You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Cyrsiau a Chymwysterau

Cyrsiau a Chymwysterau

Fel darparydd mwyaf astudiaeth ran amser prifysgol yng Nghymru, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig dewis eang o gymwysterau mewn ystod eang o bynciau. Fel rhan o’r brifysgol fwyaf yn y DU, gallwn ddarparu addysg o safon byd-eang, gan eich cynorthwyo i gwrdd a’ch amcanion proffesiynol a phersonol. 

Gyda benthyciadau ffioedd dysgu, cymorth ariannol, ac opsiynau talu wrth fynd ar gael, mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn llawer mwy fforddiadwy na’r disgwyl. Gall ein staff lleol roi cyngor ar yr opsiwn gorau i chi, felly cysylltwch â ni neu dewch i'n gweld yn un o'n digwyddiadau lleol ledled Cymru.  

Edrychwch ar ein cyrsiau fesul pwnc

Ôl-raddedig

Os ydych chi'n chwilio am astudiaeth ôl-raddedig, porwch ein detholiad o gyrsiau ôl-radd yma ac ar gyfer y cwrs TAR yng Nghymru cliciwch yma.