You are here

  1. Hafan
  2. Prifysgolion Cymru yn helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn cymunedau ledled Cymru

Prifysgolion Cymru yn helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn cymunedau ledled Cymru

Lynnette Thomas, yn traddodi araith yn y Senedd

Ddydd Mawrth 27 Mehefin, cymerodd y Brifysgol Agored yng Nghymru ran mewn arddangosfa yn y Senedd i ddangos sut mae prifysgolion yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

Roedd y digwyddiad, a gynullwyd gan Rwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru, yn arddangos y gwaith y mae prifysgolion yng Nghymru yn ei wneud i helpu â lliniaru tlodi o wahanol fathau – o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd a thlodi bwyd, i weithio gyda grwpiau difreintiedig i wella mynediad at ddiwylliant a'r celfyddydau. 

Ymhlith y prosiectau a drafodwyd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru oedd REACH Cymru, prosiect celfyddydau creadigol sy'n cefnogi pobl mewn pum cymuned yng Nghymru i archwilio cysylltiadau â hanes eu hardaloedd lleol. Mae’r tîm wedi gweithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys arweinwyr cymunedol, cymdeithasau tai ac Amgueddfa Cymru. 

Ymhlith y cymunedau sy’n cymryd rhan mae: 

  • pobl sy'n byw yn Nhrebiwt, Caerdydd, un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y DU 
  • ardal Sandfields ym Mhort Talbot, tref sydd wedi bod wrth galon hanes diwydiannol Cymru 
  • sawl ardal lled-wledig ar draws Sir Benfro 
  • pobl ag anabledd dysgu sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg 
  • ardaloedd o Wynedd gyda chysylltiadau â chwarela a chloddio llechi. 

Mae gan ein prifysgolion rôl bwysig i’w chwarae mewn cymunedau ledled Cymru, y tu hwnt i’w cylch gorchwyl traddodiadol o ddysgu, addysgu ac ymchwil,’ meddai. Lynnette Thomas, dirprwy gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, sydd hefyd yn gadeirydd Rhwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru.

Mae tlodi yn her gynyddol sy’n wynebu pobol a lleoliadau yng Nghymru. Drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau, busnesau ac asiantaethau eraill, mae prifysgolion yn cael effaith sylweddol yn y maes hwn, gan ddod o hyd i ddatrysiadau arloesol i heriau a gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl ledled y wlad.

Mae digwyddiad heddiw yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio a meddwl yn greadigol, ac edrychaf ymlaen at weld beth arall y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.’

Mae’r digwyddiad yn dod dwy flynedd wedi lansiad Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig Cymru, sydd wedi galluogi Prifysgolion i gydweithio â phartneriaid i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Er bod mwy i’w wneud bob amser, rwy’n falch bod sector addysg uwch Cymru yn arwain y ffordd gyda’n Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig,’, ychwanegodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg a Addysg.

Mae gan brifysgolion a sefydliadau addysg uwch rôl hollbwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â thlodi, oherwydd mae ganddynt adnoddau a galluoedd unigryw a all greu effaith sylweddol. Mae'n wych gweld ymrwymiad y sector i hyn.

Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn annog sefydliadau i ymestyn y tu hwnt i’r campws a sicrhau bod yr arfer da hwn yn parhau, yn datblygu ac yn tyfu mewn pwysigrwydd dros amser.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

Graddedigion yn seremoni raddio y Brifysol Agored yng Nghymru

Y Brifysgol Agored yng Nghymru ar frig prifysgolion Cymru am foddhad myfyrwyr

Mae myfyrwyr ledled Cymru wedi sgorio’r Brifysgol Agored yng Nghymru fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.

10 Gorffennaf 2024
Staff busnes yn trafod prosiect o gwmpas bwrdd

Bron i hanner busnesau Cymru yn adrodd prinder sgiliau ac yn brin o hyder ym maes deallusrwydd artiffisial a thechnoleg werdd

Mae bron i hanner (47%) busnesau Cymru yn dweud eu bod yn cael trafferth gyda phrinder sgiliau, sy’n llawer llai na 62% o’r rheini yng ngweddill y DU.

19 Mehefin 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891