You are here

  1. Hafan
  2. Cyllid loteri newydd i brosiect treftadaeth Cymru y Brifysgol Agored

Cyllid loteri newydd i brosiect treftadaeth Cymru y Brifysgol Agored

A view of Port Talbot

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cael cyllid i ddatblygu prosiect treftadaeth arloesol.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) wedi dyfarnu grant i'r Brifysgol Agored a'i Chyfadran Gwyddorau a Chelfyddydau Cymdeithasol i gefnogi cam nesaf REACH Cymru (trigolion yn ymgysylltu â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth), a sefydlwyd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru. Bydd tîm y prosiect yn cefnogi pobl mewn pum rhan yng Nghymru i archwilio eu cysylltiadau â'u hardal, yn ogystal â'i hanes, drwy'r celfyddydau.

Y pum cymuned yw:

  • Pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn Butetown, Caerdydd
  • Yr ardal ôl-ddiwydiannol yn Sandfields, Port Talbot
  • Cymunedau rhannol wledig ledled Sir Benfro
  • Pobl sy'n siarad Cymraeg yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd
  • Pobl leol gydag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg

Y partneriaid sy'n gweithio gyda'r Brifysgol Agored ar REACH Cymru yw:

  • Amgueddfa Cymru
  • Adra (Tai) Cyfyngedig
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • ateb Group Limited
  • Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru
  • Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf
  • Ymddiriedolaeth Arloesi
  • Cymdeithas Tai Linc Cymru
  • Casgliad y Werin Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cymdeithas Tai Taf

Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn y cam datblygu a fu yn 2023, a gafodd ei ariannu hefyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol .

Yn ystod y cam hwnnw, defnyddiodd aelodau'r cymunedau ffurfiau celf fel paentiadau a darluniau, ysgrifennu'n greadigol yn ogystal â thynnu ffotograffau er mwyn myfyrio ar dreftadaeth eu hardaloedd lleol. Bydd y cam nesaf yn ymestyn dros 150 o ddigwyddiadau celf a threftadaeth dros y ddwy flynedd nesaf

‘Diolch i chwaraewyr y loteri ac i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym wedi llwyddo i ddatblygu REACH Cymru fel bod modd i ni weithio gyda mwy o bobl nag erioed o'r blaen, gan gyflwyno sgiliau creadigol newydd iddynt a'u cysylltu â'u treftadaeth,' dywedodd Dr Richard Marsden, arweinydd academaidd y prosiect.

'Bydd REACH Cymru yn helpu pobl o bob cefndir i ddeall mwy am eu cymunedau a'u hanes, drwy weithgareddau creadigol. Drwy wneud hyn, byddwn yn dangos budd dysgu gydol oes, helpu i wella sgiliau, ac yn annog pobl i feddwl am eu llesiant eu hunain.

Yn 2020-22, cyflwynwyd REACH BG gan Y Brifysgol Agored - prosiect tebyg i bobl sy'n byw ym Mlaenau Gwent

Mae'r cynlluniau ar gyfer cam nesaf REACH Cymru yn cynnwys:

  • arddangosfa ddigidol ar wefan REACH Cymru
  • arddangosfa wyneb yn wyneb yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
  • archif ar-lein o'r gwaith a gynhyrchwyd gan bobl a oedd yn rhan o'r prosiect ar wefan Casgliad y Werin Cymru
  • arddangosfeydd a gosodiadau dros dro ledled y pum cymuned
  • tri chwrs newydd ar-lein ar OpenLearn, sef llwyfan dysgu am ddim Y Brifysgol Agored.

Gwybodaeth am Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

'Made possible with Heritage Fund' logo

Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr mwyaf o dreftadaeth y DU. Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth. Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a’i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. O adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a’r amgylchedd naturiol, i gasgliadau, traddodiadau, straeon a mwy. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Credwn mewn nerth treftadaeth i danio’r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol.

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws

Newyddion

A view of Port Talbot

Cyllid loteri newydd i brosiect treftadaeth Cymru y Brifysgol Agored

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cael cyllid i ddatblygu prosiect treftadaeth arloesol.

30 Gorffennaf 2024
Gweld pob un

Ar gyfer ymholiadau cyfryngau'r Brifysgol Agored yng Nghymru:

Rhodri Davies 
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532

Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891