Mae'n wir ddrwg gan y Brifysgol Agored glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ac mae'n ymuno â phobl o bedwar ban byd i fynegi ein cydymdeimlad â'r Teulu Brenhinol.
Mewn ymateb i'w marwolaeth, dywedodd yr Athro Tim Blackman, Is-ganghellor y Brifysgol Agored: “Ar ran y Brifysgol Agored, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â'r Teulu Brenhinol.
“Caiff Ei Mawrhydi ei chofio fel cymeriad hanesyddol arwyddocaol dros ben ac yn un a arweiniodd y wlad drwy'r cyfnodau gorau a'r gwaethaf. Mae ar bob un ohonom yn y Brifysgol Agored, a thu hwnt, ddyled enfawr iddi am oes o wasanaeth cyhoeddus sydd wedi ymestyn dros gynifer o adegau arwyddocaol ac wedi cyffwrdd â chynifer o fywydau.
“Roedd Ei Mawrhydi yn eiriolwr angerddol dros rym addysg, fel y gwelir drwy ei chefnogaeth i gynlluniau fel Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ac amrywiaeth o weithgarwch dros y blynyddoedd. Gwnaeth ei hymweliad â'n Campws yn Milton Keynes yn 1979, ar achlysur ein degfed pen-blwydd, chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y Brifysgol Agored, gan helpu i roi mwy o hygrededd i'r hyn a oedd yn cael ei ystyried yn arbrawf addysgol o hyd ar y pryd.
“Byddwn ni, y Brifysgol Agored, nawr yn ymuno â'r Teulu Brenhinol, y wlad a'r byd i alaru o golli brenhines anhygoel."
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae llawer ohonom ag awydd am gychwyn newydd yn y Flwyddyn Newydd. Beth am roi cychwyn da i’ch mis Ionawr drwy ddatblygu eich sgiliau digidol gydag OpenLearn?
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi staff gofal iechyd i fentro ar un o’i modiwlau cyflwyniadol blaengar.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891