Rydym eisiau i chi lwyddo yn eich astudiaethau gyda’r Brifysgol Agored a chyrraedd eich potensial. Gwyddom fod dysgu o bell yn ffordd wych o gyfuno addysg â bywyd gwaith a theulu, ond nid ydym eisiau i chi deimlo ar eich pen eich hunan.
Mae gennym dîm o bobl yn ein swyddfa Gaerdydd sydd ond galwad ffôn neu e-bost i ffwrdd. Fedrant roi cyngor i chi ar astudio, trafod problemau’n ymwneud â’ch cwrs, neu roi rhai opsiynau os mae’ch amgylchiadau personol wedi newid. Maen nhw'n deall am gyllid myfyrwyr a sut mae'n gweithio yng Nghymru.
Dilynwch eu stori uchod i gwrdd â nhw.
Gallwch gysylltu â'r tîm ar 029 2047 1170 neu cymorth-cymru@open.ac.uk
Mae gennym dudalennau Facebook a Twitter ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru. Yma gallwch ddysgu mwy am ein gwaith ac ymuno yn y sgwrs gyda myfyrwyr eraill ar draws Cymru.
Gallwch hefyd danfon cwestiynau i’n tîm cefnogi myfyrwyr ar rhain.
Yr ydym bob tro eisiau clywed am eich cwrs a sut ydych yn dod yn ei flaen, felly beth am dagio ni mewn post?
Gallwch hefyd cofrestru i’n rhestr ddosbarthu e-bost.
Dyma rai gwasanaethau eraill gallant fod yn ddefnyddiol yn ystod eich amser gyda ni:
Cymdeithas y Myfyrwyr y Brifysgol Agored
Profiad gwaith a lleoliad gwaith
Togetherall. Mae’r adnodd hwn ar gael am ddim i fyfyrwyr y Brifysgol, ac yn cynnig gofod diogel i chi ddweud eich dweud, archwilio’ch teimladau a hunan-reoli eich iechyd meddwl a daioni.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw