Mae ein myfyrwyr yn dod o bob cefndir. Nid ydym yn brifysgol sy'n derbyn un math o fyfyriwr yn unig, credwn fod pob dysgwr yn unigryw.
Mae gan ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr ledled Cymru eu cefndiroedd, nodau, a straeon eu hunain i'w rhannu, ac rydym yma i'w cefnogi ar hyd y daith. Cewch air gan rai o'n myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr isod wrth iddynt rannu eu taith gyda’r Brifysgol Agored.
Os ydych wedi eich ysbrydoli gan straeon rhyfeddol ein myfyrwyr, edrychwch ar ein hystod o gyrsiau. Archwiliwch yr hyn sy’n bosib pan rydych yn dysgu o amgylch eich bywyd gyda’r Brifysgol Agored.
Gofynnwch am eich prosbectwsAr ôl blynyddoedd o or-bryder dwys, cafodd Hayley ei brawychu gan y syniad o fynd i'r brifysgol.
Fel mam i ddau o blant, gallai gydbwyso ei hastudiaethau ac amser teulu gyda'r Brifysgol Agored. Yn 2022, graddiodd Hayley gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes - rhywbeth nad oedd hi byth yn meddwl oedd yn bosibl.
Gadawodd Llŷr yr ysgol yn 2011 ar ôl gorffen ei lefel uwch. Ar ôl gweithio mewn cwmni cyfrifeg am chwe blynedd, roedd am fynd yn ôl i fyd addysg.
Trwy astudio yn y Brifysgol Agored, ail-daniodd ei gariad at ieithoedd a graddiodd gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg.
Dilynodd Michael, sy’n Gymro Cymraeg, ei gariad at fioleg, ac astudiodd i fod yn athro gwyddoniaeth gyda’r Brifysgol Agored.
Ar ôl cwblhau ei TAR, llwyddodd i aros ymlaen yn yr ysgol uwchradd lle cafodd ei gyflogi fel technegydd gwyddoniaeth, ac mae bellach yn gweithio fel athro cymwys.