddio ein hadnoddau yn effeithiol ac yn effeithlon, gallwn wireddu addysg dinasyddiaeth fyd eang i bawb yng Nghymru.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891